S. Ioan 8
8
1A’r Iesu a aeth i fynydd yr Olewydd. 2Ac ynghyda’r wawr, daeth drachefn i’r deml, a’r holl bobl a ddaeth Atto; ac wedi eistedd o Hono, dysgodd hwynt. 3A daeth yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid â gwraig a ddaliesid mewn godineb: 4ac wedi ei gosod hi yn y canol, dywedasant wrtho, Athraw, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu. 5Ac yn y Gyfraith Mosheh a orchymynodd i ni labyddio y cyfryw wragedd. Tydi, gan hyny, pa beth a ddywedi yn ei chylch? 6A hyn a ddywedasant gan Ei demtio, fel y byddai ganddynt yr hyn i’w gyhuddo Ef o hono. A’r Iesu, wedi ymgrymmu tua’r llawr, a ’sgrifenodd â’i fys ar y ddaear. 7Ac wrth barhau o honynt yn gofyn Iddo, ymsythodd a dywedodd wrthynt, Y dibechod o honoch, bydded y cyntaf i daflu carreg atti. 8A thrachefn wedi ymgrymmu tua’r llawr, â’i fys yr ysgrifenodd ar y ddaear. 9A hwy wedi clywed hyn, a aethant allan o un i un, gan ddechreu o’r hynaf hyd yr olaf; a gadawyd yr Iesu yn unig, a’r wraig yn y canol. 10Ac wedi ymsythu, yr Iesu a ddywedodd wrthi, Ha wraig, pa le y maent? Oni fu i neb dy gondemnio di? 11A hi a ddywedodd, Naddo neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu, Nid wyf Finnau chwaith yn dy gondemnio di. Dos. O hyn allan na phecha mwyach.]
12Trachefn, gan hyny, yr Iesu a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Myfi yw goleuni’r byd: yr hwn sydd yn Fy nghanlyn, ni rodia ddim yn y tywyllwch, eithr bydd a chanddo oleuni’r bywyd. 13Gan hyny, Wrtho y dywedodd y Pharisheaid, Tydi, am Danat Dy hun y tystiolaethi; Dy dystiolaeth nid yw wir. 14Attebodd yr Iesu a dywedodd wrthynt, Er mai Myfi a dystiolaethaf am Danaf Fy hun, gwir yw Fy nhystiolaeth, canys gwn o ba le y daethum, ac i ba le y ciliaf: ond chwychwi ni wyddoch o ba le y daethum, nac i ba le y ciliaf. 15Chwychwi, yn ol y cnawd y bernwch; Myfi nid wyf yn barnu neb. 16Ac os barnu a wnaf Fi, Fy marn sydd wir; canys nid yn unig yr wyf, eithr Myfi, ac yr Hwn a’m danfonodd, sef y Tad. 17Ac yn eich Cyfraith chwi yr ysgrifenwyd, “Tystiolaeth dau ddyn, gwir yw.” 18Myfi yw’r Hwn sy’n tystiolaethu am Danaf Fy hun, a thystiolaethu am Danaf y mae’r Hwn a’m danfonodd, sef y Tad. 19Dywedasant, gan hyny, Wrtho, Pa le y mae Dy Dad? Attebodd yr Iesu, Nid adwaenoch na Myfi, na’m Tad: ped adnabuasech Fi, Fy Nhad hefyd a adnabuasech. 20Yr ymadroddion hyn a lefarodd Efe yn y drysorfa, pan yn dysgu yn y deml; ac ni ddaliodd neb Ef, am na ddaethai Ei awr etto.
21Gan hyny y dywedodd drachefn wrthynt, Myfi wyf yn cilio, a cheisiwch Fi, ac yn eich pechod y byddwch feirw: lle yr wyf Fi yn cilio, chwychwi ni ellwch ddyfod. 22Gan hyny y dywedodd yr Iwddewon, A ladd Efe Ei hun, gan Ei fod yn dweud, “Lle yr wyf Fi yn cilio, chwychwi ni ellwch ddyfod?” 23A dywedodd wrthynt, Chwychwi, oddi isod yr ydych; Myfi, oddi uchod yr wyf: Chwychwi, o’r byd hwn yr ydych; Myfi, nid wyf o’r byd hwn. 24Gan hyny y dywedais wrthych, “Byddwch feirw yn eich pechodau;” canys oni chredwch mai Myfi yw Efe, byddwch feirw yn eich pechodau. 25Gan hyny y dywedasant Wrtho, Tydi, pwy wyt? Wrthynt y dywedodd yr Iesu, Yr hyn a ddywedais wrthych hyd yn oed o’r dechreuad. 26Llawer o bethau sydd Genyf i’w llefaru ac i’w barnu am danoch; eithr yr Hwn a’m danfonodd, gwir yw; ac Myfi, y pethau a glywais Ganddo, y rhai hyn yr wyf yn eu llefaru i’r byd. 27Ni wyddent mai am y Tad y dywedai wrthynt. 28Gan hyny y dywedodd yr Iesu, Pan ddyrchafoch Fab y Dyn, yna y gwybyddwch mai Myfi yw Efe, ac o Honof Fy hun nad wyf yn gwneuthur dim; eithr fel y dysgodd Fy Nhad I, y pethau hyn yr wyf yn eu llefaru. 29Ac yr Hwn a’m danfonodd, ynghyda Mi y mae; ni adawodd Fi yn unig, canys y pethau sydd foddlawn Ganddo, yr wyf Fi yn eu gwneuthur bob amser. 30Ac Efe yn llefaru y pethau hyn, llawer a gredasant Ynddo.
31Gan hyny y dywedodd yr Iesu wrth yr Iwddewon a gredasant Ynddo, Os chwi a arhoswch yn Fy ngair I, Fy nisgyblion mewn gwirionedd ydych; 32a chewch wybod y gwirionedd, a’r gwirionedd a’ch rhyddha. 33Attebasant Iddo, Had Abraham ydym, ac i neb ni fuom gaeth erioed. Pa fodd yr wyt Ti yn dweud, Rhyddion fyddwch? 34Atteb iddynt a wnaeth yr Iesu, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Pob un y sy’n gwneuthur pechod, caethwas yw i bechod. 35Y caethwas ni erys yn y tŷ am byth; y Mab a erys am byth. 36Gan hyny, os y Mab a’ch rhyddha chwi, gwir-ryddion fyddwch. 37Gwn mai “had Abraham” ydych; eithr ceisio Fy lladd I yr ydych, gan nad yw Fy ngair a lle iddo ynoch. 38Y pethau a welais I gyda’r Tad, yr wyf yn eu llefaru; a chwithau hefyd, y pethau a glywsoch gan eich tad, yr ydych yn eu gwneud. 39Attebasant a dywedasant Wrtho, Ein tad, Abraham yw. Wrthynt y dywedodd yr Iesu, 40Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech. Ond yn awr ceisio Fy lladd I yr ydych, dyn a ddywedodd i chwi y gwirionedd yr hwn a glywais gan Dduw. 41Hyn ni wnaeth Abraham. Chwi ydych yn gwneuthur gweithredoedd eich tad. 42Dywedasant Wrtho, Nyni, nid trwy butteindra y’n cenhedlwyd. Un Tad sydd genym, sef Duw. Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Pe Duw fyddai eich Tad, carech Fi, canys Myfi, oddiwrth Dduw y daethum allan, ac yr wyf wedi dyfod, 43canys nid o Honof Fy hun y deuais, eithr Efe a’m danfonodd I. Paham na ddeallwch Fy ymadrodd? Am na ellwch wrando Fy ngair I. 44Chwychwi, o’ch tad, y diafol, yr ydych; a thrachwantau eich tad a ewyllysiwch eu gwneuthur. Efe, lleiddiad dyn yr oedd o’r dechreuad, ac yn y gwirionedd ni safodd, gan nad oes gwirionedd ynddo. Pan lefaro gelwydd, o’r eiddo ei hun y llefara, canys celwyddwr yw, ac yn dad iddo. 45Ond Myfi, gan mai y gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydych yn Fy nghredu. 46Pwy o honoch a’m hargyhoedda am bechod? Os y gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd, paham nad ydych chwi yn Fy nghredu? 47Yr hwn sydd o Dduw, ymadroddion Duw a wrendy efe; o achos hyn nid ydych chwi yn eu gwrando, am nad o Dduw yr ydych. 48Attebodd yr Iwddewon a dywedasant Wrtho, Onid da y dywedwn mai Shamariad wyt Ti, a chythraul sydd Genyt. 49Attebodd yr Iesu, Myfi nid wyf a chythraul Genyf, eithr anrhydeddu Fy Nhad yr wyf, a chwychwi ydych yn Fy nianrhydeddu I. 50Ond Myfi nid wyf yn ceisio Fy ngogoniant; y mae a’i cais, ac a farn. 51Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Os Fy ngair I a geidw dyn, marwolaeth ni wel efe yn dragywydd. 52Dywedyd Wrtho a wnaeth yr Iwddewon, Yn awr y gwyddom fod cythraul Genyt. Abraham a fu farw, ac y prophwydi; a Thydi a ddywedi, “Os Fy ngair a geidw dyn, nid archwaetha farwolaeth yn dragywydd.” 53A wyt Ti yn fwy na’n tad Abraham, yr hwn a fu farw? A’r prophwydi a fuant feirw? Pwy yr wyt yn Dy wneuthur Dy hun? 54Attebodd yr Iesu, Os wyf Fi yn gogoneddu Fy hun, Fy ngogoniant nid yw ddim; Fy Nhad yw’r Hwn sydd yn Fy ngogoneddu, am yr Hwn chwi a ddywedwch mai eich Duw yw, ac nid adwaenoch Ef. 55Ond Myfi a’i hadwaen Ef, ac os dywedaf nad adwaen Ef, byddaf debyg i chwi, yn gelwyddwr: eithr Ei adnabod yr wyf, a’i air Ef yr wyf yn ei gadw. 56Abraham eich tad a orfoleddodd am weled Fy nydd I: a gwelodd ef, a llawenychodd. 57Gan hyny y dywedodd yr Iwddewon Wrtho, Deng mlwydd a deugain nid oes etto Genyt, ac Abraham a welaist! 58Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Cyn i Abraham ei eni, Myfi wyf. 59Gan hyny y codasant gerrig fel y’u taflent Atto. A’r Iesu a ymguddiodd, a ac aeth allan o’r deml.
Tällä hetkellä valittuna:
S. Ioan 8: CTB
Korostus
Jaa
Kopioi
Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.