Salmau 121
121
SALM CXXI
Y CEIDWAD MAWR
Cân y Pererinion.
1Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd.
O ble y daw cymorth i mi?
2Oddi wrth Iehofa y daw cymorth i mi,
A wnaeth nefoedd a daear.
3Byth ni ad Ef i’th droed lithro:
Ni huna dy Geidwad byth.
4Nid yw Ceidwad Israel
Yn cysgu nac yn huno.
5Iehofa yw dy Geidwad,
A’th gysgod ar dy ddeheulaw.
6Ni chaiff yr haul dy daro y dydd,
Na’r lleuad y nos.
7Ceidw Iehofa di rhag pob niwed,
Ceidw Ef dy fywyd.
8Wrth dy orchwyl ac yn dy gartref
Ceidw Iehofa di
O’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
salm cxxi
Am ystyr teitl y Salm hon ac eraill gwêl y Rhagymadrodd. Ni ellir dywedyd dim pendant am ei hawdur na’i chyfnod.
Nodiadau
1, 2. Mynyddoedd Ieriwsalem a feddylir, ac yn arbennig y mynydd y saif y Deml arno, a lle trig Iehofa. Efallai y meddylir yma am allorau y duwiau gau yn britho’r mynyddoedd, sef yr uchelfeydd. Nid o’r rheini y daw ymwared, ond oddi wrth yr Arglwydd.
3, 4. Ni all Ef adael i’th droed lithro. Y mae duwiau y cenhedloedd yn huno a chysgu, ond Iehofa fyth yn effro.
5, 6. Iehofa yn gysgod iddo pan fo gwres yr haul boethaf, yn amddiffyn rhag ergyd yr haul a rhag lloerigrwydd. Peth cyffredin oedd ergyd yr haul ym Mhalesteina, a chyn berycled â phelydrau yr haul yr ystyrid pelydrau’r lloer.
7, 8. Nid oes gylch o fywyd nad yw amddiffyn Iehofa trosto. Y mae bywyd dyn wrth ei orchwyl a bywyd dyn gyda’i deulu yn cynnwys holl egnïon a diddordebau dynion.
Pynciau i’w Trafod:
1. Pa brofion sydd gennych fod Duw yn effro ym mywydau dynion heddiw? Pa braw sydd gennych ei fod yn effro yn eich bywyd chwi?
2. Beth a fuasai’n digwydd i ŵr duwiol a diamheuol grefyddol a rodiai’n bennoeth yn y trofannau dan belydrau eirias yr haul?
3. Darllenodd tad y Salm hon gyda’i ddau fachgen yn y ddyletswydd deuluol olaf cyn iddynt ymadael am Ffrainc yn ystod y rhyfel diwethaf. Ymhen mis wedi iddynt gyrraedd lladdwyd y ddau. Bu’n gyfyng ar ffydd y tad hwnnw, a chlywyd ef yn wfftio addewidion y Salm hon. Pa ateb a fuasech chwi yn ei roddi iddo neu pa gysur, yn ei gyfyngder?
Chwazi Kounye ya:
Salmau 121: SLV
Pati Souliye
Pataje
Kopye

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Detholiad o'r Salmau gan Lewis Valentine. Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston ym mis Ebrill 1936.