Y Salmau 6
6
SALM VI
Domine ne in furore.
Gweddi o drymder am ei bechodau: a phan gafas obaith, y mae yn dibrissio ei elyn, gan foli Duw.
1O Arglwydd na cherydda fi,
ymhoethni dy gynddaredd:
Ac na chosba fi yn dy lid,
o blegid fy enwiredd.
2O Arglwydd dy drugaredd dod,
wyf lesg mewn nychdod rhybrudd:
O Arglwydd dyrd, iacha fi’n chwyrn,
mae f’esgyrn i mewn cystudd.
3A’m henaid i or llesgedd hyn,
y sydd mewn dychryn sceler:
Tithau O Arglwydd, paryw hyd?
rhoi arnaf ddybryd brudd-der.
4Duw gwared f’enaid, dychwel di,
iacha fi a’th drugaredd:
5Nid oes yn angau gof na hawl,
a phwy ath fawl o’r pridd-fedd.
6Diffygiais gan ochain bob nos,
mewn gwal anniddos foddfa:
Rwy’n gwlychu drwy y cystudd mau,
a’m dagrau fy ngorweddfa.
7O ddig i’m cas a goddef drwg,
fy ngolwg sy’n tywyllu:
A chan y dwfr a red yn rhaff,
ynt angraff ac yn pylu.
8Pob un a wnelo, aed ymhell,
na dichell nac enwiredd:
Cans clybu yr Arglwydd fy llais,
pan lefais am drugaredd.
9Yr Arglwydd clybu ef fy arch,
rhof finnau barch a moliant:
Fe dderbyn fy ngweddi, a’m gwaedd,
am hyn yr haedd ogoniant.
10Fe wradwyddir, fe drallodir
yn ddir fy ngelynion:
Ac fo’i dychwelir drwy fefl glwth,
Hwynt yn ddisymwth ddigon.
Chwazi Kounye ya:
Y Salmau 6: SC
Pati Souliye
Pataje
Kopye
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017