Ioan 11
11
Marwolaeth Lasarus
1Yr oedd rhyw ddyn o'r enw Lasarus yn wael. Yr oedd yn byw ym Methania, pentref Mair a'i chwaer Martha. 2Mair oedd y ferch a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, a sychu ei draed â'i gwallt; a'i brawd hi, Lasarus, oedd yn wael. 3Anfonodd y chwiorydd, felly, neges at Iesu: “Y mae dy gyfaill, syr, yma'n wael.” 4Pan glywodd Iesu, meddai, “Nid yw'r gwaeledd hwn i fod yn angau i Lasarus, ond yn ogoniant i Dduw; bydd yn gyfrwng i Fab Duw gael ei ogoneddu drwyddo.” 5Yn awr yr oedd Iesu'n caru Martha a'i chwaer a Lasarus. 6Ac wedi clywed ei fod ef yn wael, arhosodd am ddau ddiwrnod yn y fan lle'r oedd. 7Ac wedyn, dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Gadewch inni fynd yn ôl i Jwdea.” 8“Rabbi,” meddai'r disgyblion wrtho, “gynnau yr oedd yr Iddewon yn ceisio dy labyddio. Sut y gelli fynd yn ôl yno?” 9Atebodd Iesu: “Onid oes deuddeg awr mewn diwrnod? Os yw rhywun yn cerdded yng ngolau dydd, nid yw'n baglu, oherwydd y mae'n gweld golau'r byd hwn. 10Ond os yw rhywun yn cerdded yn y nos, y mae'n baglu, am nad oes golau ganddo.” 11Ar ôl dweud hyn meddai wrthynt, “Y mae ein cyfaill Lasarus yn huno, ond yr wyf yn mynd yno i'w ddeffro.” 12Dywedodd y disgyblion wrtho, “Arglwydd, os yw'n huno fe gaiff ei wella.” 13Ond at ei farwolaeth ef yr oedd Iesu wedi cyfeirio, a hwythau'n meddwl mai siarad am hun cwsg yr oedd. 14Felly dywedodd Iesu wrthynt yn blaen, “Y mae Lasarus wedi marw. 15Ac er eich mwyn chwi yr wyf yn falch nad oeddwn yno, er mwyn ichwi gredu. Ond gadewch inni fynd ato.” 16Ac meddai Thomas, a elwir Didymus, wrth ei gyd-ddisgyblion, “Gadewch i ninnau fynd hefyd, i farw gydag ef.”
Iesu, yr Atgyfodiad a'r Bywyd
17Pan gyrhaeddodd yno, cafodd Iesu fod Lasarus eisoes yn ei fedd ers pedwar diwrnod. 18Yr oedd Bethania yn ymyl Jerwsalem, ryw dri chilomedr oddi yno. 19Ac yr oedd llawer o'r Iddewon wedi dod at Martha a Mair i'w cysuro ar golli eu brawd. 20Pan glywodd Martha fod Iesu yn dod, aeth i'w gyfarfod; ond eisteddodd Mair yn y tŷ. 21Dywedodd Martha wrth Iesu, “Pe buasit ti yma, syr, ni buasai fy mrawd wedi marw. 22A hyd yn oed yn awr, mi wn y rhydd Duw i ti beth bynnag a ofynni ganddo.” 23Dywedodd Iesu wrthi, “Fe atgyfoda dy frawd.” 24“Mi wn,” meddai Martha wrtho, “y bydd yn atgyfodi yn yr atgyfodiad ar y dydd olaf.” 25Dywedodd Iesu wrthi, “Myfi yw'r atgyfodiad a'r bywyd. Pwy bynnag sy'n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; 26a phob un sy'n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth. A wyt ti'n credu hyn?” 27“Ydwyf, Arglwydd,” atebodd hithau, “yr wyf fi'n credu mai tydi yw'r Meseia, Mab Duw, yr Un sy'n dod i'r byd.”
Iesu'n Wylo
28Wedi iddi ddweud hyn, aeth ymaith a galw ei chwaer Mair a dweud wrthi o'r neilltu, “Y mae'r Athro wedi cyrraedd, ac y mae am dy weld.” 29Pan glywodd Mair hyn, cododd ar frys a mynd ato ef. 30Nid oedd Iesu wedi dod i mewn i'r pentref eto, ond yr oedd yn dal yn y fan lle'r oedd Martha wedi ei gyfarfod. 31Pan welodd yr Iddewon, a oedd gyda hi yn y tŷ yn ei chysuro, fod Mair wedi codi ar frys a mynd allan, aethant ar ei hôl gan dybio ei bod hi'n mynd at y bedd, i wylo yno. 32A phan ddaeth Mair i'r fan lle'r oedd Iesu, a'i weld, syrthiodd wrth ei draed ac meddai wrtho, “Pe buasit ti yma, syr, ni buasai fy mrawd wedi marw.” 33Wrth ei gweld hi'n wylo, a'r Iddewon oedd wedi dod gyda hi hwythau'n wylo, cynhyrfwyd ysbryd Iesu gan deimlad dwys.#11:33 Neu, gan ddicter. 34“Ble'r ydych wedi ei roi i orwedd?” gofynnodd. “Tyrd i weld, syr,” meddant wrtho. 35Torrodd Iesu i wylo. 36Yna dywedodd yr Iddewon, “Gwelwch gymaint yr oedd yn ei garu ef.” 37Ond dywedodd rhai ohonynt, “Oni allai hwn, a agorodd lygaid y dall, gadw'r dyn yma hefyd rhag marw?”
Galw Lasarus o'r Bedd
38Dan deimlad dwys#11:38 Neu, Yn ddig. drachefn, daeth Iesu at y bedd. Ogof ydoedd, a maen yn gorwedd ar ei thraws. 39“Symudwch y maen,” meddai Iesu. A dyma Martha, chwaer y dyn oedd wedi marw, yn dweud wrtho, “Erbyn hyn, syr, y mae'n drewi; y mae yma ers pedwar diwrnod.” 40“Oni ddywedais wrthyt,” meddai Iesu wrthi, “y cait weld gogoniant Duw, dim ond iti gredu?” 41Felly symudasant y maen. A chododd Iesu ei lygaid i fyny a dweud, “O Dad, rwy'n diolch i ti am wrando arnaf. 42Roeddwn i'n gwybod dy fod bob amser yn gwrando arnaf, ond dywedais hyn o achos y dyrfa sy'n sefyll o gwmpas, er mwyn iddynt gredu mai tydi a'm hanfonodd.” 43Ac wedi dweud hyn, gwaeddodd â llais uchel, “Lasarus, tyrd allan.” 44Daeth y dyn a fu farw allan, a'i draed a'i ddwylo wedi eu rhwymo â llieiniau, a chadach am ei wyneb. Dywedodd Iesu wrthynt, “Datodwch ei rwymau, a gadewch iddo fynd.”
Y Cynllwyn i Ladd Iesu
Mth. 26:1–5; Mc. 14:1–2; Lc. 22:1–2
45Felly daeth llawer o'r Iddewon, y rhai oedd wedi dod at Mair a gweld beth yr oedd Iesu wedi ei wneud, i gredu ynddo. 46Ond aeth rhai ohonynt i ffwrdd at y Phariseaid a dweud wrthynt beth yr oedd Iesu wedi ei wneud. 47Am hynny galwodd y prif offeiriaid a'r Phariseaid gyfarfod o'r Sanhedrin, a dywedasant: “Beth yr ydym am ei wneud? Y mae'r dyn yma'n gwneud llawer o arwyddion. 48Os gadawn iddo barhau fel hyn, bydd pawb yn credu ynddo, ac fe ddaw'r Rhufeiniaid a chymryd oddi wrthym ein teml a'n cenedl hefyd.” 49Ond dyma un ohonynt, Caiaffas, a oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, yn dweud wrthynt: “Nid ydych chwi'n deall dim. 50Nid ydych yn sylweddoli mai mantais i chwi fydd i un dyn farw dros y bobl, yn hytrach na bod y genedl gyfan yn cael ei difodi.” 51Nid ohono'i hun y dywedodd hyn, ond proffwydo yr oedd, ac yntau'n archoffeiriad y flwyddyn honno, fod Iesu'n mynd i farw dros y genedl, 52ac nid dros y genedl yn unig ond hefyd er mwyn casglu plant Duw oedd ar wasgar, a'u gwneud yn un. 53O'r diwrnod hwnnw, felly, gwnaethant gynllwyn i'w ladd ef.
54Am hynny, peidiodd Iesu mwyach â mynd oddi amgylch yn agored ymhlith yr Iddewon. Aeth i ffwrdd oddi yno i'r wlad sydd yn ymyl yr anialwch, i dref a elwir Effraim, ac arhosodd yno gyda'i ddisgyblion.
55Yn awr yr oedd Pasg yr Iddewon yn ymyl, ac aeth llawer i fyny i Jerwsalem o'r wlad cyn y Pasg, ar gyfer defod eu puredigaeth. 56Ac yr oeddent yn chwilio am Iesu, ac yn sefyll yn y deml a dweud wrth ei gilydd, “Beth dybiwch chwi? Nad yw ef ddim yn dod i'r ŵyl?” 57Ac er mwyn iddynt ei ddal, yr oedd y prif offeiriaid a'r Phariseaid wedi rhoi gorchmynion, os oedd rhywun yn gwybod lle'r oedd ef, ei fod i'w hysbysu hwy.
Jelenleg kiválasztva:
Ioan 11: BCNDA
Kiemelés
Megosztás
Másolás
Szeretnéd, hogy a kiemeléseid minden eszközödön megjelenjenek? Regisztrálj vagy jelentkezz be
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004