1
Salmau 31:22-24
Salmau Cân Newydd 2008 (Gwynn ap Gwilym)
Yn fy nychryn fe ddywedais, “Torrwyd fi yn llwyr o’th ŵydd”; Ond pan waeddais am dy gymorth, Clywaist ti fy ngweddi’n rhwydd. Carwch Dduw, ei holl ffyddloniaid, Cans fe’ch ceidw â’i law gref. Byddwch wrol eich calonnau, Bawb sy’n disgwyl wrtho ef.
Lee anya n'etiti ihe abụọ
Nyochaa Salmau 31:22-24
2
Salmau 31:12-15
Fe’m hanghofiwyd fel un marw; Llestr a dorrwyd wyf yn awr. Mae rhai’n cynllwyn am fy mywyd: Ar bob tu mae dychryn mawr. Ond rwyf fi’n ymddiried ynot, Ac yn dweud, “Ti yw fy Nuw”. Yn dy law y mae f’amserau. Gwared fi, a byddaf byw.
Nyochaa Salmau 31:12-15
3
Salmau 31:19-21
Mawr i’r rhai sy’n d’ofni, Arglwydd, Dy ddaioni di o hyd. Yr wyt yn rhoi lloches iddynt, A’i amlygu i’r holl fyd. Fe’u cysgodi rhag gwag glebran Y tafodau cas eu si. Bendigedig yw yr Arglwydd: Bu mor ffyddlon wrthyf fi.
Nyochaa Salmau 31:19-21
4
5
Salmau 31:1-4
Ynot, Arglwydd, ceisiais loches; Na foed c’wilydd arnaf byth; Achub fi yn dy gyfiawnder. Gwared fi yn union syth. Bydd i mi yn graig a noddfa. Er mwyn d’enw, tywys fi. Tyn fi o’r rhwyd sy’n cau amdanaf, Cans fy noddfa ydwyt ti.
Nyochaa Salmau 31:1-4
6
Salmau 31:5-8
I’th law di cyflwynaf f’ysbryd. Rwyt ti, Arglwydd, yn casáu Pawb sy’n glynu wrth wag-oferedd Ac addoli duwiau gau. Llawenhaf yn dy ffyddlondeb. Gwelaist fy nghyfyngder prudd; Ac ni’m rhoddaist yn llaw’r gelyn, Ond gollyngaist fi yn rhydd.
Nyochaa Salmau 31:5-8
7
8
Ulo
Akwụkwọ Nsọ
Atụmatụ
Vidiyo