S. Luc 15

15
1Ac nesau Atto yr oedd yr holl dreth-gymmerwyr a’r pechaduriaid, i wrando Arno. 2A grwgnachodd y Pharisheaid a’r ysgrifenyddion hefyd, gan ddywedyd, Hwn, pechaduriaid a dderbyn Efe; a bwytta gyda hwynt y mae. 3Ac adroddodd wrthynt y ddammeg hon, gan ddywedyd, 4Pa ddyn o honoch a chanddo gant o ddefaid, ac wedi colli o honynt un, na âd y cant namyn un yn yr anialwch, a myned ar ol yr hon a gollwyd nes caffael o hono hi? 5Ac wedi ei chael, dŷd hi ar ei ysgwyddau dan lawenychu; 6ac wedi dyfod i’w dŷ, gwahodda ynghyd ei gyfeillion a’i gymmydogion, gan ddywedyd wrthynt, Cyd-lawenhewch â mi, canys cefais fy nafad a gollasid. 7Dywedaf wrthych, Felly llawenydd sydd yn y nef am un pechadur yn edifarhau rhagor am gant namyn un o gyfiawnion, y rhai sydd heb raid iddynt wrth edifeirwch.
8Neu, pa wraig a chanddi ddeg drachm, os cyll un drachm, na oleua lusern ac ysgubo’r tŷ a cheisio yn ddyfal hyd oni chaffo ef. 9Ac wedi ei gael ef, gwahodda ynghyd ei chyfeillesau a’i chymmydogesau, gan ddywedyd, Cyd-lawenhewch â mi, canys cefais y drachm a gollaswn. 10Felly, dywedaf wrthych, Y mae llawenydd yngwydd angylion Duw am un pechadur yn edifarhau.
11A dywedodd, Rhyw ddyn oedd a chanddo ddau fab. 12A dywedodd yr ieuengaf o honynt wrth ei dad, Fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o’r da; ac efe a rannodd iddynt ei fywyd. 13Ac ar ol nid nemawr o ddyddiau, wedi casglu’r cwbl ynghyd, y mab ieuengaf a aeth ymaith i wlad bell; ac yno y gwasgarodd ei dda, gan fyw yn afradlawn. 14Ac wedi gwario o hono y cwbl, digwyddodd newyn tost trwy’r wlad honno, 15ac efe a ddechreuodd fod mewn eisiau: ac aeth ac ymlynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno; a danfonodd efe ef i’w faesydd i borthi moch. 16A chwenychai ei lenwi â’r cibau a fwyttai’r moch; ac ni roddodd neb iddo. 17Ac wedi dyfod i’w bwyll dywedodd, Pa sawl gwas cyflog o’r eiddo fy nhad sydd a chanddynt dros ben o fara; ac myfi, o newyn yr wyf yma ar ddarfod am danaf? 18Gan gyfodi yr af at fy nhad, a dywedaf wrtho, 19Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac o’th flaen di; mwyach nid ydwyf deilwng i’m galw dy fab; gwna fi fel un o’th weision cyflog. 20Ac wedi cyfodi o hono yr aeth at ei dad. Ac efe etto ym mhell oddi wrtho, gwelodd ei dad ef, a thosturiodd, a chan redeg, syrthiodd ar ei wddf, a chusanodd ef. 21Ac wrtho y dywedodd y mab, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac o’th flaen di: mwyach nid wyf deilwng i’m galw dy fab. 22A dywedodd y tad wrth ei weision, Ar frys dygwch allan wisg, yr oreu; a gwisgwch am dano; 23a rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed; a deuwch â’r llo pasgedig, a lleddwch ef; a chan fwytta, 24ymhyfrydwn, canys hwn, fy mab, marw ydoedd, ac adfywiodd; yr oedd wedi ei golli, a chafwyd ef. A dechreuasant ymhyfrydu. 25Ac yr oedd ei fab hynaf yn y maes; a phan, wrth ddyfod, y nesaodd at y tŷ, clywai gynghanedd a dawnsiau; 26ac wedi galw atto un o’r gweision, gofynodd pa beth oedd y pethau hyn. 27Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy frawd sydd wedi dyfod, a lladdodd dy dad y llo pasgedig, am mai yn iach y cafodd ef. 28A llidiodd efe, ac nid ewyllysiai fyned i mewn; a’i dad, wedi dyfod allan, a ddeisyfiodd arno. 29Ac efe gan atteb, a ddywedodd wrth ei dad, Wele cynnifer o flynyddoedd yr wyf yn dy wasanaethu, a’th orchymyn ni throseddais erioed; ac i mi ni roddaist erioed fynn, fel ynghyda’m cyfeillion yr ymhyfrydwn; 30ond pan fu i’th fab hwn, yr hwn a lwyr-ddifaodd dy fywyd ynghyda’r putteiniaid, ddyfod, lleddaist iddo y llo pasgedig. 31Ac efe a ddywedodd wrtho, Fy mhlentyn, tydi, pob amser ynghyda mi yr wyt, a phob peth y sydd eiddof, eiddot ti yw. 32Ymhyfrydu a llawenychu yr oedd rhaid, canys dy frawd hwn, marw oedd, a byw y mae; ac wedi ei golli, a chafwyd ef.

Tällä hetkellä valittuna:

S. Luc 15: CTB

Korostus

Jaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään