Luc 20

20
1A digwyddodd un diwrnod, ac ef yn ddysgu’r bobl yn y deml ac yn cyhoeddi’r newyddion da, daeth yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, ynghyd â’r henuriaid, yn ei erbyn; 2a dywedasant wrtho, “Dywed i ni trwy ba awdurdod y gwnei di’r pethau hyn, neu pwy yw’r un a roes i ti’r awdurdod hwn.” 3Atebodd iddynt, “Mi ofynnaf innau air i chwithau, a dywedwch i mi: 4Bedydd Ioan, ai o’r nef yr oedd, ai o ddynion?” 5Ymresymasant hwythau â’i gilydd, gan ddywedyd, “Os dywedwn, ‘O’r nef’, fe ddywed yntau, ‘Paham nas credasoch?’ 6Ac os dywedwn ‘O ddynion,’ yr holl bobl a’n llabyddia ni, canys argyhoeddwyd hwy fod Ioan yn broffwyd.” 7Ac atebasant na wyddent o ba le. 8A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Ac ni ddywedaf innau i chwithau trwy ba awdurdod y gwnaf y pethau hyn.”
9A dechreuodd ddywedyd y ddameg hon wrth y bobl. “Plannodd dyn winllan, a gosododd hi i lafurwyr, ac aeth oddi cartref dros gryn amser. 10A phan oedd hi’n bryd anfonodd was at y llafurwyr, er mwyn iddynt roddi iddo o ffrwyth y winllan; a’i anfon ymaith a wnaeth y llafurwyr yn waglaw, ar ôl ei guro. 11Ac aeth ymlaen a gyrru gwas arall; hwnnw hefyd, wedi ei guro a’i amharchu, a anfonasant ymaith yn waglaw. 12Ac aeth ymlaen a gyrru trydydd; clwyfasant hwn hefyd, a’i fwrw allan. 13A dywedodd perchen y winllan, ‘Beth a wnaf? Gyrraf fy mab annwyl; efallai y parchant ef.’ 14A phan welsant ef, dechreuodd y llafurwyr ymresymu â’i gilydd, gan ddywedyd, ‘Hwn yw’r etifedd; lladdwn ef, fel y delo’r etifeddiaeth i ni.’ 15A bwriasant ef allan o’r winllan, a’i ladd. Beth, ynteu, a wna perchen y winllan iddynt? 16Fe ddaw, ac fe ddifetha’r llafurwyr hyn, a rhydd y winllan i eraill.” Pan glywsant, dywedasant, “Na ato Duw.” 17Edrychodd yntau arnynt, a dywedodd, “Beth, ynteu, yw hyn sy’n ysgrifenedig?
Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,
hwn a ddaeth yn ben y gongl.
18Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw, fe’i dryllir; ac ar bwy bynnag y syrthio, fe’i mâl ef.”
19A cheisiodd yr ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid roi eu dwylo arno yr awr honno; ac ofnasant y bobl; canys deallasant mai amdanynt hwy y dywedasai’r ddameg hon. 20Ac wedi gwylied eu cyfle, anfonasant gynllwynwyr, yn cymryd arnynt eu bod yn gyfiawn, er mwyn ei ddal ef ar air, a’i draddodi i lywodraeth ac awdurdod y rhaglaw. 21A gofynasant iddo, “Athro, gwyddom mai cywir y lleferi ac y dysgi, ac nad wyt yn derbyn wyneb, ond dy fod yn dysgu ffordd Duw mewn didwylledd. 22A ddylem ni roi treth i Gesar ai peidio?” 23Ond sylwodd ar eu cyfrwystra, a dywedodd wrthynt, 24“Dangoswch imi swllt; delw ac argraff pwy sydd arno?” Dywedasant hwythau “Cesar.” 25Dywedodd yntau wrthynt, “Wel, ynteu, telwch bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.” 26Ac ni allasant gymryd gafael yn ei air yng ngŵydd y bobl, a chan ryfeddu at ei ateb tawsant â sôn.
27A daeth ato rai o’r Sadwceaid, sy’n gwadu nad oes atgyfodiad, a gofynasant iddo, 28“Athro, ysgrifennodd Moses i ni, os bydd marw brawd neb, un a gwraig ganddo, a bod hwnnw heb blant, cymered ei frawd y wraig, a choded had i’w frawd. 29Yr oedd, ynteu, saith o frodyr; a’r cyntaf a gymerth wraig, a bu farw heb blant; 30-31a’r ail a’r trydydd a’i cymerth hi; a’r un modd y saith, ni adawsant blant, a buont farw. 32Wedyn bu’r wraig farw hefyd. 33Y wraig, ynteu, gwraig i ba un ohonynt fydd hi yn yr atgyfodiad? canys y saith a’i cafodd hi’n wraig.” 34A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Plant yr oes hon a briodant ac a briodir, 35ond y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael yr oes a ddaw a’r atgyfodiad o feirw, ni phriodant ac nis priodir; 36canys ni allant farw mwy, oblegid cydradd â’r angylion ydynt, ac y maent yn blant Duw am eu bod yn blant yr atgyfodiad. 37Ond bod y meirw yn cyfodi, Moses hefyd a’i hysbysodd, yn hanes y Berth, pan yw’n sôn am yr Arglwydd yn Dduw Abraham a Duw Isaac a Duw Iacob. 38Nid yw’n Dduw rhai meirw ond rhai byw. Canys y maent oll yn fyw iddo ef.” 39Atebodd rhai o’r ysgrifenyddion, “Athro, da y dywedaist”; 40canys ni feiddient mwyach ofyn dim iddo.
41A dywedodd wrthynt, “Pa fodd y dywedant fod y Crist yn fab Dafydd? 42Canys Dafydd ei hun a ddywed yn llyfr y Salmau,
Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd,
Eistedd ar fy neheulaw,
43 hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed.
44Felly Dafydd a’i geilw ef yn Arglwydd, a pha fodd y mae’n fab iddo?”
45A’r holl bobl yn gwrando, dywedodd wrth y disgyblion, 46“Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, sy’n chwenychu rhodio mewn gwisgoedd llaes ac yn caru cyfarchiadau yn y marchnadoedd a’r prif gadeiriau yn y synagogau a’r prif seddau yn y gwleddoedd; 47y rhai sy’n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo; caiff y rhai hyn drymach dedfryd.”

Tällä hetkellä valittuna:

Luc 20: CUG

Korostus

Jaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään