Akara Njirimara YouVersion
Akara Eji Eme Ọchịchọ

Matthew Lefi 19:26-30

Matthew Lefi 19:26-30 CJW

Yna Pedr gàn ateb, á ddywedodd, Am danom ni, nyni á adawsom bob peth, ac á’th ganlynasom di; beth gàn hyny fydd ein gobr? Iesu a atebodd, Yn wir, meddaf i chwi, yn yr Adnewyddiad, pàn seddir Mab y Dyn àr ei orsedd ogoneddfawr, cewch chwi, fy nghanlynwyr, eistedd àr ddeg a dwy orsedd, yn barnu deg a dau lwyth Israel. A phwybynag á adawo dai, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, o’m hachos, i, á dderbyn gànn cymaint, a bywyd tragwyddol á etifedda efe. Ond llawer o’r rhai olaf fyddant yn flaenaf, ac o’r rhai blaenaf yn olaf.