Yna y dywedodd efe wrth ei ddysgyblion, Yr amser á ddaw pan chwennychoch weled un o ddyddiau Mab y Dyn, a nis gwelwch. Ond pan ddywedant wrthych, Wele, yma! neu Wele, acw! nac ewch allan iddeu canlyn hwynt. Canys fel y mae y fellten yn melltenu mewn amrantiad o’r naill eithaf i’r wybr i’r llall, felly y bydd ymddangosiad Mab y Dyn yn ei ddydd ef. Ond yn gyntaf, y mae yn raid iddo ddyoddef llawer, a chael ei wrthod gàn y genedlaeth hon. A megys y bu yn nyddiau Nöa, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y Dyn. Yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn gwreica, yn gŵra, hyd y dydd yr aeth Nöa i fewn i’r arch pryd y daeth y dylif, ac á’u dyfethodd hwynt oll. Yr un modd hefyd ag y bu yn nyddiau Lot, yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plànu, yn adeiladu; ond y dydd yr aeth Lot allan o Sodoma, y gwlawiodd tân a llosgfaen o’r nef, yr hwn á’u dyfethodd hwynt oll. Felly hefyd y bydd yn y dydd yr ymddengys Mab y Dyn. Yn y dydd hwnw, y neb à fyddo àr ben y tŷ, a’i ddodrefn o fewn y tŷ, na ddisgyned iddeu cymeryd hwynt. Y neb à fyddo yn y maes, na ddychweled adref. Cofiwch wraig Lot. Pwybynag á geisio gadw ei einioes, á’i cyll; a phwybynag á gollo ei einioes, á’i ceidw hi. Yr wyf yn dywedyd i chwi, Y nos hòno y bydd dau yn yr un gwely; y naill á gymerir, a’r llall á adewir. Dwy á fyddant yn malu yn yr un lle; y naill á gymerir, a’r llall á adewir. Yna hwy á ofynasant iddo, Pa le, Feistr? Yntau á atebodd, Llebynag y byddo y corff, yno yr ymgasgl yr eryrod.