Akara Njirimara YouVersion
Akara Eji Eme Ọchịchọ

Salmau 4:8

Salmau 4:8 SC1875

O dan dy aden gorwedd gaf, Ac yn dy heddwch huno wnaf, Heb ofn na blinder i’m llesghau: Can’s ti, O Arglwydd! beri ’mi Gael gorphwys yn dy heddwch di, Mewn diogelwch i barhau. NODIADAU. Tybiwn mai yn ystod tymmor ei drigias yn llys Saul y cyfansoddodd Dafydd y salm hon, lle yr oedd efe dan fath o erledigaeth, o herwydd ei ddefosiwn crefyddol, oddi wrth dywysogion annuwiol y llys hwnw. Y mae efe yma, yn gyntaf, yn tywallt ei weddi ger bron Duw, ar gael o hono ei gynnal a’i nerthu yn wyneb dirmyg gelynion Duw a chrefydd. Yn ail, yn ceryddu ei elynion hyny am eu hanystyriaeth a’u rhyfyg; yn eu cynghori i holi a gwrandaw ar lais eu cydwybodau eu hunain, ac i ddychwelyd at Dduw, ac ymroddi i’w wasanaeth. Yn olaf, y mae efe yn dal cymmundeb â’i galon ei hun, ac â’i Dduw; yn adrodd ei brofiad cysurus oddi ar fwynhâd dedwydd o heddwch Duw, a thystiolaeth ei gydwybod ei hun. Dengys ei weddi fer ar ddechreu y salm, yn 1. Pa mor bryderus yr oedd y gweddïwr mawr hwn am wrandawiad ei weddi. 2. Y dadleuon a ddefnyddiai am fod iddo gael ei wrandaw felly. Sef, yn 1af, Yr hyn oedd Duw iddo:— “Duw fy nghyfiawnder.” Yn 2il, Yr hyn a wnaethai Duw erddo eisoes:— “Mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf.” Yn ei gerydd a’i gynghor i’w elynion, dengys iddynt eu hynfydrwydd yn eu gwaith yn ymofyn dedwyddwch mewn pleserau cnawdol, elfenau trueni a dinystr, ac yn dirmygu gweddi a gwasanaeth Duw, unig ffynnonell gwir a sylweddol ddedwyddwch, gan eu cymmhell i wneyd prawf o grefydd drostynt eu hunain, cyn ei barnu a’i diystyru; a chadarnhâ ei gynghor iddynt â thystiolaeth ei brofiad ei hun. Y mae y salm yn enghraifft o lawer mewn ychydig; geiriau doethion, y rhai sydd megys symbylau, ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistr y gynnulleidfa.