Luwc 20:45-47
Luwc 20:45-47 CJW
Yna, yn nghlywedigaeth yr holl bobl, efe á ddywedodd wrth ei ddysgyblion, Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai á garant rodio mewn dillad llaesion, ac á hoffant gyfarchiadau mewn lleoedd cyhoeddus, a’r prif eisteddlëoedd yn y cynnullfëydd, a’r lleoedd uchaf mewn gwleddau; y rhai sydd yn difa teuluoedd gwragedd gweddwon, ac yn gwneuthur gweddiau hirion yn rhithesgus. Y rhai hyn á ddyoddefant y gosb lèmaf.