Akara Njirimara YouVersion
Akara Eji Eme Ọchịchọ

Marc 2:13-17

Marc 2:13-17 DAW

Aeth Iesu allan eto i lan y môr, a daeth yr holl dyrfa ato, ac roedd yntau'n eu dysgu. Wrth fynd heibio gwelodd Lefi mab Alffeus yn eistedd wrth y dollfa, a dwedodd wrtho, “Dilyn fi.” Cododd hwnnw a dilynodd ef. Roedd hi bellach yn amser cinio, ac roedd llawer o gasglwyr trethi a phechaduriaid yn bwyta gyda Iesu a'i ddisgyblion, am fod cynifer ohonyn nhw ymhlith ei ddilynwyr. Pan welodd ysgrifenyddion y Phariseaid ei fod yn bwyta gyda'r pechaduriaid a'r casglwyr trethi, gofynnon nhw i'w ddisgyblion, “Pam mae e'n bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?” Clywodd Iesu hyn, a dwedodd, “Does dim angen meddyg ar bobl iach, y claf sy angen meddyg; dydw i ddim wedi dod i alw pobl gyfiawn, ond i alw pechaduriaid.”