Luc 20
20
Amau Awdurdod Iesu
Mth. 21:23–27; Mc. 11:27–33
1Un o'r dyddiau pan oedd ef yn dysgu'r bobl yn y deml ac yn cyhoeddi'r newydd da, daeth y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, ynghyd â'r henuriaid, ato, 2ac meddent wrtho, “Dywed wrthym trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn, neu pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn.” 3Atebodd ef hwy, “Fe ofynnaf finnau rywbeth i chwi. Dywedwch wrthyf: 4bedydd Ioan, ai o'r nef yr oedd, ai o'r byd daearol?” 5Dadleusant â'i gilydd gan ddweud, “Os dywedwn, ‘O'r nef’, fe ddywed, ‘Pam na chredasoch ef?’ 6Ond os dywedwn, ‘O'r byd daearol’, bydd yr holl bobl yn ein llabyddio, oherwydd y maent yn argyhoeddedig fod Ioan yn broffwyd.” 7Ac atebasant nad oeddent yn gwybod o ble'r oedd. 8Meddai Iesu wrthynt, “Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.”
Dameg y Winllan a'r Tenantiaid
Mth. 21:33–46; Mc. 12:1–12
9Dechreuodd ddweud y ddameg hon wrth y bobl: “Fe blannodd rhywun winllan, ac wedi iddo ei gosod hi i denantiaid, aeth oddi cartref am amser hir. 10Pan ddaeth yn amser, anfonodd was at y tenantiaid iddynt roi iddo gyfran o ffrwyth y winllan. Ond ei guro a wnaeth y tenantiaid, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw. 11Anfonodd ef was arall, ond curasant hwn hefyd a'i amharchu, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw. 12Anfonodd ef drachefn drydydd, ond clwyfasant hwn hefyd a'i fwrw allan. 13Yna meddai perchen y winllan, ‘Beth a wnaf fi? Fe anfonaf fy mab, yr anwylyd; efallai y parchant ef.’ 14Ond pan welodd y tenantiaid hwn, dechreusant drafod ymhlith ei gilydd gan ddweud, ‘Hwn yw'r etifedd; lladdwn ef, er mwyn i'r etifeddiaeth ddod yn eiddo i ni.’ 15A bwriasant ef allan o'r winllan a'i ladd. Beth ynteu a wna perchen y winllan iddynt? 16Fe ddaw ac fe ddifetha'r tenantiaid hynny, ac fe rydd y winllan i eraill.” Pan glywsant hyn meddent, “Na ato Duw!” 17Edrychodd ef arnynt a dweud, “Beth felly yw ystyr yr Ysgrythur hon:
“ ‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,
hwn a ddaeth yn faen y gongl’?
18“Pawb sy'n syrthio ar y maen hwn, fe'i dryllir; pwy bynnag y syrth y maen arno, fe'i maluria.” 19Ceisiodd yr ysgrifenyddion a'r prif offeiriaid osod dwylo arno y pryd hwnnw, ond yr oedd arnynt ofn y bobl, oherwydd gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd y ddameg hon.
Talu Trethi i Gesar
Mth. 22:15–22; Mc. 12:13–17
20Gwyliasant eu cyfle ac anfon ysbiwyr, yn rhith pobl onest, i'w ddal ef ar air, er mwyn ei draddodi i awdurdod brawdlys y rhaglaw. 21Gofynasant iddo, “Athro, gwyddom fod dy eiriau a'th ddysgeidiaeth yn gywir; yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb, ac yn dysgu ffordd Duw yn gwbl ddiffuant. 22A yw'n gyfreithlon inni dalu treth i Gesar, ai nid yw?” 23Ond deallodd ef eu hystryw, ac meddai wrthynt, 24“Dangoswch imi ddarn arian#20:24 Gw. nodyn ar Mth. 18:28.. Llun ac arysgrif pwy sydd arno?” “Cesar,” meddent hwy. 25Dywedodd ef wrthynt, “Gan hynny, talwch bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.” 26Yr oeddent wedi methu ei ddal ar air o flaen y bobl, a chan ryfeddu at ei ateb aethant yn fud.
Holi ynglŷn â'r Atgyfodiad
Mth. 22:23–33; Mc. 12:18–27
27Daeth ato rai o'r Sadwceaid, y bobl sy'n dal nad oes dim atgyfodiad. Gofynasant iddo, 28“Athro, ysgrifennodd Moses ar ein cyfer, os bydd rhywun farw yn ŵr priod, ond yn ddi-blant, fod ei frawd i gymryd y wraig ac i godi plant i'w frawd. 29Yn awr, yr oedd saith o frodyr. Cymerodd y cyntaf wraig, a bu farw'n ddi-blant. 30Cymerodd yr ail 31a'r trydydd hi, ac yn yr un modd bu'r saith farw heb adael plant. 32Yn ddiweddarach bu farw'r wraig hithau. 33Beth am y wraig felly? Yn yr atgyfodiad, gwraig p'run ohonynt fydd hi? Oherwydd cafodd y saith hi'n wraig.” 34Meddai Iesu wrthynt, “Y mae plant y byd hwn yn priodi ac yn cael eu priodi; 35ond y rhai a gafwyd yn deilwng i gyrraedd y byd hwnnw a'r atgyfodiad oddi wrth y meirw, ni phriodant ac ni phriodir hwy. 36Ni allant farw mwyach, oherwydd y maent fel angylion. Plant Duw ydynt, am eu bod yn blant yr atgyfodiad. 37Ond bod y meirw yn codi, y mae Moses yntau wedi dangos hynny yn hanes y Berth, pan ddywed, ‘Arglwydd Dduw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob’. 38Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw, oherwydd y mae pawb yn fyw iddo ef.” 39Atebodd rhai o'r ysgrifenyddion, “Athro, da y dywedaist”, 40oherwydd ni feiddient mwyach ei holi am ddim.
Holi ynglŷn â Mab Dafydd
Mth. 22:41–46; Mc. 12:35–37
41A dywedodd wrthynt, “Sut y mae pobl yn gallu dweud fod y Meseia yn Fab Dafydd? 42Oherwydd y mae Dafydd ei hun yn dweud yn llyfr y Salmau:
“ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i,
“Eistedd ar fy neheulaw
43nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed.” ’
44“Yn awr, y mae Dafydd yn ei alw'n Arglwydd; sut felly y mae'n fab iddo?”
Cyhuddo'r Ysgrifenyddion
Mth. 23:1–36; Mc. 12:38–40; Lc. 11:37–54
45A'r holl bobl yn gwrando, meddai wrth ei ddisgyblion, 46“Gochelwch rhag yr ysgrifenyddion sy'n hoffi rhodianna mewn gwisgoedd llaes, sy'n caru cael cyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r seddau anrhydedd mewn gwleddoedd, 47ac sy'n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhagrith yn gweddïo'n faith; fe dderbyn y rhain drymach dedfryd.”
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004