Marc 4
4
Dameg ir howr
1-9Dachreuodd Iesu ddisgu wrth lan i llyn lweth, a dâth shwt i growd mowr rownd 'ddo fe fel âth‐e i gwch ar i llyn a ishte fan‐'ny. We'r bobol wedyn i gyd ar i lan, ar ochor i dŵr. Disgodd‐e lot o bethe iddon nhwy wrth weud damegion, a wrth u disgu nhwy medde‐fe, “Grondwch! Âth howr mas i hou. Nawr fel ddigwyddodd‐i, wrth iddo fe hou fe gwmpodd peth o'r had ar ochor ir hewl, a dâth ir adar a'i fita fe. Cwmpodd peth o'r had ar dir llond cerrig lle we ddim lot o bridd, ac fe diddodd whap achos bo dim dwnder pridd 'na; ond pan ddachreuodd ir houl sheino fe gath i losgi, a gwywodd‐e achos bo ddim gwreidde dag e. Cwmpodd peth o'r had i ganol drisi, a fe diddodd i drisi a'i dagu fe, a dâth dim byd ono fe. A cwmpodd peth o'r had ar dir da, fe wreiddodd e, tiddu a rhoi cinheia o ddeg‐ar‐ugen, trigen a chanweth gwmint o had nôl.” A gwedodd Iesu, “Os wes cluste da chi, iwswch nhwy.”
Pam gweud damegion?
10-12Pan wedd‐e ar i ben i hunan fe ofino'r douddeg a'r lleill we 'dag e iddo fe obitu'r damegion. Wedodd‐e wrthon nhwy, “Ŷch‐chi wedi câl i fraint o wbod beth yw cifrinache Teyrnas Duw, ond ma'r lleill 'ma senon‐nhwy'n in ddilyn i in câl popeth miwn damegion 'da fi, fel u bo 'nhwy 'in drich a drich weth, on ddim in gweld dim; in cliwed a cliwed lweth, on ddim in diall dim; neu os bisen‐nhwy'n gweld a diall bisen‐nhwy'n troi a câl maddeuant.’ ”
Egsbleino beth we istyr dameg ir howr
13-20Gwedodd Iesu wrthon nhwy, “Senoch‐chi'n diall i ddameg 'ma? Shwt ma dishgwyl i chi ddiall unryw ddameg wedyn? Ir had ma'r howr in i hou yw'r Gair. Ma 'na rei ar bwys ir hewl lle ma'r Gair in câl i hou: pan man‐nhwy'n i glywed e ma Satan in dwâd whap a mynd bant â'r Gair sy wedi cal i hou iddon nhwy. Ma'r had sy'n cal u hou ar i tir llond cerrig in debyg i rheiny sy'n cliwed i Gair, in i dderbyn e'n itha jacôs; ond sdim gwreidde 'da nhwy a seno'n tiddu ond am damed bach; wedyn, ginted ma trwbwl neu erledigeth in dwâd o achos i Gair, man‐nhwy'n mynd bant in itha clou. Ma'r had sy'n cal i hou in ganol i drisi in debyg i'r dinion ny sy wedi cliwed i Gair, ond ma gofidie i byd, a whant am arian a phethe erill in dwâd miwn a tagu'r Gair, a seno‐fe'n rhoi dim ffrwyth ichi. Ma'r had sy'n cal u hou ar i pridd da in debyg i rheiny sy'n cliwed i Gair, in i dderbyn e, a'n rhoi nôl ichi deg‐ar‐hugen, trigen neu hyd 'n‐ôd ganweth gwmint.”
Rhoi lamp dan ddishgyl
21-25Gwedodd‐e wrthon nhwy, “Os bosib bo neb in cinnu lamp a'n i rhoi 'ddi o dan dishgyl neu o dan gwely? Senon‐nhwy'n i chinnu 'ddi a'i rhoi 'ddi ar stand? Sdim byd wedi câl i gwato ond in unswydd i gâl i ddangos in i pen draw, a sdim byd wedi câl i roi i gadw ond in unswydd i ddwâd ag e mas in i pen draw. Os wes cluste 'da chi, iwswch nhwy.”
Gwedodd‐e wrthon nhwy to, “Silwch ar beth ŷch‐chi'n i gliwed. Fel ŷch‐chi'n rhoi ŷch‐chi'n mynd i gâl, a hyd 'n‐ôd câl mwy na 'ny. I'r dyn sydd â rwbeth 'dag e'n barod bydd hyd 'n‐ôd mwy in câl i roi; a'r dyn sydd â dim 'dag e, wel bydd hyd 'n‐ôd beth sy 'dag e in câl i gwmrid bant wrtho fe.”
Dameg ir had in tiddu
26-29Gwedodd‐e, “Ma teyrnas Duw fel hyn: ma dyn in towlu had ar i ddeiar; bob bore a nos mae‐e'n cisgu a dihuno; a ma'r had in egino a tiddu, ond seno‐fe'n gwbod shwt. Ma'r ddeiar i hunan in rhoi crop, in ginta'r blagur glas, wedyn i brig, wedyn i brig in llawn. Pam ma'r crop in barod mae e'n cwên, achos bo'r amser wedi dwâd i neud 'ny.”
Dameg ir hadyn mwstard
30-32Gwedodd Iesu 'to, “Shwt gallwn ni gimharu Teyrnas Dduw 'da unriwbeth? Pwy ddameg allen‐ni iwso i ddisgreibo hi a'i diall hi? Mae‐i fel hadyn mwstard. Pan ma'r hadyn in câl i hou in i lle cinta mae‐e'n llai na unrhyw hadyn arall in i byd. Ond wedi 'ddo gâl i hou, mae‐e'n dwâd lan a'n tiddu'n fwy o seiz na unryw blansyn arall, ma canghene mowr in tiddu arno, a ma'r adar in nitho in i gisgod e.”
Iesu'n gweud lot o ddamegion
33-34Wedo Iesu lot o bethe erill wrthon nhwy am i Gair in iwso damegion fel hyn fel i bo nhwy'n galler diall. Sdim ots pryd wedd‐e'n sharad 'da nhwy, wedd‐e'n iwso damegion, on wedd e'n egsbleino popeth i'r disgiblion pa na we neb arall 'na.
Tawelu'r storom ar Lyn Galilea
35-41A'r dwarnod 'ny, pan wedd‐i'n nosi, gwedodd Iesu wrthon nhwy, “Licen‐i i ni fynd i ochor arall i llyn, 'no”. So gadon‐nhwy'r crowd lle wên‐nhwy, a fe ethon‐nhwy ag e 'da nhwy, jwst fel wedd e, in i cwch. We cichod erill fan‐'na gida nhwy fyd. Dâth cwthwn o wynt a dachreuodd hi hwthu, a tima'r tonne in bwrw in erbyn i cwch fel i fod e'n llanw â dŵr. On we Iesu'n cisgu ar gwshin in gwt i cwch. Dihunon‐nhwy e a gweu‐'tho fe, “Mishtir, ŷn‐ni'n shinco. Senot‐ti'n becso dim byd?” Dihunodd‐e, rhoi stwr i'r gwynt, a gweu‐'th i dŵr, “Dawel, by' dawel”. Tawelodd i gwynt a âth popeth in dawel i gyd. A gwedodd‐e wrthon nhwy, “Pam we shwt gwmint o ofon arnoch chi? Sdim ffydd da chi to?” We ofon mowr arnon nhwy, a wedon nhwy wrth i gily, “Pwy alle hwn fod, achos ma hyd 'n‐ôd i gwynt a'r môr in grondo arno fe?”
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies