Salmau 126:6

Salmau 126:6 SLV

Â’r heuwr i’r maes gan feichio wylo, A chludo baich o hadau; Ond deued adref â bloeddio llawen Gan gludo ei ysgubau. SALM CXXVI Nid oes neb o bwys bellach yn ystyried y Salm hon yn disgrifio llawenydd y caethion pan ryddhawyd hwynt o Fabilon, a’r seithug oedd iddynt ar ôl dychwelyd. Cofia’r awdur am amser da a llwyddiannus a fu, a heddiw mewn dydd o gyni a chyfyngder a thlodi gweddïa am adfer yr amser hwnnw. 1—3. Ystyr lythrennol yr ymadrodd “adfer amser da” ydyw ‘troi y troad’. Nid cyfeiriad sydd yma at droi adref o’r gaethglud, ond yn hytrach ei ystyr yw ‘adfer eto yr amser da a’r llwyddiant a fu’. Yr oedd y llwyddiant mawr a gofia’r awdur yn y gorffennol yn rhy dda i fod yn wir yn ei olwg ef a’i gyfoeswyr, — yr oedd fel breuddwyd, ac yn destun syndod i gymdogion Israel. 4—5. Y deheudir cras ydyw’r ‘Negeb’ yn neheudir Iwdea rhwng yr Aifft a Phalesteina. Yn yr haf mae’r afonydd a’r nentydd hysbion, ond pan ddêl glawogydd y gaeaf llenwir hwynt â dyfroedd, a gordoir y tir cras â thwf a glesni. Dengys yr adnodau hyn mai sychdwr mawr oedd achos y gofid, a thlodi yn dilyn methiant y cnydau. Yn yr adnod olaf y mae darlun dihafal o alaeth hau ac elwch medi. 1. Dywedir bod y Salm hon yn ddarlun perffaith o fywyd dyn gyda’i chwerthin a’i ddagrau, ei elwch a’i alaeth, ei freuddwyd prydferth a’i sylweddoli creulon. 2. Ai ymdeimlad o waredigaeth ydyw un o elfennau pwysicaf crefydd? Ystyriwch hyn yng ngoleuni 1-3. 3. Pa mor flin bynnag a fo gorchwyl hau, a sicrheir i ddyn fedi llawn a gorfoleddus? A oes hau ofer? A oes dichon i weithwyr Duw weithio’n ofer? 4. Ar adeg o fethiant ac aflwyddiant a oes gennym ni gysur a gobaith amgenach nag oedd gan y Salmydd hwn?