Matthew Lefi 16:13-20

Matthew Lefi 16:13-20 CJW

Fel yr oedd Iesu yn myned i dalaeth Caisarea Philippi, efe á ofynodd iddei ddysgyblion, gàn ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd yw Mab y Dyn? Hwythau á atebasant, Rhai a ddywedant, Iöan y Trochiedydd; ereill, Elias; ereill Ieremia, neu un o’r proffwydi. Ond pwy, meddai efe, y dywedwch chwi fy mod i? Simon Pedr gàn ateb, á ddywedodd, Ti yw y Messia, Mab y Duw byw. Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrtho, Gwỳn dy fyd di, Simon ab‐Iona; canys nid cig a gwaed á ddadguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Yr wyf finnau yn dywedyd i ti, Ti á elwir Càreg; ac àr y graig hon yr adeiladaf fy nghynnulleidfa, yn erbyn yr hon ni lwydda pyrth Hades. Heblaw hyny, mi á roddaf i ti allweddau teyrnas y nefoedd; bethbynag á rwymych ár y ddaiar, á fydd rwymedig yn y nefoedd; a phethbynag á ryddâych àr y ddaiar, á fydd wedi ei ryddâu yn y nefoedd. Yna y gwaharddodd efe iddei ddysgyblion ddywedyd i neb mai efe yw y Messia.