Akara Njirimara YouVersion
Akara Eji Eme Ọchịchọ

Ioan 2:18-22

Ioan 2:18-22 CJW

Am hyny yr Iuddewon á atebasant ac á ddywedassant wrtho, Drwy ba wyrth yr wyt ti yn dangos i ni dy hawl i wneuthur y pethau hyn? Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Dinystriwch y deml hon, a mi á’i cyfodaf hi drachefn mewn tridiau. Yr Iuddewon á adatebasant, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y deml hon; ac á gyfodit ti hi mewn tridiau? (Ond wrth y deml y meddyliai efe ei gorff.) Am hyny pàn gyfododd efe o feirw, ei ddysgyblion ef á gofiasant iddo ddywedyd hyn, a hwy á ddeallasant yr ysgrythyr, a’r gair à ddywedasai Iesu.