Luc 18

18
1A llefarodd ddameg wrthynt ar fod rhaid iddynt weddïo’n wastad, a pheidio â llwfrhau. 2Dywedodd, “Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas, nad ofnai Dduw ac na pharchai ddyn. 3Ac yr oedd gweddw yn y ddinas honno, a hi ddeuai ato, gan ddywedyd, ‘Amddiffyn fi rhag fy ngwrthwynebwr.’ 4Ac ni fynnai ef dros amser, ond wedyn fe ddywedodd ynddo’i hun, ‘Er nad ofnaf Dduw ac na pharchaf ddyn chwaith, 5eto am fod y weddw hon yn peri blinder imi fe’i hamddiffynnaf hi, rhag iddi ddyfod o hyd a’m byddaru’.” 6A dywedodd yr Arglwydd, “Clywch beth a ddywed y barnwr anghyfiawn. 7Oni ddyry Duw amddiffyn i’w etholedigion sy’n llefain arno ddydd a nos, ac a oeda ef yn eu hachos? 8Dywedaf i chwi y dyry amddiffyn iddynt yn ebrwydd. Eithr Mab y dyn, pan ddêl, a gaiff ef ffydd#18:8 Neu, yn llythrennol, y ffydd ar y ddaear?”
9A dywedodd hefyd y ddameg hon am rai a oedd yn hyderus eu bod hwy yn gyfiawn, ac yn diystyru’r lleill. 10“Aeth dau ddyn i fyny i’r deml i weddïo, un yn Pharisead a’r llall yn drethwr. 11Safodd y Pharisead, a gweddïo fel hyn wrtho’i hun: ‘O Dduw, yr wyf yn diolch iti nad wyf fel y gweddill o ddynion, yn gribddeilwyr, yn anghyfiawn, yn odinebwyr, neu fel y trethwr hwn chwaith. 12Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yr wythnos, yr wyf yn degymu cymaint oll ag a dderbyniaf.’ 13Ond safai’r trethwr o bell, ac ni fynnai hyd yn oed godi ei lygaid tua’r nef, ond curai ei ddwyfron, gan ddywedyd, ‘O Dduw, trugarha wrthyf i’r pechadur.’ 14Dywedaf i chwi, aeth hwn i lawr i’w dŷ wedi ei gyfiawnhau, yn hytrach na hwnacw. Canys pob un sy’n ei ddyrchafu ei hun a ostyngir, a’r hwn sy’n ei ostwng ei hun a ddyrchefir.”
15A dygent ato hefyd eu babanod, fel y cyffyrddai â hwynt; ac yr oedd y disgyblion, pan welsant, yn eu ceryddu hwynt. 16Ond galwodd yr Iesu hwynt ato, gan ddywedyd, “Gedwch i’r plant bach ddyfod ataf i, a pheidiwch â’u rhwystro; canys rhai fel hwy biau deyrnas Dduw. 17Yn wir meddaf i chwi, pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel plentyn bach, nid â byth i mewn iddi.”
18A gofynnodd rhyw lywodraethwr iddo, “Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?” 19Dywedodd yr Iesu wrtho, “Paham y gelwi fi’n dda? Nid da neb ond un — Duw. 20Gwyddost y gorchmynion. ‘Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, Anrhydedda dy dad a’th fam.’ ” 21Dywedodd yntau, “Y rhain oll a gedwais o’m hieuenctid.” 22A phan glywodd yr Iesu, dywedodd wrtho, “Y mae un peth eto’n eisiau i ti; gwerth bopeth sy gennyt, a rhanna i dlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyred, dilyn fi.” 23Ac yntau, pan glywodd hyn, aeth yn athrist, canys yr oedd yn gyfoethog iawn. 24A phan welodd yr Iesu ef, fe ddywedodd, “Mor anodd yr â’r rhai ag arian ganddynt i mewn i deyrnas Dduw! 25Canys haws yw i gamel fynd trwy grau nodwydd nag i oludog fynd i mewn i deyrnas Dduw.” 26A dywedodd y rhai a glywodd, “Wel, pwy all gael ei gadw?” 27Dywedodd yntau, “Y pethau sydd amhosibl gyda dynion sy bosibl gyda Duw.” 28Dywedodd Pedr, “Dyma ni wedi gadael ein heiddo, a’th ddilyn di.” 29Dywedodd yntau wrthynt, “Yn wir meddaf i chwi, nid oes neb a adawodd dŷ neu wraig neu frodyr neu rieni neu blant er mwyn teyrnas Dduw, 30na dderbyn lawer gwaith cymaint yn yr amser hwn, ac yn yr oes sy’n dyfod fywyd tragwyddol.”
31Ac fe gymerth y deuddeg ato, a dywedodd wrthynt, “Dyma ni’n mynd i fyny i Gaersalem, a’r holl bethau a ysgrifennwyd trwy’r proffwydi a gyflawnir i Fab y dyn. 32Canys fe’i traddodir i’r cenhedloedd, a’i watwar a’i sarhau a phoeri arno, 33ac wedi ei ffrewyllu fe’i lladdant; a’r trydydd dydd fe atgyfyd.” 34Ac ni ddeallasant hwy ddim o’r pethau hyn, ac yr oedd y gair hwn yn guddiedig oddi wrthynt, ac ni wyddent am y pethau a ddywedid.
35A digwyddodd, pan oedd ef yn nesáu at Iericho, fod rhyw ddyn dall yn eistedd ar fin y ffordd yn cardota. 36A phan glywodd dyrfa’n mynd heibio, gofynnai beth oedd hyn; 37a mynegasant iddo fod Iesu o Nasareth yn mynd heibio. 38A llefodd, “Iesu, Fab Dafydd, tosturia wrthyf.” 39A’r rhai oedd ar y blaen a’i rhybuddiai ef i dewi; ond mwy o lawer y gwaeddai ef, “Fab Dafydd, tosturia wrthyf.” 40A safodd yr Iesu, a gorchymyn, ei ddwyn ef ato. Wedi iddo ddyfod yn agos, gofynnodd iddo, 41“Beth a fynni i mi ei wneuthur iti?” Dywedodd yntau, “Arglwydd, cael fy ngolwg.” 42A dywedodd yr Iesu wrtho, “Cymer dy olwg; dy ffydd a’th iachaodd.” 43Ac yn union cafodd ei olwg, ac aeth i’w ddilyn ef dan ogoneddu Duw. A’r holl bobl, pan welsant, rhoesant glod i Dduw.

Tällä hetkellä valittuna:

Luc 18: CUG

Korostus

Jaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään