S. Luc 24

24
1Ac ar y Sabbath y buant lonydd yn ol y gorchymyn; ond ar y dydd cyntaf o’r wythnos, y wawr yn blygeiniol iawn, daethant at y bedd, gan ddwyn gyda hwynt y per-aroglau a barottoisent; 2a chawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddiwrth y bedd; 3ac wedi myned i mewn ni chawsant gorph yr Arglwydd Iesu. 4A bu pan ddyrysid hwy am hyn, wele dau ŵr a safent yn eu hymyl mewn gwisg felltenaidd; 5ac a hwy wedi eu brawychu, ac yn gogwyddo eu hwynebau tua’r ddaear, dywedasant wrthynt, Paham y ceisiwch yr Hwn sydd fyw ym mysg y meirw? 6Nid yw Efe yma, eithr cyfododd. Cofiwch pa fodd y llefarodd wrthych, 7ac Efe etto yn Galilea, gan ddywedyd fod i Fab y Dyn raid Ei draddodi i ddwylaw dynion pechadurus, ac Ei groes-hoelio, ac, ar y trydydd dydd, adgyfodi. 8A chofiasant Ei ymadroddion; ac wedi dychwelyd oddiwrth y bedd, 9mynegasant y pethau hyn oll i’r un ar ddeg ac i’r lleill oll. 10A Mair Magdalen ac Ioanna a Mair, mam Iago, a’r lleill gyda hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion; 11ac yn eu golwg hwynt fel gwegi yr edrychai’r ymadroddion hyn, ac anghoelient hwynt. 12Ond Petr, wedi codi, a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymmu gwelodd y llieiniau yn unig, ac aeth ymaith gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddigwyddasai.
13Ac wele dau o honynt, yr un dydd, oeddynt yn myned i bentref ynghylch trugain ystad oddiwrth Ierwshalem, o’r enw Emmaws; 14a hwy a ymddiddanent â’u gilydd am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent; 15a bu wrth ymddiddan a chwestiynu o honynt, yr Iesu Ei Hun hefyd, wedi nesau, 16oedd yn myned gyda hwynt; ond eu llygaid a attaliwyd fel nad adwaenent Ef; 17a dywedodd wrthynt, Pa beth yw’r geiriau hyn a fwriwch at eich gilydd dan rodio? A safasant, yn wyneb-drist. 18A chan atteb, un o honynt a’i enw Cleophas, a ddywedodd Wrtho, A wyt ti yn aros ar dy ben dy hun yn Ierwshalem ac heb wybod y pethau a ddigwyddasant ynddi yn y dyddiau hyn? 19A dywedodd wrthynt, Pa bethau? A hwy a ddywedasant Wrtho, Y pethau ynghylch Iesu y Natsaread, yr Hwn oedd brophwyd galluog mewn gweithred a gair gerbron Duw a’r holl bobl; 20a’r modd y traddododd yr archoffeiriaid a’n llywodraethwyr ni Ef i gondemniad marwolaeth, ac y’i croes-hoeliasant Ef. 21Ond nyni a obeithiem mai Efe oedd yr Hwn ar fedr gwaredu’r Israel. Eithr hefyd ynghyda’r holl bethau hyn, y trydydd dydd yw er pan fu i’r pethau hyn ddigwydd. 22Eithr hefyd rhai gwragedd, o honom ni, a barasant syndod i ni, wedi bod ynghyda’r wawr wrth y bedd: a chan na chawsant Ei gorph, 23daethant gan ddywedyd mai gweledigaeth o angylion a welsent, y rhai a ddywedasant Ei fod yn fyw. 24Ac aeth rhai o’r rhai oeddynt gyda ni, at y bedd, a chawsant felly, fel y bu i’r gwragedd ddweud; ond Ef ni chawsant. 25Ac Efe a ddywedodd wrthynt, O rai difeddwl a rhy hwyr-frydig o galon i gredu’r holl bethau a lefarodd y prophwydi. 26Onid y pethau hyn yr oedd rhaid i Grist eu dioddef, a myned o Hono i mewn i’w ogoniant? 27A chan ddechreu ar Mosheh a’r holl Brophwydi, dehonglodd iddynt, yn yr holl Ysgrythyrau, y pethau am Dano Ei Hun. 28A nesasant at y pentref lle yr aent; ac Efe a gymmerth Arno mai pellach yr elai. 29A chymhellasant Ef, gan ddywedyd, Aros gyda ni, canys hwyrhau y mae, ac ar ddarfod weithian y mae’r dydd: ac aeth i mewn i aros gyda hwynt. 30A bu, wrth led-orwedd o Hono gyda hwynt, wedi cymmeryd bara y bendithiodd, ac wedi torri y rhannodd; 31a’u llygaid hwy a agorwyd, ac adnabuant Ef: ac Efe a ddiflannodd oddiwrthynt. 32A dywedasant wrth eu gilydd, Onid oedd y’n calon yn llosgi ynom, tra y llefarai wrthym ar y ffordd, a thra yr agorai i ni yr Ysgrythyrau? 33Ac wedi codi, yr un awr y dychwelasant i Ierwshalem, a chawsant yr un ar ddeg wedi ymgasglu ynghyd, a’r rhai oedd gyda hwynt, 34yn dywedyd, Yn wir, cyfododd yr Arglwydd, ac ymddangosodd i Shimon. 35A hwythau a fynegasant y pethau ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth dorriad y bara.
36Ac a hwy yn llefaru y pethau hyn, Efe a safodd yn eu canol, a dywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi. 37Ac wedi brawychu, a myned yn ddychrynedig, tybiasant mai yspryd a welent; 38a dywedodd wrthynt, Paham y’ch trallodwyd? A phaham y mae ymresymmiadau yn codi yn eich calonnau? 39Gwelwch Fy nwylaw ac Fy nhraed, mai Myfi Fy Hun yw. Teimlwch Fi, a gwelwch, canys yspryd nid yw a chanddo gnawd ac esgyrn. 40Ac wedi dywedyd hyn, dangosodd iddynt Ei ddwylaw ac Ei draed. 41A hwy etto yn anghoelio gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, dywedodd wrthynt, A oes genych yma beth i’w fwytta? 42A hwy a roisant Iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio; 43ac wedi ei gymmeryd ef, yn eu gwydd y bwyttaodd.
44A dywedodd wrthynt, Y rhai hyn yw Fy ngeiriau, y rhai a leferais wrthych tra etto ynghyda chwi, fod rhaid eu cyflawni o’r holl bethau a ’sgrifenwyd yn Nghyfraith Mosheh a’r Prophwydi a’r Psalmau am Danaf. 45Yna yr agorodd eu deall, fel y deallent yr Ysgrythyrau; 46a dywedodd wrthynt, Felly yr ysgrifenwyd, ddioddef o Grist, a chyfodi o feirw y trydydd dydd, 47ac y pregethid yn Ei enw edifeirwch a maddeuant pechodau, i’r holl genhedloedd, gan ddechreu ag Ierwshalem. 48Chwychwi ydych dystion o’r pethau hyn: ac wele, 49Myfi wyf yn danfon allan addewid Fy Nhad arnoch. A chwychwi, arhoswch yn y ddinas hyd oni wisger chwi, o’r uchelder, â gallu.
50Ac arweiniodd hwynt allan hyd at Bethania; ac wedi codi Ei ddwylaw, bendithiodd hwynt. 51A bu, wrth fendithio o Hono hwynt, didolwyd Ef oddiwrthynt, ac y’i dygpwyd i fynu i’r nef; 52a hwy, wedi Ei addoli Ef, a ddychwelasant i Ierwshalem gyda llawenydd mawr; 53ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moliannu Duw.

Tällä hetkellä valittuna:

S. Luc 24: CTB

Korostus

Jaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään