Mathew 4

4
Yr Iesu’n cael ei brofi
1Yna fe arweiniwyd Iesu gan yr Ysbryd i’r tir anial i gael ei demtio gan y diafol. 2Bu heb fwyd am ddeugain niwrnod a deugain nos, ac o ganlyniad roedd ar lwgu. 3A dyma’r temtiwr ato a dweud, “Os ti yw Mab Duw, dywed wrth y cerrig yma am droi’n fara.”
4Atebodd yntau, “Fel hyn y dywed yr Ysgrythur, ‘Ni all dyn fyw ar fara’n unig, ond ar bob gair a ddaw o enau Duw’.”
5Dyma’r diafol wedyn yn ei gymryd i’r Ddinas Santaidd, a’i osod ar dŵr ucha’r Deml. 6“Os ti yw Mab Duw,” meddai wrtho, “tafla dy hun i lawr. Oblegid fel hyn y dywed yr Ysgrythur,
‘Fe orchymyn ef i’w angylion ofalu amdanat;
Fe’th ddalian nhw di â’u dwylo,
Rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg’.”
7Atebodd yr Iesu, “Fel hyn y dywed yr Ysgrythur hefyd, ‘Paid â gosod prawf ar yr Arglwydd, dy Dduw’.”
8Unwaith eto, dyma’r diafol yn ei gymryd i ben mynydd uchel iawn, ac yn dangos iddo holl deyrnasoedd y byd yn eu gogoniant 9a dweud wrtho, “Mi’u rhof nhw i gyd i ti os plygi di i lawr i’m haddoli i.”
10“Dos odd ’ma, Satan,” meddai’r Iesu. “Dywed yr Ysgrythur, ‘Dim ond yr Arglwydd dy Dduw rwyt ti i’w addoli, a’i wasanaethu’.”
11Ar hynny, dyma’r diafol yn cilio ac angylion yn dod ac yn gweini ar Iesu.
I Galilea
12Pan glywodd Iesu fod Ioan wedi ei roi yng ngharchar, fe giliodd i Galilea, 13a chan adael Nasareth fe aeth i fyw yng Nghapernaum, ar lan llyn Galilea, yn nhiriogaeth Sabulon a Neffthali. 14Felly fe ddaeth geiriau’r proffwyd Eseia yn ffaith:
15Gwlad Sabulon a gwlad Neffthali,
Y ffordd i gyfeiriad y môr, y wlad tu draw i’r Iorddonen,
Galilea’r Cenhedloedd!
16Mae’r bobl fu’n eistedd mewn tywyllwch
Wedi gweld goleuni mawr;
Ar y rhai fu’n eistedd yn y tir sy dan gysgod marwolaeth
Fe dorrodd y wawr.
17O’r dydd hwnnw dechreuodd yr Iesu gyhoeddi ei genadwri: “Newidiwch eich ffordd o fyw! Mae teyrnasiad y Nefoedd wedi agosáu.”
Galw Disgyblion
18Wrth i’r Iesu gerdded ar lan Môr Galilea, fe welodd ddau frawd, Simon, a gafodd yr enw Pedr, a’i frawd Andreas. Bwrw rhwyd i’r môr roedden nhw ar y pryd, oherwydd pysgotwyr oedden nhw.
19“Dewch gyda mi,” meddai’r Iesu wrthyn nhw, “ac fe’ch dysgaf chi i ddal dynion.”
20A dyna nhw’n gadael eu rhwydau ar unwaith ac yn ei ddilyn. 21Wedi cerdded ymlaen o’r fan honno, gwelodd ddau frawd arall, Iago, mab Sebedeus, ac Ioan ei frawd. Mewn cwch gyda’u tad, Sebedeus, roedden nhw ar y pryd, yn paratoi eu rhwydau. 22Dyma fe’n eu galw nhwythau a dyma nhw eto’n gadael y cwch a’u tad ac yn mynd gydag ef.
Pregethu, dysgu, iacháu
23Yna, fe aeth o gwmpas yng Ngalilea i gyd, gan ddysgu yn eu synagogau a phregethu’r Newyddion Da am y Deyrnas, a gwella pob afiechyd a gwendid oedd ar y bobl. 24Daeth Syria gyfan i wybod amdano, a phobl yn dod â’r cleifion i gyd ato — rhai yn dioddef o bob math o glefydau a phoenau, rhai wedi eu meddiannu gan gythreuliaid, rhai epileptig a rhai wedi eu parlysu. Ac yntau’n eu gwella bob un. 25Y canlyniad oedd bod tyrfa fawr yn ei ddilyn ef o Galilea a’r Deg Tref, o Jerwsalem a Jwdea, ac o’r tu draw i’r Iorddonen.

Pilihan Saat Ini:

Mathew 4: FfN

Sorotan

Berbagi

Salin

None

Ingin menyimpan sorotan di semua perangkat Anda? Daftar atau masuk