Matthew Lefi 15:21-28
Matthew Lefi 15:21-28 CJW
Yna Iesu à giliodd i gyffiniau Tyrus a Sidon, ac wele! gwraig Ganaanëaidd o’r tiriogaethau hyn á ddaeth ato, gàn lefain, Feistr, Fab Dafydd, tosturia wrthyf; y mae fy merch yn cael ei blino yn dost gàn gythraul. Ond ni roddes efe un ateb iddi. Yna ei ddysgyblion á gyfryngasant, ac à attolygasant iddo, gàn ddywedyd, Gollwng hi ymaith, canys y mae hi yn llefain àr ein hol ni. Yntau gàn ateb, á ddywedodd, Fy anfoniad i sydd yn unig at ddefaid colledig cyff Israel. Er hyny, hi á ddynesodd, ac á ymgrymodd o’i flaen ef, gàn ddywedyd, O Arglwydd, cymhorth fi. Yntau á atebodd, Nid gweddus yw cymeryd bara y plant, a’i daflu i’r cwn. Gwir, Syr, meddai hithau, Er hyny, gadewir i’r cwn gael y briwsion à ddisgynant oddar fwrdd eu meistr. Yna Iesu, gàn ateb, á ddyweddodd wrthi, O wraig! mawr yw dy ffydd. Bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A’i merch á iachâwyd y cythrym hwnw.