Matthew Lefi 14:15-21

Matthew Lefi 14:15-21 CJW

Tu a’r hwyr, ei ddysgyblion á’i cyfarchasant ef, gàn ddywedyd, Y mae y lle hwn yn annghyfannedd, a’r amser weithian á aeth heibio, gollwng ymaith y dyrfa, fel yr elont i’r pentrefydd, a phrynu iddynt eu hunain ymborth. Iesu á atebodd, Ni raid iddynt fyned. Diwallwch hwynt eich hunain. Hwythau á ddywedasant wrtho, Nid oes genym ni yma ond pumm torth a dau bysgodyn. Yntau á atebodd, Dygwch hwynt yma ataf fi. Yna gwedi gorchymyn i’r bobl ledorwedd àr y glaswellt, efe á gymerodd y pumm torth a’r ddau bysgodyn, a chàn edrych tua’r nef, á’u bendithiodd hwynt; yna gwedi tòri y torthau, efe á’u rhoddes iddei ddysgyblion, a hwy á’u rhànasant yn mhlith y bobl. Wedi i bawb fwyta a chael eu digoni, hwy á ddygasant ymaith ddeg a dwy fasgedaid o’r briwfwyd gweddill. A’r rhai à fwytasent, oeddynt yn nghylch pumm mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.