Genesis 13
13
1 Abram a Lot yn dychwelyd o’r Aifft. 7 Trwy anghytundeb yn ymadael â’i gilydd. 10 Lot yn myned i Sodom ddrygionus. 14 Duw yn adnewyddu y cyfamod i Abram. 18 Yntau yn symud i Hebron, ac yn adeiladu allor yno.
1Ac Abram a aeth i fyny o’r Aifft, efe a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo, a Lot gydag ef, i’r deau. 2Ac Abram oedd gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian, ac aur. 3Ac efe a aeth ar ei deithiau, o’r deau hyd Bethel, hyd #Pen 12:8y lle y buasai ei babell ef ynddo yn y dechreuad, rhwng Bethel a Hai; 4I le yr allor a wnaethai efe yno o’r cyntaf: ac yno y galwodd Abram ar enw yr Arglwydd.
5Ac i Lot hefyd, yr hwn a aethai gydag Abram, yr oedd defaid, a gwartheg, a phebyll. 6#Pen 36:7A’r wlad nid oedd abl i’w cynnal hwynt i drigo ynghyd; am fod eu cyfoeth hwynt yn helaeth, fel na allent drigo ynghyd. 7Cynnen hefyd oedd rhwng bugeiliaid anifeiliaid Abram a bugeiliaid anifeiliaid Lot: #Pen 12:6y Canaaneaid hefyd a’r Pheresiaid oedd yna yn trigo yn y wlad. 8Ac Abram a ddywedodd wrth Lot, Na fydded cynnen, atolwg, rhyngof fi a thi, na rhwng fy mugeiliaid i a’th fugeiliaid di; oherwydd #13:8 Heb. gwŷr o frodyr. Edrych Pen 11:27; Exod 2:13; Act 7:26brodyr ydym ni. 9#Pen 20:15; 34:10Onid yw yr holl dir o’th flaen di? Ymneilltua, atolwg, oddi wrthyf: os ar y llaw aswy y troi di, minnau a droaf ar y ddeau; ac os ar y llaw ddeau, minnau a droaf ar yr aswy. 10A Lot a gyfododd ei olwg, ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen, mai dyfradwy ydoedd oll, cyn i’r Arglwydd ddifetha Sodom a Gomorra, fel gardd yr Arglwydd, fel tir yr Aifft, ffordd yr elych i Soar. 11A Lot a ddewisodd iddo holl wastadedd yr Iorddonen, a Lot a aeth tua’r dwyrain: felly yr ymneilltuasant bob un oddi wrth ei gilydd. 12Abram a drigodd yn nhir Canaan a Lot a drigodd yn ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodom. 13A #Pen 18:20; Esec 16:40dynion Sodom oedd ddrygionus, ac yn pechu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr.
14A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, wedi ymneilltuo o Lot oddi wrtho ef, Cyfod dy lygaid, ac edrych o’r lle yr wyt ynddo, tua’r gogledd, a’r deau, a’r dwyrain, a’r gorllewin. 15Canys yr holl dir a weli, #Pen 12:7; 15:18; 17:8; 24:7; 26:4; Deut 34:4; Act 7:5i ti y rhoddaf ef, ac i’th had byth. 16#Pen 15:5; 22:17; 26:4; 28:14; 32:12; Exod 32:13; Num 23:10; Deut 1:10; 1 Bren 4:20; 1 Cron 27:23; Esa 48:19; Jer 33:22; Heb 11:12Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gŵr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau. 17Cyfod, rhodia trwy’r wlad, ar ei hyd, ac ar ei lled; canys i ti y rhoddaf hi. 18Ac Abram a symudodd ei luest, ac a ddaeth, ac #Pen 14:13a drigodd yng ngwastadedd Mamre, #Pen 35:27; 37:14yr hwn sydd yn Hebron, ac a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd.
Chwazi Kounye ya:
Genesis 13: BWM1955C
Pati Souliye
Pataje
Kopye
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society