Luc 4

4
A.D. 26. —
1 Temtiad ac ympryd Crist. 13 Y mae efe yn gorchfygu y cythraul: 14 yn dechrau pregethu. 16 Pobl Nasareth yn rhyfeddu am ei eiriau grasusol ef. 33 Y mae efe yn iacháu un cythreulig, 38 a mam gwraig Pedr, 40 a llawer o gleifion eraill. 41 Y cythreuliaid yn cydnabod Crist, ac yn cael cerydd am hynny. 43 Y mae efe yn pregethu trwy y dinasoedd.
1A’r #Mat 4:1; Marc 1:12Iesu yn llawn o’r Ysbryd Glân, a ddychwelodd oddi wrth yr Iorddonen, ac a arweiniwyd gan yr ysbryd i’r anialwch, 2Yn cael ei demtio gan ddiafol ddeugain niwrnod. Ac #Exod 34:28; 1 Bren 19:8ni fwytaodd efe ddim o fewn y dyddiau hynny: ac wedi eu diweddu hwynt, ar ôl hynny y daeth arno chwant bwyd. 3A dywedodd diafol wrtho, Os mab Duw ydwyt ti, dywed wrth y garreg hon fel y gwneler hi yn fara. 4A’r Iesu a atebodd iddo, gan ddywedyd, #Deut 8:3Ysgrifenedig yw, Nad ar fara yn unig y bydd dyn fyw, ond ar bob gair Duw. 5A diafol, wedi ei gymryd ef i fyny i fynydd uchel, a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y ddaear mewn munud awr. 6A diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a’u gogoniant hwynt: canys #Dat 13:2, 7i mi y rhoddwyd; ac i bwy bynnag y mynnwyf y rhoddaf finnau hi. 7Os tydi gan hynny #4:7 a’m haddoli i.a addoli o’m blaen, eiddot ti fyddant oll. 8A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Dos ymaith, Satan, yn fy ôl i; canys #Deut 6:13; 10:20ysgrifenedig yw, Addoli yr Arglwydd dy Dduw, ac ef yn unig a wasanaethi. 9#Mat 4:5Ac efe a’i dug ef i Jerwsalem, ac a’i gosododd ar binacl y deml, ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw ydwyt, bwrw dy hun i lawr oddi yma: 10Canys #Salm 91:11ysgrifenedig yw, Y gorchymyn efe i’w angylion o’th achos di, ar dy gadw di; 11Ac y cyfodant di yn eu dwylo, rhag i ti un amser daro dy droed wrth garreg. 12A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, #Deut 6:16Dywedwyd, Na themtia yr Arglwydd dy Dduw. 13Ac wedi i ddiafol orffen yr holl demtasiwn, efe a ymadawodd ag ef #4:13 hyd amser cyfaddas.#Ioan 14:30dros amser.
14A’r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr ysbryd i #Act 10:37Galilea: a sôn a aeth amdano ef trwy’r holl fro oddi amgylch. 15Ac yr oedd efe yn athrawiaethu yn eu synagogau hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb.
16Ac efe a ddaeth i #Mat 2:23; 13:54Nasareth, lle y magesid ef: ac yn ôl ei arfer, efe a aeth i’r synagog ar y Saboth, ac a gyfododd i fyny i ddarllen. 17A rhodded ato lyfr y proffwyd Eseias. Ac wedi iddo agoryd y llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig, 18#Esa 61:1Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf fi, #4:18 oherwydd paham y’m heneiniodd.oherwydd iddo fy eneinio i; i bregethu i’r tlodion yr anfonodd fi, i iacháu’r drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i’r caethion, a chaffaeliad golwg i’r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydd‐deb, 19I bregethu blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd. 20Ac wedi iddo gau’r llyfr, a’i roddi i’r gweinidog, efe a eisteddodd. A llygaid pawb oll yn y synagog oedd yn craffu arno. 21Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddiw y cyflawnwyd yr ysgrythur hon yn eich clustiau chwi. 22Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yr oeddynt #Mat 13:54; Pen 2:47yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddeuai allan o’i enau ef. A hwy a ddywedasant, #Ioan 6:42Onid hwn yw mab Joseff? 23Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn hollol y dywedwch y ddihareb hon wrthyf, Y meddyg, iachâ di dy hun: y pethau a glywsom ni eu gwneuthur yng #Mat 4:13Nghapernaum, gwna yma hefyd yn #Mat 13:54; Marc 6:1dy wlad dy hun. 24Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, #Mat 13:57; Marc 6:4; Ioan 4:44Nad yw un proffwyd yn gymeradwy yn ei wlad ei hun. 25Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, #1 Bren 17:9; Iago 5:17Llawer o wragedd gweddwon oedd yn Israel yn nyddiau Eleias, pan gaewyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy’r holl dir; 26Ac nid at yr un ohonynt yr anfonwyd Eleias, ond i Sarepta yn Sidon, at wraig weddw. 27A #2 Bren 5:14llawer o wahangleifion oedd yn Israel yn amser Eliseus y proffwyd; ac ni lanhawyd yr un ohonynt, ond Naaman y Syriad. 28A’r rhai oll yn y synagog, wrth glywed y pethau hyn, a lanwyd o ddigofaint; 29Ac a godasant i fyny, ac a’i bwriasant ef allan o’r ddinas, ac a’i dygasant ef hyd ar #4:29 fin.ael y bryn yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, ar fedr ei fwrw ef bendramwnwgl i lawr. 30Ond efe, #Ioan 8:59gan fyned trwy eu canol hwynt, a aeth ymaith; 31Ac #Mat 4:13; Marc 1:21a ddaeth i waered i Gapernaum, dinas yng Ngalilea: ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y dyddiau Saboth. 32A bu aruthr ganddynt wrth ei athrawiaeth ef: #Mat 7:29; Titus 2:15canys ei ymadrodd ef oedd gydag awdurdod.
33 # Marc 1:23 Ac yn y synagog yr oedd dyn â chanddo ysbryd cythraul aflan; ac efe a waeddodd â llef uchel, 34Gan ddywedyd, #4:34 Paid.Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost ti i’n difetha ni? Myfi a’th adwaen pwy ydwyt; Sanct Duw. 35A’r Iesu a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Distawa, a dos allan ohono. A’r cythraul, wedi ei daflu ef i’r canol, a aeth allan ohono, heb wneuthur dim niwed iddo. 36A daeth braw arnynt oll: a chyd‐ymddiddanasant â’i gilydd, gan ddywedyd, Pa ymadrodd yw hwn! gan ei fod ef trwy awdurdod a nerth yn gorchymyn yr ysbrydion aflan, a hwythau yn myned allan. 37A sôn amdano a aeth allan i bob man o’r wlad oddi amgylch.
38 # Mat 8:14; Marc 1:29 A phan gyfododd yr Iesu o’r synagog, efe a aeth i mewn i dŷ Simon. Ac yr oedd #4:38 mam gwraig.chwegr Simon yn glaf o gryd blin: a hwy a atolygasant arno drosti hi. 39Ac efe a safodd uwch ei phen hi, ac a geryddodd y cryd; a’r cryd a’i gadawodd hi: ac yn y fan hi a gyfododd, ac a wasanaethodd arnynt hwy.
40 # Mat 8:16; Marc 1:32 A phan fachludodd yr haul, pawb a’r oedd ganddynt rai cleifion o amryw glefydau, a’u dygasant hwy ato ef; ac efe a roddes ei ddwylo ar bob un ohonynt, ac a’u hiachaodd hwynt. 41#Marc 1:34; 3:11A’r cythreuliaid hefyd a aethant allan o lawer dan lefain a dywedyd, Ti yw Crist, Mab Duw. Ac #Marc 1:25, 34efe a’u ceryddodd hwynt, ac ni adawai iddynt ddywedyd #4:41 Neu, canys gwyddent.y gwyddent mai efe oedd y Crist. 42#Marc 1:35Ac wedi ei myned hi yn ddydd, efe a aeth allan, ac a gychwynnodd i le diffaith: a’r bobloedd a’i ceisiasant ef; a hwy a ddaethant hyd ato, ac a’i hataliasant ef rhag myned ymaith oddi wrthynt. 43Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir y mae yn rhaid i mi bregethu teyrnas Dduw i ddinasoedd eraill hefyd: canys i hyn y’m danfonwyd. 44#Marc 1:39Ac yr oedd efe yn pregethu yn synagogau Galilea.

वर्तमान में चयनित:

Luc 4: BWM1955C

हाइलाइट

शेयर

कॉपी

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in