S. Luc 13
13
1Ac yr oedd yn bresennol, yr un amser hwnw, rai yn mynegi Iddo am y Galileaid, gwaed y rhai a gymmysgodd Pilat ynghyda’u haberthau. 2A chan atteb, dywedodd wrthynt, A dybygwch chwi yr oedd y Galileaid hyn yn bechaduriaid rhagor yr holl Galileaid am mai y pethau hyn a ddioddefasant? 3Nac oeddynt, meddaf i chwi; eithr onid edifarhewch, yr oll o honoch a ddifethir yr un ffunud. 4Neu’r deunaw hyny, ar y rhai y syrthiodd y tŵr yn Shiloam, ac a’u lladdodd, a dybygwch chwi yr oeddynt hwy yn 5bechaduriaid rhagor yr holl ddynion yn cyfanneddu yn Ierwshalem? Nac oeddynt, meddaf i chwi; eithr onid edifarhewch, yr oll o honoch a ddifethir yn yr un modd.
6A dywedodd y ddammeg hon, Ffigysbren oedd gan ryw un, wedi ei blannu yn ei winllan; a daeth gan geisio ffrwyth arno, ac ni chafodd; 7a dywedodd wrth y gwinllanydd, Wele, tair blynedd sydd er’s dyfod o honof gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn, ac nid wyf yn cael dim: tor ef i lawr, paham y gwneir y tir hefyd yn ddirym ganddo? 8Ac efe, gan atteb, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gâd ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni chloddiwyf o’i amgylch, 9a bwrw tail: ac os dwg efe ffrwyth o hyn allan—; onite, tor ef i lawr.
10Ac yr oedd Efe yn dysgu yn un o’r sunagogau ar y Sabbath. 11Ac wele, gwraig a chanddi yspryd yn gwanhau ddeunaw mlynedd, ac oedd wedi cyd-grymmu, ac heb allu ymsythu mewn modd yn y byd. 12A phan welodd Efe hi, yr Iesu a’i galwodd Atto, a dywedodd wrthi, Ha wraig, 13gollyngwyd di yn rhydd oddiwrth dy wendid; a rhoddes arni Ei ddwylaw; ac yn y fan yr uniawnwyd hi, a gogoneddodd Dduw. 14A chan atteb, yr archsunagogydd, yn sorri am mai ar y Sabbath yr iachaodd yr Iesu, a ddywedodd wrth y dyrfa, Chwe diwrnod sydd yn y rhai y mae rhaid gweithio; ynddynt hwy, gan hyny, deuwch ac iachaer chwi, ac nid ar ddydd y Sabbath. 15Ac iddo yr attebodd yr Arglwydd, a dywedodd, Rhagrithwyr, onid yw pob un o honoch ar y Sabbath yn gollwng ei ŷch neu ei asyn o’r preseb, a chan ei arwain ymaith, yn ei ddiodi ef? 16A hon, merch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele, ddeunaw mlynedd, onid oedd rhaid ei gollwng o’r rhwym hwn ar ddydd y Sabbath? 17Ac Efe yn dywedyd y pethau hyn, cywilyddiwyd ei holl wrthwynebwyr, a’r holl dyrfa a lawenychodd am yr holl bethau gogoneddus a wnaid Ganddo.
18Dywedodd, gan hyny, I ba beth y mae teyrnas Dduw yn gyffelyb? 19Ac i ba beth y cyffelybaf hi? Cyffelyb yw i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn ac a’i hauodd yn ei ardd; a chynnyddodd efe ac aeth yn bren, ac ehediaid y nef a lettyasant yn ei ganghennau ef. 20A thrachefn y dywedodd, I ba beth y cyffelybaf deyrnas Dduw? 21Cyffelyb yw i surdoes a gymmerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri seah o flawd, hyd oni surodd y cwbl.
22A thramwyodd trwy ddinasoedd a phentrefi, gan ddysgu ac ymdeithio i Ierwshalem. 23A dywedodd rhyw un Wrtho, Arglwydd, ai ychydig yw y rhai sy’n cael eu cadw? 24Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Ymdrechwch i fyned i mewn trwy’r porth cyfyng; canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn ac ni fyddant yn abl.
25Pan ddarffo i ŵr y tŷ gyfodi, a chau’r drws,
A dechreu o honoch sefyll oddi allan a churo’r drws,
Gan ddywedyd, Arglwydd, agor i ni,
A chan atteb y dywaid wrthych, Nid adwain chwi, o ba le yr ydych.
26Yna y dechreuwch ddweud, Bwyttasom yn Dy wydd Di, ac yfasom,
Ac yn ein llydanfeydd y dysgaist.
27A dywaid Efe, Dywedaf wrthych, Nis gwn o ba le yr ydych,
Ewch ymaith Oddiwrthyf, yr holl weithwyr anghyfiawnder.
28Yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd,
Pan weloch Abraham ac Itsaac ac Iacob,
A’r holl brophwydi, yn nheyrnas Dduw,
A chwychwi yn cael eich bwrw allan.
29A deuant o’r dwyrain a’r gorllewin,
Ac o’r gogledd a’r dehau,
A lled-orweddant yn nheyrnas Dduw.
30Ac wele, olaf yw’r rhai a fyddant flaenaf,
A blaenaf yw’r rhai a fyddant olaf.
31Yr awr honno daeth Atto rai o’r Pharisheaid, gan ddywedyd Wrtho, Dos allan a cherdda oddiyma, canys Herod a ewyllysia Dy ladd Di. 32A dywedodd wrthynt, Ewch a dywedwch wrth y cadnaw hwnw, Wele, bwrw allan gythreuliaid yr wyf, ac iachadau a wnaf, heddyw ac y foru, a’r trydydd dydd y’m perffeithir. 33Eithr rhaid sydd i Mi heddyw, ac y foru, a thrennydd, fod ar Fy nhaith, canys ni all fod i brophwyd ei gyfrgolli tu allan i Ierwshalem,
34Ierwshalem, Ierwshalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi,
Ac yn llabyddio y rhai a ddanfonwyd attat,
Pa sawl gwaith y mynnwn gasglu ynghyd dy blant,
Yn y modd y cydgasgl giar ei chywion dan ei hadennydd, ac ni fynnech!
35Wele, gadewir i chwi eich tŷ; a dywedaf wrthych,
Myfi ni welwch ddim nes dweud o honoch,
Bendigedig yw’r Hwn sy’n dyfod yn Enw’r Arglwydd.
Tällä hetkellä valittuna:
S. Luc 13: CTB
Korostus
Jaa
Kopioi
Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.