Akara Njirimara YouVersion
Akara Eji Eme Ọchịchọ

Marc 1:21-28

Marc 1:21-28 DAW

Daeth Iesu a'i ddisgyblion i Gapernaum ac ar y Saboth, dydd sanctaidd yr Iddewon, aeth i mewn i'r synagog a dechrau dysgu. Roedd y bobl yn synnu at yr hyn a ddwedai; roedd ef yn eu dysgu nhw fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel y gwnâi athrawon y gyfraith. Roedd dyn gwallgof yn y synagog yn gweiddi, “Beth wyt ti ei eisiau gyda ni, Iesu o Nasareth? Wyt ti wedi dod i'n difetha ni? Rydw i'n dy nabod di — ti ydy Sanct Duw!” Ceryddodd Iesu yr ysbryd aflan a dweud: “Bydd ddistaw, a dos allan ohono.” Yna, wedi ei gynhyrfu, rhoddodd y dyn floedd uchel, a gadawodd yr ysbryd aflan ef. Roedd pawb wedi eu syfrdanu gymaint nes troi a holi ei gilydd: “Beth ydy hyn? Dyma addysg newydd! Mae hwn yn gorchymyn hyd yn oed ysbrydion aflan ac maen nhw'n ufudd iddo!” Aeth y sôn amdano ar led drwy holl gymdogaeth Galilea.