Hosea 2

2
PEN. II.—
1A bydd nifer meibion#plant. Israel fel tywod y môr;
Yr hwn nid ellir ei fesur, ac nid ellir ei gyfrif:
A bydd yn y fan lle y dywedwyd wrthynt,
Nid fy mhobl ydych chwi;
Y dywedir wrthynt meibion#plant. Duw byw.
2A meibion Judah a meibion Israel a gesglir ynghyd;
A hwy a osodant iddynt un pen,#llywyddiaeth. LXX.
A deuant i fyny o’r wlad:
Canys mawr fydd dydd Jezreel.
3Dywedwch wrth eich brodyr#brawd. LXX. Gelwch eich. Syr. Ammi#fy mhobl.,
Ac wrth eich chwiorydd#chwaer. LXX., Vulg. Ruchamah.#tosturiedig.
4Dadleuwch#bernwch eich mam. Vulg. â’ch mam, dadleuwch;
Canys nid fy ngwraig I yw hi;
Ac nid ei gwr hi wyf Fi:
A symuded ei phuteindra o’i gwyneb#gwedd, golwg.;
A’i godineb oddi rhwng ei bronau;
5Rhag i mi ei diosg#fel y diosgwn hi. LXX hi yn noeth;
A’i gosod#gadael. fel y dydd y ganed hi:
A’i gwneuthur hi fel anialwch,
A’i gosod hi fel tir sych#diddwfr. LXX. diffordd. Vulg.,
A gwneuthur iddi farw trwy syched.
6Ac wrth ei phlant ni thosturiaf:
Am mai plant puteindra#puteinllyd o buteindra. ydynt hwy.
7Canys eu mam a buteiniodd;
Gwaradwyddus y gwnaeth#cywilyddus yr ymddygodd, yr hon a feichiogodd arnynt:
Canys dywedodd hi,
Af ar ol fy nghariadau,
Y rhai sydd yn rhoi fy mara â’m dwfr;
Fy ngwlan#nillad. Syr. a’m llin;
Fy olew a’m diodydd.#a’m holl angenrheidiau. Syr.
8Am hyny, wele fi yn cau i fyny dy ffordd di â drain:
Ac a furiaf fur o’i chylch,#iddi, argaeaf argae iddi; caeaf hi â magwyr. Vulg.
Ac ni cha hi ei llwybrau.
9A hi a ddilyn ei chariadau, ond nis goddiwes hwynt;
A hi a’u cais hwynt, ond nis ca:
A hi a ddywed,
Af a dychwelaf at fy ngwr cyntaf;
Canys gwell oedd arnaf fi yna nag yn awr.
10Ac ni wyddai hi;
Mai myfì a roddes iddi;
Yr ŷd, a’r gwin newydd, a’r olew:
Ac a amlheais iddi arian#ac arian a amlheais iddi, ac aur a wnaethant i Baal. Hebr. ac aur,
Y rhai a ddarparasant i#i’r Faales. LXX. gwnaethant yn Faal. Syr. Baal.
11Am hyny y cymeraf eto#y dychwelaf a chymeraf. — Hebr. fy ŷd yn ei amser;
A’m gwin newydd yn ei dymor:
A dygaf ymaith fy ngwlân a’m llin;
A guddiai#at, i guddio. Hebr. fel na chuddier. LXX. ei noethni hi.
12Ac yn awr mi a ddatguddiaf ei gwarthle#aflendid hi. LXX. ei ffolineb hi. Vulg. hi yn ngolwg ei chariadau;
Ac nis gwared neb hi o’m llaw I.
13A gwnaf i’w holl orfoledd beidio;
Yn wyl iddi, yn newydd loer iddi, ac yn Sabboth iddi:
A phob cymanfa#ei hamserau gwyl. Vulg. iddi.
14A mi a anrheithiaf ei gwinwydd a’i ffigyswydd hi;
Am y rhai y dywedodd, Gwobr yw y rhai hyn#y gwobrwyon hyn fy eiddo i ydynt, y rhai. Vulg. i mi;
Y rhai a roddodd fy nghariadau i mi:
A mi a’u gosodaf yn goedwig;
A bwystfil y maes a’u difa hwynt.
15A mi a ymwelaf â hi am ddyddiau Baalim,
Y rhai yr arogldarthodd hi iddynt;
Ac yr ymdrwsiodd â’i modrwy clust#trwyn. a’i haddurn gwddf;
Ac yr aeth ar ol ei chariadau:
Ac yr annghofiodd inau, medd yr Arglwydd.
16Er hyny,#am hyny. wele myfi yn ei denu#gwnaf iddi gyfeiliorni. LXX. hi;
A gwnaf iddi gerdded yr anialwch:#gosodaf hi yn anialwch. LXX.
Ac a lefaraf wrth ei chalon.#fodd ei chalon.
17A mi a roddaf iddi ei gwinllanoedd#gwinllanwyr. Vulg. o hyn allan;#o’r un lle. Vulg. oddiyno. LXX.
A dyffryn Acor#cyfyngder. Syr. yn ddrws gobaith:#a glyn Acor i agor ei deall hi. LXX. agorir ei deall. Syr.
Ac yno y cân#a hi a ostyngir. Syr. hi fel yn nyddiau ei hieuenctyd;
Ac fel y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aipht.
18A bydd yn y dydd hwnw, medd yr Arglwydd;
Y gelwi fi#y’m geilw. LXX., Vulg. Ishi:#fy ngwr.
Ac ni’m gelwi mwyach Baali.#fy Arglwydd.
19A mi a gymeraf ymaith enwau Baalim o’i genau hi:
Ac nis cofir hwynt mwyach wrth ei henw.#nis cofir mwyach eu henwau. LXX. eu henw. Vulg.
20A gwnaf iddynt gyfamod yn y dydd hwnw;
Ag anifeiliaid#anifail, ehediad, ymlusgiad. Vulg. y maes, ac ag ehediaid#anifail, ehediad, ymlusgiad. Vulg. y nefoedd;
Ac âg ymlusgiaid#milod. y ddaear:
A bwa, a chleddyf, a rhyfel a doraf o’r wlad;
A gwnaf iddynt orphwys mewn diogelwch.
21A mi a’th ddyweddiaf di i mi byth:
A mi a’th ddyweddiaf di i mi mewn cyfiawnder ac mewn barn;#wrth raith; wrth gyfraith.
Ac mewn trugaredd, ac mewn tosturiaethau#a chwi a adnabyddwch yr. Syr.
22A dyweddiaf di i mi mewn ffyddlondeb:
A thi a gydnabyddi#a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd. Vulg. yr Arglwydd.#y tragywyddol.
23A bydd yn y dydd hwnw yr atebaf,#y clywaf. Vulg. medd yr Arglwydd;
Yr atebaf wybrenau:
A hwythau a atebant y ddaear.
24A’r ddaear a etyb;
Yr ŷd, a’r gwin, a’r olew:
A hwythau a atebant Jezreel.
25A mi a’i hauaf hi i mi yn y wlad;
Ac a dosturiaf wrth un na thosturiwyd wrthi:#Lo Ruchamah.
Ac a ddywedaf wrth y rhai nad oeddent bobl i mi,#galwaf nid oedd bobl, fy mhobl, ac efe a’m geilw i, fy Nuw. Syr. Lo Ammi. fy mhobl wyt ti;
A hwythau a ddywedant, fy Nuw.#yr Arglwydd, fy Nuw, wyt ti. LXX. fy Nuw wyt ti. Vulg. ac efe a’m geilw i, fy Nuw. Syr.

Chwazi Kounye ya:

Hosea 2: PBJD

Pati Souliye

Pataje

Kopye

None

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte