Salmau 72
72
SALM LXXII
DUW GADWO’R BRENIN.
‘Salm Solomon’
1Dyro i’r brenin Dy gyfiawnder, O Dduw,
A’th uniondeb i’r tywysog,
2Fel y llywodraetho Dy bobl yn gyfiawn,
A rhoddi tegwch i’th drueiniaid.
3Dyged y mynyddoedd heddwch i’r bobl,
A chyfiawnder fyddo ffrwyth y bryniau.
4Rhodded degwch i drueiniaid y bobl,
Gwareded feibion yr anghenus,
A dryllied y gorthrymydd.
5Tra byddo haul bydded yntau,
Cyfoeswr fyddo â’r lleuad yn oes oesoedd.
6Disgynned fel glaw ar ddôl,
Fel cawodydd yn diferu ar ddaear.
7Blodeued cyfiawnder yn ei ddyddiau,
Ac amlhaed heddwch tra bo lleuad.
8Bydded ei lywodraeth o fôr i fôr,
O afon Euphrates hyd derfynau’r ddaear.
9Ymgrymed ei elynion o’i flaen,
A llyfed ei gaseion y llwch.
10Taled frenhinoedd Tarsis a’r ynysoedd deyrnged,
A dyged frenhinoedd Sheba a Seba roddion.
11Taled pob brenin wrogaeth iddo,
A gwasanaethed pob cenedl ef.
12Canys gweryd y tlawd pan waeddo,
A’r truan a’r digymorth.
13Tosturied wrth y gwan a’r tlawd,
Ac achubed einioes y tlodion.
14Rhag niwed a gorthrwm cadwed eu bywyd,
A bydded eu gwaed yn werthfawr yn ei olwg.
15Hiroes iddo, a rhodder iddo aur Sheba;
Gweddïer drosto yn wastad,
A bendithier ef beunydd.
16Bydded cyflawnder o ŷd yn y tir
Yn ymdonni hyd ben y mynyddoedd;
Ffyniant Lebanon fo ar ei ffrwyth,
A blodeued ei ddinaswyr fel gwellt y ddaear.
17Bendith bythol ar ei enw,
Tra byddo haul pery ei glod.
Ynddo caiff holl dylwythau’r ddaear fendith,
Geilw pob cenedl ef yn ddedwydd.
18 Bendigedig fyddo Iehofa, Duw Israel,
Yr unig Dduw sy’n gwneuthur rhyfeddodau.
19 A bendigedig fyddo Ei enw gogoneddus yn dragywydd.
Llanwer yr holl ddaear â’i ogoniant.
Amen ac Amen.
‘Dyma ddiwedd gweddïau Dafydd fab Iesse.’
salm lxxii
Gweddi yw’r Salm ar gyfer dydd coroni’r brenin, ond ni ellir dweud pa frenin oedd ym meddwl yr awdur. Drwg a gormesol a fu ei ragflaenwyr, a disgwylir y bydd llywodraeth y brenin newydd yn dirionach. Gellir meddwl am Iosia yn dilyn Manase ac Amon. Er na ddyfynnir o’r Salm yn y Testament Newydd, ni phetrusodd yr Eglwys fore, gan ddilyn yr Iddewon, â chymhwyso’r Salm at Grist, a gwelwyd yn adnod 5 gyfeiriad at ei gynfodolaeth. Casgliad rhesymol i ddyfod iddo yw hwn: — Mai gweddi ar gyfer dydd coroni ydoedd y Salm ar y dechrau, ac yna newid peth arni er mwyn ei chymhwyso at y Meseia.
Nodiadau
1—7. Cynhysgaeth yr Arglwydd i’r brenin ydyw cyfiawnder ac uniondeb (1). Y trueiniaid ydyw deiliaid ei ragflaenwyr a ormeswyd ganddynt. Personolir y mynyddoedd a’r bryniau (3), a golygir y cenhadon a dramwya dros y mynyddoedd i bregethu heddwch ac nid rhyfel (Es. 52:7). Efallai mai dymuno hir barhad i linach y brenin a wneir yn adnod 5. Gweddi yw 6 am i law y brenin newydd fod yn dyner ar y bobl, i’w hadfywio fel glaw y ddaear, ac nid ei beichio. Llinach y brenin sydd ar ddyfod i’r orsedd a’i ddisgynyddion sydd ym meddwl y Salmydd wrth weddïo “ac amlhaed heddwch tra bo lleuad”.
8—14. Llywodraeth gyffredinol y Meseia a fynegir yn yr adnodau hyn, a chred amryw na pherthynant i’r Salm wreiddiol. Sylwer ar nodau Ei lywodraeth Ef: — ei lywodraeth i gynnwys yr holl ddaear “o afon Ewffrates hyd derfynau’r ddaear”; pob brenin i dalu gwrogaeth iddo a phob cenedl i’w wasanaethu; tirion fydd ei lywodraeth, ac i dlawd a thruan rhoir sylw arbennig.
Tarsis, Tartessus yn Sbaen. Sheba yn Neheudir Arabia. Seba yn Abyssinia.
15—17. Nid y Meseia a feddylir yma, canys anogir gweddi dros y brenin. Anodd anodd ydyw 16, a champ fawr cael ystyr boddhaol i eiriau’r adnod, ond y mae’r meddwl er hynny yn glir ddigon, gweddïo am lwyddiant a wna, am dir cnydiog a dinasoedd poblog.
Y mae dyled adnod 17 i eiriau’r cyfamod ag Abraham yn eglur ddigon, gwêl Gen. 12:3; 18:18; 22:18.
18, 19. Y Fendith a ychwanegir yma heb fod yn rhan o’r Salm wreiddiol. ‘Dyma ddiwedd gweddïau Dafydd fab Iesse’. Prawf fod y Salm hon unwaith yn ddiweddglo i gasgliad o weddïau a grynhowyd dan enw ‘Dafydd’ (gwêl rhagymadrodd).
Pynciau i’w Trafod:
1. Dywedir bod y Salm hon yn ‘Salm Fesiaidd’. Beth a olygir wrth hynny?
2. A chaniatáu fod cyfeiriad yma at lywodraeth fyd-eang Crist, a ydych chwi yn credu y sylweddolir hynny? A ydych chwi yn credu bod yr Arglwydd Iesu Grist i deyrnasu hyd oni osoder popeth dan ei draed. A ydyw Ef i ennill y byd yn genedlaethol, yn gydwladol, yn ddiwydiannol ac yn ddiwylliannol?
3. Ystyriwch y dyfyniad a ganlyn o’r Herald Cenhadol: — “Y mae arwyddion mewn rhannau o’r Dwyrain pell y bydd cynnal gwaith cenhadol Cristnogol yn fuan yn amhosibl oherwydd rhwystro hynny gan gyfraith”.
4. Beth yn eich tyb chwi ydyw’r rhwystr mwyaf yn y byd heddiw i ledaenu’r Efengyl? A ydych yn fodlon fod y Cenadaethau Cristnogol ar bob maes yn gorfod cyfyngu ar eu hegnïon oherwydd diffyg arian?
5. A ydych chwi yn gwneuthur rhywbeth i hybu’r breuddwyd mawr godidog am lywodraeth fyd-eang y Crist?
Tällä hetkellä valittuna:
Salmau 72: SLV
Korostus
Jaa
Kopioi
Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään
Detholiad o'r Salmau gan Lewis Valentine. Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston ym mis Ebrill 1936.