S. Luc 19

19
1Ac ar ol myned i mewn, yr aeth Efe trwy Iericho. 2Ac wele, gŵr yr hwn wrth ei enw a enwid Zaccëus, ac efe oedd ben treth-gymmerwr, ac efe yn oludog; 3a cheisiai weled yr Iesu, pwy ydoedd; ac ni allai o’r dyrfa, canys o ran maint, bychan oedd efe. 4Ac wedi rhedeg rhagddo i’r blaen, dringodd i sycamorwydden fel y gwelai Ef, canys y ffordd honno yr oedd Efe ar fyned heibio. 5A phan ddaeth i’r lle, wedi edrych i fynu, yr Iesu a ddywedodd wrtho, Zaccëus, brysia i ddisgyn, canys heddyw yn dy dŷ di y mae rhaid i Mi aros. 6Ac ar frys y disgynodd, a derbyniodd Ef yn llawen. 7A chan weled, yr oll o honynt a rwgnachasant, gan ddywedyd, At bechadur o ddyn yr aeth i mewn i lettya. 8A chan sefyll, Zaccëus a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy meddiannau, Arglwydd, yr wyf yn ei roddi i’r tlodion; ac os gan neb y cefais ddim ar gam, ei roddi yn ol yr wyf ar ei bedwerydd. 9A dywedodd yr Iesu wrtho, Heddyw, iachawdwriaeth a ddaeth i’r tŷ hwn, gan ei fod ef hefyd yn fab i Abraham, 10canys daeth Mab y Dyn i geisio ac i gadw yr hyn a gollwyd.
11A phan glywent hwy y pethau hyn, chwanegodd ddywedyd dammeg, gan mai agos yr oedd Efe i Ierwshalem, a thybied o honynt mai allan o law yr oedd teyrnas Dduw ar fedr ymddangos. 12Dywedodd, gan hyny, Rhyw ŵr boneddig a aeth i wlad bell i dderbyn iddo ei hun deyrnas, ac i ddychwelyd. 13Ac wedi galw ei ddeg gwas, rhoddes iddynt ddeg maneh, a dywedodd wrthynt, Marchnattewch hyd oni ddelwyf. 14Ond ei ddinaswyr a’i casaent ef, a danfonasant gennadwri ar ei ol, gan ddywedyd, Nid ewyllysiwn i hwn deyrnasu arnom. 15A bu, ar ol dychwelyd o hono, wedi derbyn y frenhiniaeth, y dywedodd hefyd am alw atto y geision hyny i’r rhai y rhoddasai yr arian, fel y gwybyddai pa faint a elwasant wrth farchnatta. 16A daeth y cyntaf gan ddywedyd, Arglwydd, dy faneh a ynnillodd atti ddeg maneh. 17A dywedodd efe wrtho, Da, was da: gan mai mewn peth bychan iawn ffyddlawn fuost, bydd ag awdurdod genyt ar ddeg dinas. 18A daeth yr ail, gan ddywedyd, Dy faneh, arglwydd, a wnaeth bum maneh. 19A dywedodd efe wrth hwnw hefyd, Da, was da; a thydi, bydd ar bum dinas. 20Ac y llall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy faneh, yr hon oedd genyf wedi ei dodi heibio mewn napcyn; 21canys ofnais di gan mai gŵr tost wyt: cymmeryd i fynu yr wyt yr hyn na roddaist i lawr, ac yn medi yr hyn na heuaist. 22Dywedodd efe wrtho, O’th enau y’th farnaf, was drwg. Gwyddit fy mod i yn ddyn tost, yn cymmeryd i fynu yr hyn na roddais i lawr, 23ac yn medi yr hyn na heuais; a phaham na roddaist fy arian at fwrdd yr arianwyr, ac myfi, wedi dyfod, gyda llog y’i cawswn? 24Ac wrth y rhai yn sefyll ger llaw y dywedodd, Cymmerwch oddi arno y faneh, a rhoddwch i’r hwn sydd a deg maneh ganddo. 25A dywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ddeg maneh. 26Dywedaf wrthych I bob un y sydd a chanddo, y rhoddir; ac oddi ar yr hwn nad oes ganddo, hyd yn oed yr hyn y sydd ganddo a gymmerir oddi arno. 27Eithr fy ngelynion hyny, y rhai nid ewyllysiasant i mi deyrnasu arnynt, deuwch â hwynt yma, a lleddwch ger fy mron.
28Ac wedi dweud y pethau hyn, teithiodd o’r blaen, gan fyned i fynu i Ierwshalem.
29A bu pan nesaodd at Bethphage a Bethania, at y mynydd a elwir Mynydd yr Olewydd, danfonodd ddau o’i ddisgyblion, 30gan ddywedyd, Ewch i’r pentref sydd ar eich cyfer, yn yr hwn, wrth fyned i mewn, y cewch ebol yn rhwym, ar yr hwn ni fu i neb o ddynion erioed eistedd: wedi ei ollwng, deuwch ag ef yma. 31Ac os bydd i neb ofyn i chwi, Paham y gollyngwch ef? fel hyn y dywedwch, Yr Arglwydd sydd a rhaid wrtho. 32Ac wedi myned ymaith, y rhai a ddanfonwyd a gawsant fel y dywedodd Efe wrthynt. 33Ac wrth ollwng o honynt yr ebol, dywedodd ei berchennogion wrthynt, Paham y gollyngwch yr ebol? 34A hwy a ddywedasant, Yr Arglwydd sydd a rhaid wrtho ef; 35a daethant ag ef at yr Iesu; ac wedi bwrw eu cochlau eu hunain ar yr ebol, dodasant yr Iesu arno. 36Ac wrth fyned o Hono rhagddo, tanasant eu cochlau ar y ffordd. 37Ac wrth nesau o Hono yn awr, wrth ddisgynfa mynydd yr Olewydd, dechreuodd holl luaws y disgyblion, dan lawenychu, glodfori Duw â llef uchel am yr holl wyrthiau a welsent, 38gan ddywedyd,
Bendigedig yw’r Brenhin sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd,
Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchafion.
39A rhai o’r Pharisheaid o’r dyrfa a ddywedasant Wrtho, Athraw, dwrdia Dy ddisgyblion. 40A chan atteb, dywedodd, Dywedaf wrthych, Os y rhai hyn a dawant, y cerrig a waeddant.
41A phan nesaodd, gan weled y ddinas, gwylodd drosti, 42gan ddywedyd,
Pe gwybuasit yn y dydd hwn, ïe, tydi, y pethau i’th heddwch!
Ond yn awr, cuddiwyd hwynt oddiwrth dy lygaid.
43Canys daw’r dyddiau arnat, ac y bwrw dy elynion glawdd o’th amgylch,
Ac amgylchynant di, a gwarchaeant di o bob parth,
44A drylliant ti a’th blant o’th fewn,
Ac ni adawant faen ar faen ynot,
Gan nad adnabuost amser dy ymweliad.
45Ac wedi myned i mewn i’r deml, dechreuodd fwrw allan y rhai yn gwerthu, 46gan ddywedyd wrthynt, Ysgrifenwyd,
“A bydd Fy nhŷ yn dŷ gweddi;”
a chwychwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron.
47Ac yr oedd Efe yn dysgu beunydd yn y deml. A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisient Ei ladd Ef, 48ac felly hefyd pennaethiaid y bobl: ond ni chaent pa beth a wnaent, canys y bobl oll oedd ynglyn Wrtho, dan wrandaw.

Tällä hetkellä valittuna:

S. Luc 19: CTB

Korostus

Jaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään