Mathew 26
26
1-75Nawr, pan we Iesu wedi bennu gweud i pethe 'ma i gyd wedodd e wrth i ddisgiblion, “Ŷch chi'n gwbod taw miwn dou ddarnod, a Cwrdde Mowr i Pasg in digwydd, a bydd Crwt i Dyn in câl i roi lan a'i goreshoelo.”
A'r amser 'ny we'r pen-fferiadon a henuried i bobol wedi dod at i gily in clos i fferiad mowr, a'i enw e wedd Caiaffas, a wen nhwy'n trafod 'da'i gily shwt i dwyllo fel gallen nhwy gwmrid Iesu a'i ladd e; ond wedon nhwy, “Rhaid ini beido neud 'ny amser i Cwrdde Mowr i Pasg. Os newn 'ny, bydd reiats 'ma.”
Pan we Iesu in Bethania in tŷ Simon, i dyn we cwren tost 'dag e, dâth minyw ato fe gida fâs alabaster in llawn smel neis, a allwish e dros i ben fel wedd e'n ishte wrth i ford. Pan welo'r disgiblion hyn wen nhwy'n grac a gwedon nhwy, “Pam i wast 'ma? Gallech chi werthu'r smel 'ma am lot o arian a'i roi e i'r dinion llwm.” Diallodd Iesu beth we'n mynd mlân a gwedodd e wrthyn nhwy, “Pam ŷch chi'n trwbli'r fenyw? Mae i wedi neud rhwbeth neis iawn i fi; achos ma'r dinion llwm 'dach chi rownbowt, ond fidda i ddim 'dach chi rownbowt. Pan nâth hi allwish i smel 'ma mas ar in gorff i wedd i'n paratoi fi i gâl ing gladdu. Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, ble binnag in i byd mowr bydd i Newydd Da in câl i adrodd, bydd dinion in gweud am beth nâth i i fi, a bydd dinion in cofio amdani.”
Wedyn âth un o'r Douddeg, Jwdas Iscariot we'i enw e, at i pen-ffeiradon a gweud, “Beth roiwch chi i fi, os 'na i i roi e i chi?” A fe dalon deg shekel ar hugen iddo fe. O'r amser 'ny mlân wedd e'n treial ffeindo amer pan galle fe i roi e lan.
Ar ddwarnod cinta Cwrdde Mowr i Bara Planc dath i disgiblion at Iesu a gweud, “Ble wit ti moyn i ni baratoi iti fita swper i Pasg?” Gwedodd e, “Cerwch miwn i'r ddinas at i dyn 'ma a gweu’tho fe, ‘Ma'r Titjer in gweud, “Ma'n amser i in agos. Dwi'n cadw'r Pasg in di dŷ di 'da'n ddisgiblion.”’” Nâth i disgiblion in gowir fel we Iesu wedi rhoi ordors iddyn nhwy neud a nethon nhwy baratoi'r Pasg.
Pan ddâth hi'n nos ishteddodd e wrth i ford gida'r Douddeg; a fel wen nhwy'n bita gwedodd e, “Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, bydd un onoch chi in in roi i lan.” Wen nhwy i gyd in gofidio a gwedon nhwy wrtho fe, bob un onyn nhwy, “Ddim fi yw e, Mishtir, dife?” Atebodd e, “Mae rhiwun sy wedi dipo'i law in i basn gida fi in mynd i roi fi lan. Ma Crwt i Dyn in mynd bant fel ma'r Isgrithur in gweud amdano fe, ond druan o'r dyn 'ny sy'n rhoi Crwt i Dyn lan! Bise'n well iddo fe se fe heb gâl i eni.” Atebo Jwdas, ir un we'n i roi ei lan, “Ddim fi yw e o gwbl, dife Rabbi?” Gwedodd e wrtho, “Ti sy wedi gweud 'na.”
Fel wen nhwy'n bita, cwmrodd Iesu fara, gweud i fendith, i dorri fe a'i roi e i’w ddisgibion, a gweud, “Cwmrwch, bitwch; co'n gorff i.” Cwmrodd e'r cwpan, diolch, a'i roi ei ddyn nhwy a gweud, “Ifwch hwn, bob un o chi; achos hwn yw'ng ngwâd i o'r citundeb, sy'n câl i allwish mas achos lot o ddinion, er mwyn iddyn nhwy gâl maddeuant am u pechode. Dwi'n gweu’thoch chi, o nawr mas ifa i ddim o ffrwyth i llwyn grêps nes bo'r dydd 'ny'n dwâd pan fidda i'n ifed e o'r newy gida chi in Teyrnas in Dad.”
Wedi 'ddyn nhwy ganu emyn, ethon nhwy mas i Fini'r Llwyn Olifs.
Wedyn wedo Iesu wrthyn nhwy, “Biddwch chi yn cwmpo bant achos fi heno, achos ma'r Isgrithur in gweud, ‘Bidda i'n bwrw'r bugel, a bydd i defed in cal u hala i bob man’; ond wedi ifi gâl in godi â i o’ch blân chi i Galilea.” Atebo Pedr e, “Os neith bob un arall gwmpo bant o di achos di, 'na i ddim cwmpo bant byth.” Gwedo Iesu wrtho, “Dwi'n gweud i gwir wrthot ti, heno cyn i'r ceilog ganu biddi di'n gweud bo ti ddim in in nabod i deirgwaith.” Gwedo Pedr wrtho fe, “Hyd nôd os wes rhaid ifi farw gida ti, 'na i ddim gweud bo fi ddim in di nabod di.” A 'na beth wedo'r disgiblion i gyd.
Wedyn dâth Iesu gida nhwy i le o'r enw Gethsemane, a gwedodd e wrth i ddisgiblion, “Ishteddwch fan’yn wrth bo fi'n mynd draw fan’co a gweddïo.” Cwrmodd e Pedr a dou grwt Sebedeus gidag e, a wedd e'n gofidio a wedi'i drwbli lot fowr. Wedyn wedodd e wrthyn nhwy, “Dwi mewn pwen ofnadw. Arhoswch fan’yn a watshwch mas 'da fi.” Âth e mlân tamed bach, cwpo ar i wmed a gweddïo, “In Dad i, os yw i'n bosib, gad i'r cwpan 'ma fynd bant wrtha i; ond ddim fel dwi moyn, ond fel wit ti moyn.” Dâth e at i disgblion a gweld bo nhwy'n cisgu, a wedodd e wrth Pedr, “Ŷch chi'n cisgu, 'te! We ddim un o chi'n galler watsho 'da fi am awr? Watshwch a gweddïwch, fel bo chi ddim in dwâd i amser o gâl ich profi. Ma'r isbryd in barod i neud i peth, ond ma'n natur ddynol ni'n wan.” Shwrne 'to, am ir eilwaith, âth e bant a gweddïo, “In Dad i, os yw i'n amhosib i'r cwpan 'ma fynd heibo heb i fi ifed mas oni, wedyn dwi'n folon neud fel wit ti moyn.” Dâth e 'to a'u ffeindo nhwy in cisgu. Gadodd e nhwy, a mynd bant wêth i weddïo am i tridydd gwaith, a'n gweud i'r un geire shwrnet 'to. Wedyn dâth e at i disgiblion a gweud wrthyn nhwy, “Cisgwch chi a câl gwd rest. Dirchwch, ma'r awr wedi dwâd in agos, a ma Crwt i Dyn in câl i roi miwn i ddwylo pechaduried. Codwch, gadwch i ni fynd. Drichwhc, ma'r un sy'n in roi i lan in agos.”
Fel wedd e'n sharad, dâth Jwdas, un o'r Douddeg; a gidag e we crowd mowr wedi câl u hala wrth i pen-ffeiradon a henuried i bobol, a wen nhwy'n cario cleddife a pastwne. We'r un we'n rhoi Iesu lan wedi rhoi sein iddyn nhwy, a wedi gweud, “I dyn bidda i'n i gusanu yw e; dalwch e.” Dâth e at Iesu heb whilibowan, i gifarch e a gweud “Rabbi” a rhoi cusan iddo. Gwedodd Iesu wrtho, “Ffrind, 'na beth wit ti wedi dwâd i neud.” Wedyn dethon nhwy a rhoi dwylo ar Iesu a cwmrid gafel indo fe. Nâth un o'r rhei we 'da Iesu fistyn i law a tinnu mas i gleddyf; bwrodd e was i ffeirad mowr a torri'i glust e bant. Wedyn wedo Iesu wrtho fe, “Rhoi di gleddyf nôl in i lle, achos ma bob un sy'n cwmrid i celddyf in câl i dinistro trw'r cleddyf. Ŷch chi ddim in meddlw sena i'n galler gofyn in Dad a bise fe'n hala douddeg lleng o angilion i sefyll wrth in ochor? Ond wedyn shwt bise'r Isgrithur sy'n gweud taw fel hyn ma pethe fod in dod in wir?” Amser 'ny wedodd Iesu wrth i crowde, “Odych chi wedi dwâd mast, fel in erbyn lleidir, in cariod cleddife a pastwne i'n aresto i? Bues i'n ishte bod dydd in disgu in i demel, a ddethoch chi ddim ar in ôl i fan'ny.” Digwyddodd hyn i gyd fel bo'r pethe we'r proffwydi wedi reito in dod in wir. Wedyn âth i ddisgiblion e i gyd a'i adel e a jengid.
Dalon nhwy Iesu a'i arwen e bant at i fferiad mowr, Caiaffas, lle we'r rhei we'n disgu'r Gifreth a'r henuried wedi dwâd at i gilyd. Ond dilinodd Pedr o bell, lan at glos i ffeirad mowr; a âth e miwn a ishte lawr 'da'r gweishon we fan'ny.
We'r pen-ffeiradon a'r Cingor Mowr in treial in whilio am gelwy in erbyn Iesu fel gallen nhwy i ladd e, ond ffeilon nhwy ffeindo dim, er bod sawl tyst clewyddog wedi dwâd mlân. In ddiweddarach, dâth dou mlân, a gweud, “Gwedo'r dyn 'ma, ‘Galla i ddinistro temel Duw, a'i chodi 'ddi 'to miwn tri dwarnod.’” Safo'r ffeirad mowr lan a gweud, “Sdim ateb 'da ti? Beth yw'r distioleth 'ma man nhwy'n dwâd in di erbyn di?” Ond we Iesu in dawel. Gwedo'r ffeirad mowr wrtho fe, “Dwi'n di roi di ar di lw o flân i Duw byw i weud wrthon ni os ti yw'r Meseia, Crwt Duw.” Gwedo Iesu wrtho, “Ti sy wedi gweud 'na; ond dwi'n gweu’thoch chi gyd, o nawr mas welwch chi Grwt i Dyn in ishte ar law dde i Duw Hollalluog, a'n dwâd ar gwmwle'r nefodd.” Wedyn rhicodd i ffeirad mowr i ddillad, a gweud, “Mae e wedi cablu. Pam bo ishe mwy o distion arnon ni? Nawr ich bo chi wedi cliwed i cabledd. Beth ŷch chi'n meddwl?” “Mae e'n euog,” atebon nhwy. “Rhaid 'ddo farw.”
Weedyn poeron nhwy in i wmed e a'i ddwrnu e, nâth rhei rhoi slapen iddo ar grôs i wmed, a gweud, “Proffwyda i ni, Meseia; gwed pwy nâth di fwrw di?”
We Pedr in ishte tu fas ar i clos. Dâth morwm ifanc lan ato fe a gweud, “Wet ti gida Iesu, i dyn o Galilea, ‘fyd.” Ond nâth e weud bo fe ddim in i nabod e a nhwy i gyd in grondo, a gweud, “Sena i'n diall beth wit ti'n gweud.” Gwelo merch arall e pan âth mas i'r iet, a gweud wrth i rhei we fan'ny, “We'r dyn 'ma gida Iesu o Nasareth.” Nâth e daeru shwrne 'to a rhegi tro 'ma a gweud, “Sena i'n nabod i dyn’ma.” Wedi bach o amser dâth i rhei we'n sefyll fan'ny lan a gweud wrth Pedr, “In bendant wedi ti'n un onyn nhwy, achos ma'r ffor wit ti'n sharad in gweud 'na wrthon ni.” Wedi nâth e regi a diawlio, a gweud, “Sena i'n nabod i dyn.” Ar unweth fe ganodd ceilog, a cofiodd Pedr beth we Iesu wedi gweud, “Cyn i'r ceilog ganu bydd di wedi gweud bo ti ddim in in nabod i deirgwaith.” Âth e mas a llefen in mwrder.
נבחרו כעת:
Mathew 26: DAFIS
הדגשה
שתף
העתק
רוצים לשמור את ההדגשות שלכם בכל המכשירים שלכם? הירשמו או היכנסו
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies