Matthew Lefi 19:16-22
Matthew Lefi 19:16-22 CJW
Gwedi hyny, un gàn ddynesu, á ddywedodd wrtho, Athraw da, pa dda sy raid i mi wneuthur i gael bywyd tragwyddol? Yntau á atebodd, Paham y gelwi fi yn dda? Duw yn unig sy dda. Os mỳni fyned i fewn i’r bywyd hwnw, cadw y gorchymynion. Dywedodd yntau wrtho, Pa rai? Iesu á atebodd, “Na lofruddia. Na odineba. Na ladrata. Na chamdystiolaetha. Anrhydedda dad a mam; a char dy gymydog fel ti dy hun.” Y gwr ieuanc á atebodd, Mi á gedwais y rhai hyn oll o’m hieuenctid. Yn mha beth yr wyf eto yn ddiffygiol? Iesu á atebodd, Os mỳni fod yn berffaith, dos gwerth dy feddiannau, a dyro y gwerth i’r tylodion, a thi á gai drysor yn y nef; yna dyred a chanlyn fi. Y gwr ieuanc, wedi clywed hyn, á aeth ymaith yn athrist, oblegid yr oedd ganddo feddiannau lawer.