Ar ol chwe diwrnod, Iesu á gymerodd Bedr, ac Iägo, ac Iöan brawd Iägo, o’r neilldu i ben mynydd uchel, ac á weddnewidiwyd yn eu gwydd hwynt. Ei wyneb á ddysgleiriai fel yr haul; a’i ddillad oedd cỳn wỳned â’r goleuni. Ac yn ebrwydd yr ymddangosodd iddynt Moses ac Elias yn ymddyddan ag ef. Pedr, àr hyn, gàn gyfarch Iesu, á ddywedodd, Feistr, da yw i ni aros yma; gwnawn yma, os mỳni, dri bwth; un i ti, ac un i Foses, ac un i Elias. Tra y llefarai efe, wele! cwmwl goleu á’u cysgododd hwynt, ac allan o’r cwmwl y daeth llef, yr hon á ddywedai, Hwn yw fy Mab, yr anwylyd, yn yr hwn yr ymhyfrydwyf; gwrandewch arno ef. Y dysgyblion wedi clywed hyn, á syrthiasant àr eu hwynebau, ac á ddychrynasant yn ddirfawr. Ond Iesu á ddaeth ac á gyfhyrddodd â hwynt, gàn ddywedyd, Cyfodwch; nac ofnwch. Yna gwedi codi eu golygon i fyny, ni welent neb ond Iesu.