Gwedi yr ymadrawdd hwn, Iesu á gerddodd yn mlaenaf, gàn ymdaith tua Chaersalem. Pan ddaeth efe yn agos at Fethphage a Bethania, gèr y mynydd à elwir Mynydd yr Oleẅwydd, efe á ddanfonodd ddau o’i ddysgyblion, gan ddywedyd, Ewch i’r pentref acw, lle, àr eich mynediad i fewn, y cewch ebol wedi ei rwymo, àr yr hwn ni farchogodd dyn erioed; gollyngwch ef, a dygwch yma. Os gofyn neb paham y gollyngwch ef, chwi á atebwch, Am fod yn raid i’r Meistr wrtho. Yn ganlynol, y rhai à ddanfonasid á aethant, ac á gawsant bob peth fel y dywedasai efe wrthynt. Fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol, y perchenogion á ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gollwng yr ebol? Hwythau á atebasant, Y mae yn raid i’r Meistr wrtho. Felly hwy á’i dygasant ef at Iesu, a gwedi iddynt daflu eu mantelli àr yr ebol, hwy á ddodasant Iesu arno. Fel yr oedd efe yn myned, y bobl á daenasant eu mantelli àr hyd y ffordd o’i flaen ef. Wedi dyfod o hono mòr agos â disgynfa Mynydd yr Oleẅwydd, yr holl liaws dysgyblion á ddechreuasant foliannu Duw mewn bloddestau uchel, am yr holl wyrthiau à welsent, gàn ddywedyd, Bendigedig fyddo y Brenin sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd! Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchaflëoedd! Ar hyn, rhyw Phariseaid yn y dyrfa, á ddywedasant wrtho, Rabbi, cerydda dy ddysgyblion. Yntau á atebodd, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, pe tawai y rhai dyn, y llefai y cèryg.