Actau’r Apostolion 7
7
A.D. 33. —
1 Steffan, wrth gael cennad i ateb drosto ei hun am y cabledd, 2 yn dangos ddarfod i Abraham addoli Duw yn iawn; a pha fodd y dewisodd Duw y tadau, 20 cyn geni Moses, a chyn adeiladu y babell a’r deml: 37 a thystiolaethu o Moses ei hun am Grist: 44 ac na pharhâi y seremonïau allanol, y rhai a ordeiniesid ar ddull y portread nefol, ond dros amser: 51 gan eu ceryddu hwy am eu gwaith yn gwrthwynebu ac yn lladd Crist, y Cyfiawn hwnnw, am yr hwn y rhag‐ddywedasai y proffwydi y deuai efe i’r byd. 54 Hwythau ar hynny yn ei labyddio ef i farwolaeth; ac yntau yn gorchymyn ei enaid i’r Iesu, ac yn gweddïo drostynt hwy.
1Yna y dywedodd yr archoffeiriad, A ydyw’r pethau hyn felly? 2Yntau a ddywedodd, #Pen 22:1 Ha wŷr, frodyr, a thadau, gwrandewch: Duw y gogoniant a ymddangosodd i’n tad Abraham, pan oedd efe ym Mesopotamia, cyn iddo drigo yn Charran; 3Ac a ddywedodd wrtho, #Gen 12:1, 4, 5Dos allan o’th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth, a thyred i’r tir a ddangoswyf i ti. 4Yna #Gen 11:31y daeth efe allan o dir y Caldeaid, ac y preswyliodd yn Charran: ac oddi yno, wedi marw ei dad, efe a’i symudodd ef i’r tir yma, yn yr hwn yr ydych chwi yn preswylio yr awr hon. 5Ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddo, naddo led troed; ac #Gen 12:7; 13:15efe a addawodd ei roddi iddo i’w feddiannu, ac i’w had ar ei ôl, pryd nad oedd plentyn iddo. 6A Duw a lefarodd fel hyn; #7:6 Neu, Ei had ef.#Gen 15:13, 16Dy had di a fydd ymdeithydd mewn gwlad ddieithr, a hwy a’i caethiwant ef, ac a’i drygant, #Exod 12:40; Gal 3:17bedwar can mlynedd. 7Eithr y genedl yr hon a wasanaethant hwy, a farnaf fi, medd Duw: ac wedi hynny y deuant allan, ac #Exod 3:12a’m gwasanaethant i yn y lle hwn. 8#Gen 17:9, 10, 11Ac efe a roddes iddo gyfamod yr enwaediad. Felly #Gen 21:2, 3, 4 Abraham a genhedlodd Isaac, ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd: #Gen 25:26ac Isaac a genhedlodd Jacob; a #Gen 29:31, &c; 30:5, &c; 35:23Jacob a genhedlodd y deuddeg patriarch. 9#Gen 37:4, 11, 28; Salm 105:17A’r patrieirch, gan genfigennu, a werthasant Joseff i’r Aifft: ond yr oedd Duw gydag ef, 10Ac a’i hachubodd ef o’i holl orthrymderau, ac #Gen 41:37a roes iddo hawddgarwch a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft; ac efe a’i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aifft, ac ar ei holl dŷ. 11Ac #Gen 41:54fe ddaeth newyn dros holl dir yr Aifft a Chanaan, a gorthrymder mawr; a’n tadau ni chawsant luniaeth. 12#Gen 42:1Ond pan glybu Jacob fod ŷd yn yr Aifft, efe a anfonodd ein tadau ni allan yn gyntaf. 13#Gen 45:4, 16A’r ail waith yr adnabuwyd Joseff gan ei frodyr; a chenedl Joseff a aeth yn hysbys i Pharo. 14Yna yr anfonodd Joseff, ac a gyrchodd ei dad Jacob, #Gen 46:27; Deut 10:22a’i holl genedl, pymtheg enaid a thrigain. 15#Gen 46:5; 49:33Felly yr aeth Jacob i waered i’r Aifft, ac a fu farw, efe a’n tadau hefyd. 16A #Exod 13:19; Jos 24:32hwy a symudwyd i Sichem, ac a ddodwyd yn #Gen 23:16; 33:19y bedd a brynasai Abraham er arian gan feibion Emor tad Sichem. 17A phan nesaodd amser yr addewid, yr hwn a dyngasai Duw i Abraham, #Exod 1:7, 8, 9; Salm 105:24y bobl a gynyddodd ac a amlhaodd yn yr Aifft, 18Hyd oni chyfododd brenin arall, yr hwn nid adwaenai mo Joseff. 19Hwn a fu ddichellgar wrth ein cenedl ni, ac a ddrygodd ein tadau, #Exod 1:22gan beri iddynt fwrw allan eu plant, fel nad epilient. 20#Exod 2:2Ar yr hwn amser y ganwyd Moses; #Heb 11:23ac efe oedd #7:20 dlws iawn.dlws i Dduw, ac a fagwyd dri mis yn nhŷ ei dad. 21Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharo a’i cyfododd ef i fyny, ac a’i magodd ef yn fab iddi ei hun. 22A Moses oedd ddysgedig yn holl ddoethineb yr Eifftiaid, ac #Luc 24:19oedd nerthol mewn geiriau ac mewn gweithredoedd. 23A #Exod 2:11phan oedd efe yn llawn deugain mlwydd oed, daeth i’w galon ef ymweled â’i frodyr plant yr Israel. 24A phan welodd efe un yn cael cam, efe a’i hamddiffynnodd ef, ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid, gan daro’r Eifftiwr. 25#7:25 Oblegid.Ac efe a dybiodd fod ei frodyr yn deall, fod Duw yn rhoddi iachawdwriaeth iddynt trwy ei law ef; eithr hwynt‐hwy ni ddeallasant. 26#Exod 2:13A’r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt, a hwy yn ymrafaelio, ac a’u hanogodd hwynt i heddychu, gan ddywedyd, Ha wŷr, brodyr ydych chwi; paham y gwnewch gam â’ch gilydd? 27Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam â’i gymydog, a’i cilgwthiodd ef, gan ddywedyd, #Edrych Act 4:7Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni? 28A leddi di fi, y modd y lleddaist yr Eifftiwr ddoe? 29A Moses a ffodd ar y gair hwn, ac a fu ddieithr yn nhir Midian; lle y cenhedlodd efe ddau o feibion. 30#Exod 3:2Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, yr ymddangosodd iddo yn anialwch mynydd Seina, angel yr Arglwydd mewn fflam dân mewn perth. 31A Moses, pan welodd, a fu ryfedd ganddo y golwg: a phan nesaodd i ystyried, daeth llef yr Arglwydd ato, gan ddywedyd, 32#Mat 22:32; Heb 11:16Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses, wedi myned yn ddychrynedig, ni feiddiai ystyried. 33#Jos 5:15Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho, Datod dy esgidiau oddi am dy draed; canys y lle yr wyt yn sefyll ynddo sydd dir sanctaidd. 34Gan weled y gwelais ddrygfyd fy mhobl y rhai sydd yn yr Aifft, a mi a glywais eu griddfan, ac a ddisgynnais i’w gwared hwy. Ac yn awr tyred, mi a’th anfonaf di i’r Aifft. 35Y Moses yma, yr hwn a wrthodasant hwy, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr? hwn a anfonodd Duw yn llywydd ac yn waredwr, trwy law yr angel, yr hwn a ymddangosodd iddo yn y berth. 36Hwn a’u harweiniodd hwynt allan, #Exod 7; 8; 9; 10; 11; 14gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn nhir yr Aifft, ac yn y môr coch, ac #Exod 16:1yn y diffeithwch ddeugain mlynedd.
37Hwn yw’r Moses a ddywedodd i feibion Israel, #Deut 18:15, 18; Pen 3:22Proffwyd a gyfyd yr Arglwydd eich Duw i chwi o’ch brodyr fel myfi: #Mat 17:5arno ef y gwrandewch. 38#Exod 19:3, 17Hwn yw efe a fu yn #7:38 y gynulleidfa.yr eglwys yn y diffeithwch, gyda’r #Gal 3:19angel a ymddiddanodd ag ef ym mynydd Seina, ac â’n tadau ni; yr hwn a dderbyniodd ymadroddion bywiol i’w rhoddi i ni. 39Yr hwn ni fynnai ein tadau fod yn ufudd iddo, eithr cilgwthiasant ef, a throesant yn eu calonnau i’r Aifft, 40#Exod 32:1Gan ddywedyd wrth Aaron, Gwna i ni dduwiau i’n blaenori: oblegid y Moses yma, yr hwn a’n dug ni allan o dir yr Aifft, ni wyddom ni beth a ddigwyddodd iddo. 41A hwy a wnaethant lo yn y dyddiau hynny, ac a offrymasant aberth i’r eilun, ac a ymlawenhasant yng ngweithredoedd eu dwylo eu hun. 42Yna #Salm 81:12; Esec 20:25, 39; Rhuf 1:24; 2 Thess 2:11y trodd Duw, ac a’u rhoddes hwy i fyny i wasanaethu #Jer 19:13llu’r nef; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi, #Amos 5:25A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau ddeugain mlynedd yn yr anialwch, chwi tŷ Israel? 43A chwi a gymerasoch babell Moloch, a seren eich duw Remffan, lluniau y rhai a wnaethoch i’w haddoli: minnau a’ch symudaf chwi tu hwnt i Fabilon. 44Tabernacl y dystiolaeth oedd ymhlith ein tadau yn yr anialwch, fel y gorchmynasai #7:44 drwy ddywedyd.yr hwn a ddywedai wrth Moses, #Exod 25:40; Heb 8:5am ei wneuthur ef yn ôl y portread a welsai. 45#Jos 3:14Yr hwn a ddarfu i’n tadau ni ei gymryd, a’i ddwyn i mewn gydag Iesu i berchenogaeth y Cenhedloedd, y rhai a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau, hyd yn nyddiau Dafydd; 46#1 Sam 16:1; Pen 13:22Yr hwn a gafodd ffafr gerbron Duw, ac #Salm 132:4a ddymunodd gael tabernacl i Dduw Jacob. 47#1 Bren 6:1; 1 Cron 17:12Eithr Solomon a adeiladodd dŷ iddo ef. 48#1 Bren 8:27; Pen 17:24Ond nid yw’r Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylo; fel y mae’r proffwyd yn dywedyd, 49#Esa 66:1, 2; Mat 5:34; 23:22Y nef yw fy ngorseddfainc, a’r ddaear yw troedfainc fy nhraed. Pa dŷ a adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd; neu pa le fydd i’m gorffwysfa i? 50Onid fy llaw i a wnaeth hyn oll?
51Chwi rai #Exod 32:9; Esa 48:4gwargaled, a #Lef 26:41; Deut 10:16; Jer 4:4; 6:10; 9:26dienwaededig o galon ac o glustiau, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu’r Ysbryd Glân: megis eich tadau, felly chwithau. 52Pa un o’r proffwydi ni ddarfu i’ch tadau chwi ei erlid? a hwy a laddasant y rhai oedd yn rhagfynegi dyfodiad #Pen 3:14y Cyfiawn, i’r hwn yr awron y buoch chwi fradwyr a llofruddion: 53#Exod 20:1; Gal 3:19; Heb 2:2Y rhai a dderbyniasoch y gyfraith trwy drefniad angylion, ac nis cadwasoch.
54A #Pen 5:33phan glywsant hwy’r pethau hyn, hwy a ffromasant yn eu calonnau, ac a ysgyrnygasant ddannedd arno. 55Ac efe, yn gyflawn o’r Ysbryd Glân, a edrychodd yn ddyfal tua’r nef; ac a welodd ogoniant Duw, a’r Iesu yn sefyll ar ddeheulaw Duw. 56Ac efe a ddywedodd, Wele, #Esec 1:1; Mat 3:16; Pen 10:11mi a welaf y nefoedd yn agored, a Mab y dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw. 57Yna y gwaeddasant â llef uchel, ac a gaeasant eu clustiau, ac a ruthrasant yn unfryd arno, 58Ac #1 Bren 21:13; Luc 4:29; Heb 13:12a’i bwriasant allan o’r ddinas, ac a’i llabyddiasant: #Deut 17:7; Pen 22:20a’r tystion a ddodasant eu dillad wrth draed dyn ieuanc a elwid Saul. 59A hwy a labyddiasant Steffan, ac efe yn galw ar Dduw, ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, #Salm 31:5; Luc 23:46derbyn fy ysbryd. 60Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef uchel, #Mat 5:44; Luc 23:34Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a hunodd.
वर्तमान में चयनित:
Actau’r Apostolion 7: BWM1955C
हाइलाइट
शेयर
कॉपी

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society