Ioan 9

9
1Ac wrth fyned heibio, gwelodd ddyn dall o’i enedigaeth, 2a holodd ei ddisgyblion ef gan ddywedyd: “Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn ai ei rieni fel y ganed ef yn ddall?” 3Atebodd Iesu: “Nid hwn a bechodd na’i rieni chwaith, ond er mwyn amlygu gweithredoedd Duw ynddo ef. 4Rhaid i ni weithio gweithredoedd yr hwn a’m hanfonodd tra fo hi’n ddydd. Y mae’r nos yn dyfod pan na all neb weithio. 5Tra fwyf yn y byd, goleuni’r byd ydwyf.” 6Wedi dywedyd hyn, poerodd ar lawr a gwnaeth laid o’r poer, a rhoes y llaid ar ei lygaid 7a dywedodd wrtho: “Dos, ymolch yn llyn Siloam” (a gyfieithir yn Anfonedig). Aeth yntau ymaith ac ymolchodd a daeth yn gweled. 8Felly dywedodd y cymdogion, a’r rhai a’i gwelai gynt pan oedd yn gardotyn#9:8 Neu: mai cardotyn oedd.: “Onid hwn yw’r dyn oedd yn eistedd ac yn cardota?” 9“Hwn ydyw,” medd rhai. “Nage,” medd eraill, “ond un tebig iddo ydyw.” Medd yntau: “Myfi yw.” 10Dywedasant hwythau wrtho: “Sut felly yr agorwyd dy lygaid?” 11Atebodd yntau: “Y dyn a’i enw Iesu a wnaeth laid ac a irodd fy llygaid ac a ddywedodd wrthyf: ‘Dos i Siloam ac ymolch’; felly wedi myned ac ymolchi, mi ddeuthum i weled.” 12A dywedasant wrtho: “Ym mha le y mae ef?” Medd yntau: “Ni wn i.” 13Ant ag ef at y Phariseaid, y dyn oedd gynt yn ddall; 14ac yr oedd hi’n Sabath ar y dydd y gwnaeth yr Iesu y llaid ac yr agorodd ei lygaid.
15Felly dyma’r Phariseaid hefyd yn ei holi wedyn sut y daeth i weled, ac meddai yntau wrthynt: “Llaid a roes ar fy llygaid i ac ymolchais ac yr wyf yn gweled.” 16Dywedodd rhai o’r Phariseaid, felly: “Nid ydyw’r dyn hwn oddiwrth Dduw ag yntau heb fod yn cadw y Sabath.” Medd eraill, “Sut y gall dyn pechadurus wneuthur arwyddion o’r fath?” Ac aeth yn ddwyblaid yn eu plith, 17a dywedasant wedyn wrth y dyn dall: “Beth a ddywedi di amdano, ag yntau wedi agor dy lygaid?” Dywedodd yntau: “Proffwyd ydyw.” 18Felly ni chredai’r Iddewon amdano ei fod yn ddall ac wedi dyfod i weled nes galw ohonynt ei rieni ef, y dyn a ddaethai i weled, 19a holasant hwynt gan ddywedyd: “Hwn yw eich mab chwi y dywedwch chwi ei fod wedi ei eni’n ddall? Sut ynteu y mae yn awr yn gweled?” 20Atebodd ei rieni a dywedasant: “Gwyddom mai hwn yw ein mab ac mai’n ddall y ganed ef, 21ond sut y mae’n gweled yn awr nis gwyddom, a phwy a agorodd ei lygaid nis gwyddom ni; holwch ef, y mae mewn oed, fe sieryd ef amdano’i hun.” 22Hyn a ddywedodd ei rieni am fod ofn yr Iddewon arnynt, oherwydd yr oedd yr Iddewon eisoes wedi cytuno i dorri allan o’r synagog bob un a’i harddelai ef yn Eneiniog. 23Dyna paham y dywedodd ei rieni, “Y mae mewn oed, holwch ef.” 24Felly galwasant yr ail waith y dyn a fuasai’n ddall, ac meddent hwy wrtho: “Dyro ogoniant i Dduw; gwyddom ni mai pechadur ydyw hwn.” 25Atebodd yntau: “Ai pechadur ydyw, nis gwn. Un peth a wn, mai dall oeddwn a’m bod yn awr yn gweled.” 26Meddent hwy felly wrtho: “Beth a wnaeth iti? Sut yr agorodd dy lygaid di?” 27Atebodd iddynt: “Yr wyf wedi dywedyd wrthych yn barod, ond ni wrandawsoch. Paham y mynnwch glywed eilwaith? Nid oes arnoch chwithau hefyd eisieu bod yn ddisgyblion iddo, a oes?” 28A chablasant ef a dywedasant wrtho: “Yr wyt ti’n ddisgybl i hwn, ond disgyblion Moesen ydym ni. 29Gwyddom ni am Foesen, i Dduw lefaru wrtho, ond am hwn, ni wyddom o ba le y mae.” 30Atebodd y dyn a dywedodd wrthynt: “Ie, dyna’r rhyfeddod na wyddoch chwi o ba le y mae, ag yntau wedi agor fy llygaid i. 31Gwyddom nad yw Duw yn gwrando ar bechaduriaid, ond os yw neb yn ofni Duw ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnnw y mae’n ei wrando. 32Ni bu erioed sôn bod neb wedi agor llygaid dyn wedi ei eni’n ddall. 33Onid oedd hwn o Dduw, ni allasai wneuthur dim.” 34Atebasant a dywedasant wrtho: “Mewn pechodau y ganed di’n gyfangwbl, ac a wyt ti’n ein dysgu ni?” A bwriasant ef allan. 35Clywodd Iesu eu bod wedi ei fwrw allan, ac meddai ef, wedi dyfod o hyd iddo: “A wyt ti’n credu ym mab y dyn?” 36Atebodd yntau a dywedodd: “A phwy yw, Syr, er mwyn i mi gredu ynddo?” 37Dywedodd yr Iesu wrtho: “Nid yn unig yr wyt ti wedi ei weled, ond yr hwn sydd yn siarad â thi ydyw.” 38Medd ef: “Yr wyf yn credu, Arglwydd.” #9:38 Neu: Syr. Ac addolodd ef. 39A dywedodd yr Iesu: “I farn y deuthum i i’r byd hwn, fel y gwelo’r rhai ni welant ac yr êl y rhai sy’n gweled yn ddeillion.” 40Clywodd y rhai o’r Phariseaid a oedd gydag ef hynny, a dywedasant wrtho: “A ydym ninnau hefyd yn ddeillion?” 41Meddai’r Iesu wrthynt: “Pe baech ddeillion, ni byddai pechod arnoch. Yn awr dywedwch, ‘Yr ydym yn gweled’; y mae eich pechod yn aros.”

Tällä hetkellä valittuna:

Ioan 9: CUG

Korostus

Jaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään