Matthew Lefi 21:42-44
Matthew Lefi 21:42-44 CJW
Iesu á atebodd, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr ysgrythyrau, “Maen à wrthododd yr adeiladwyr á wnaed yn ben y gongl. Hyn á wnaeth yr Arglwydd, a rhyfedd yw yn ein golwg ni.” Gwybyddwch, gàn hyny, y dygir teyrnas Duw oddarnoch chwi, ac y rhoddir hi i genedl à ddwg ei ffrwythau. Canys pwy bynag á syrthio àr y maen hwn, á falurir; ond àr bwybynag y syrthio y maen hwn, efe a’i mâl ef yn chwilfriw.