બાઇબલ આવૃત્તિઓ

Salmau Dafydd Broffwyd 1603 (Edward Kyffin)

Welsh, Galés

Salmau Edward Kyffin 1603

Ganwyd Edward Kyffin yn Croesoswallt tua 1558. Aeth i Goleg Iesu, Caergrawnt, ac yn 1585 ordeiniwyd ef yn ddiacon Anglicanaidd yn Llundain. Bu farw o'r pla yn Llundain yn 1603.

Tra yn Llundain mwynhaodd Kyffin ganu'r salmau yn nhraddodiad Eglwys Loegr. Roedd am osod y salmau Cymraeg ar fydr, fel bod modd eu canu fel y salmau mydryddol yn Saesneg. Credir iddo gwblhau tua 50 o'r salmau ar sail cyfieithiad William Morgan o'r Beibl. Ond bu farw Kyffin o'r pla ym 1603, a dim ond llond dwrn o'i waith sydd wedi goroesi.

Casglwyd y salmau sydd wedi goroesi gan Thomas Salisbury. Yn 1603 trefnodd eu cyhoeddi yn Llundain gan yr argraffydd Samuel Stafford, dan y teitl: Rhann o Psalmae Dafydd Brophwyd - iuu canu ar oed y dôn arferedig yn Eglwys Loegr. Mae'n cynnwys 12 salm lawn a 5 adnod gyntaf Salm 13. Mae'nt wedi'u gosod fel awdl gywydd, mewn penillion o 4 llinell. Yn ei ragymadrodd mae Kyffin yn dadlau mai arbrawf yn unig oedd ei waith, er mwyn symbylu eraill i wneud yn well.

Argraffwyd y salmau mydryddol ochr yn ochr â chyfieithiad William Morgan o'r salmau, gyda salmau Kyffin mewn teip Gothig du trwm ar ochr chwith y dudalen a salmau William Morgan mewn teip plaen ar y dde.

Argraffiad 1930

Ailgyhoeddwyd salmau Kyffin ym 1930 gan Wasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, yn dwyn y teitl: Rhann o Psalmae Dafydd Brophwyd - I’w canu ar ol y don arferedig yn Eglwys Loegr.

Yr Argraffiad Digidol

Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2019, fel rhan o Brosiect Digideiddio Ysgrythurau Cymraeg.

----

 

Edward Kyffin Psalms 1603

Edward Kyffin was born in Oswestry in 1558. He attended Jesus College, Cambridge, and in 1585 he was ordained an Anglican deacon in London where he died of the plague in 1603.

Whilst in London Kyffin enjoyed singing the psalms in the Church of England tradition. He wanted to translate the Welsh psalms into metre, so that they could be sung as the English metrical psalms were. It is believed that he versified around 50 of the psalms from William Morgan's Welsh translation, but Kyffin died of the plague in 1603, and only a handful of the Psalms survived.

The surviving psalms were collected by Thomas Salisbury. In 1603 he had them published in London by the printer Samuel Stafford, as: Rhann o Psalmae Dafydd Brophwyd - iuu canu ar ôl y dôn arferedig yn Eglwys Loegr. This includes 12 full psalms and the first 5 verses of Psalm 13. These are set in 4 line stanzas, set to the traditional Welsh poetic style known as awdl gywydd. In his introduction Kyffin argues that his work was merely an experiment, to motivate others to do a better job.

The metrical psalms were published side by side with the biblical psalms, with Kyffin’s psalms in black letter Gothic type on the left and William Morgan’s psalms in plain type on the right. The text included a preface to the reader (At y Darllenudd) from Edward Kyffin.

1930 Edition

Kyffin's psalms were republished in 1930 by the University of Wales Press in Cardiff when it was entitled: Rhann o Psalmae Dafydd Brophwyd - I’w canu ar ol y don arferedig yn Eglwys Loegr.

Digital Edition

The text was digitised as Salmau Dafydd Broffwyd 1603 (Edward Kyffin) by the Bible Society in 2019, as part of the Welsh Scriptures Digitisation Project. 


British & Foreign Bible Society

SC1603 પ્રકાશક

વધુ શીખો

Other Versions by British & Foreign Bible Society