S. Ioan 6

6
1Wedi’r pethau hyn, aeth yr Iesu ymaith dros fôr Galilea, yr hwn yw môr Tiberias; 2a chanlynai Ef dyrfa fawr, canys gwelent yr arwyddion a wnelai ar y cleifion. 3Ac aeth yr Iesu i fynu i’r mynydd, ac yno yr eisteddodd ynghyda’i ddisgyblion. 4Ac agos oedd y Pasg, gwyl yr Iwddewon. 5Yna’r Iesu, wedi dyrchafu Ei lygaid, a gweled fod tyrfa fawr yn dyfod Atto, a dywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn fara fel y bwyttao y rhai hyn? 6A hyn a ddywedodd Efe, gan ei brofi ef, canys Efe a wyddai pa beth yr oedd Efe ar fedr ei wneuthur. 7Iddo yr attebodd Philip, Gwerth dau can denar o fara nid yw ddigon iddynt fel y bo i bob un gael rhyw ychydig. 8Wrtho y dywedodd un o’i ddisgyblion, 9Andreas, brawd Shimon Petr, Y mae bachgennyn yma, a chanddo bum torth haidd a dau bysgodyn; eithr y rhai hyn, pa beth ydynt rhwng cynnifer? 10Dywedodd yr Iesu, gwnewch i’r dynion led-orwedd. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan. Gan hyny, lled-orweddodd y gwŷr, ynghylch pum mil o honynt. 11Yna y cymmerth yr Iesu y torthau; ac wedi diolch, rhannodd i’r rhai yn eu lled-orwedd; ac yr un ffunud o’r pysgod, gymmaint ag a fynnent. 12A phan y’u llanwyd, dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Cesglwch y briwfwyd y sydd dros ben fel na bo i ddim ei golli. 13Casglasant, gan hyny, a llanwasant ddeuddeg basged o friw-fwyd o’r pum torth haidd, y rhai oeddynt dros ben i’r rhai a fwyttasent. 14Gan hyny y dynion, wedi gweled yr arwydd a wnaethai Efe, a dywedasant, Hwn yw, yn wir, y Prophwyd oedd i ddyfod i’r byd. 15Yr Iesu, gan hyny, yn gwybod eu bod ar fedr dyfod a’i gipio Ef, fel y gwnaent Ef yn frenhin, a giliodd drachefn i’r mynydd, Ei hunan yn unig.
16Ac a’r hwyr wedi dyfod, aeth Ei ddisgyblion i wared at y môr; 17ac wedi myned i gwch, aethant dros y môr i Caphernahwm, a thywyllwch weithian a ddaethai, ac hyd yn hyn ni ddaethai yr Iesu attynt. 18A’r môr, gwynt mawr yn chwythu, oedd yn codi. 19Yna wedi rhwyfo o honynt ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o stadia, gwelsant yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn nesau at y cwch; ac ofnasant. 20Ond Efe a ddywedodd wrthynt, Myfi yw: nac ofnwch. 21Yna yn ewyllysgar y derbyniasant Ef i’r cwch, ac yn uniawn y cwch a ddaeth at y tir i’r hwn yr aent.
22Trannoeth, y dyrfa, yr hon a safai y tu hwnt i’r môr, a welodd nad oedd cwch arall yno oddieithr un, ac nad aethai yr Iesu ynghyda’i ddisgyblion i’r cwch, eithr ar eu pennau eu hunain yr aethai y disgyblion ymaith, 23(eithr yn awr daeth cychod o Tiberias yn gyfagos i’r fan lle y bwyttasant y bara, ar ol rhoddi diolch gan yr Arglwydd); 24gan hyny, pan welodd y dyrfa nad oedd yr Iesu yno, na’i ddisgyblion, yr aethant hwy hefyd i’r cychod, a daethant i Caphernahwm gan geisio’r Iesu; 25ac wedi Ei gael Ef y tu hwnt i’r môr, dywedasant Wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost yma? 26Iddynt yr attebodd yr Iesu, a dywedodd, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Fy ngheisio yr ydych, nid oherwydd gweled o honoch arwyddion, eithr oherwydd bwytta o honoch o’r torthau a’ch llenwi. 27Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd, eithr am y bwyd y sy’n aros i fywyd tragywyddol, yr hwn Mab y Dyn a’i dyry i chwychwi; canys Hwn y bu i’r Tad Ei selio, sef Duw. 28Dywedasant, gan hyny, Wrtho, Pa beth a wnawn, fel y gweithredom weithredoedd Duw? 29Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, Hwn yw gwaith Duw, credu o honoch yn yr Hwn a ddanfonodd Efe. 30Dywedasant, gan hyny, Wrtho, Pa beth, gan hyny, yr wyt yn ei wneuthur, yn arwydd, fel y gwelom ac y credom i Ti? Pa beth yr wyt yn ei weithredu? 31Ein tadau, Manna a fwyttasant yn yr anialwch, fel y mae yn ysgrifenedig, “Bara o’r nef a roddodd Efe iddynt i’w fwytta.” 32Wrthynt, gan hyny, y dywedodd yr Iesu, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Nid Mosheh a roddodd i chwi y bara o’r nef, eithr Fy Nhad sy’n rhoddi i chwi y bara o’r nef, y gwir fara; 33canys bara Duw yw’r Hwn sydd yn dyfod i wared o’r nef ac yn rhoddi bywyd i’r byd. 34Dywedasant, gan hyny, Wrtho, Arglwydd, dyro yn wastadol i ni y bara hwn. 35Wrthynt y dywedodd yr Iesu, Myfi yw bara’r bywyd. Yr hwn sy’n dyfod Attaf ni newyna ddim; ac yr hwn sy’n credu Ynof, ni sycheda ddim, byth. 36Eithr dywedais wrthych, Y gwelsoch Fi, ac nid ydych yn credu. 37Yr holl a roddo’r Tad i Mi, Attaf y daw; a’r hwn sy’n dyfod Attaf nis bwriaf allan ddim, 38canys daethum i wared o’r nef, nid fel y gwnawn Fy ewyllys Fy hun, eithr ewyllys yr Hwn a’m danfonodd. 39A hyn yw ewyllys yr Hwn a’m danfonodd, o’r cwbl a roddes Efe i Mi, na chollwn ddim o hono, eithr ei adgyfodi ef yn y dydd diweddaf; 40canys hyn yw ewyllys Fy Nhad, y bo i bob un y sy’n gweled y Mab, ac yn credu Ynddo, gael bywyd tragywyddol; ac Myfi a’i hadgyfodaf yn y dydd diweddaf.
41Gan hyny y grwgnachodd yr Iwddewon am Dano Ef, oherwydd dywedyd o Hono, “Myfi yw’r bara a ddaeth i wared o’r nef,” a dywedasant, 42Onid Hwn yw Iesu Mab Ioseph, yr Hwn, nyni a adwaenom Ei dad a’i fam? Pa fodd y dywaid Efe yn awr, “O’r nef y daethum i wared?” 43Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, Na rwgnachwch â’ch gilydd. 44Ni all neb ddyfod Attaf oddiethr i’r Tad, yr Hwn a’m danfonodd, ei dynnu ef; ac Myfi a’i hadgyfodaf yn y dydd diweddaf. 45Y mae yn ysgrifenedig yn y Prophwydi “A byddant oll wedi eu dysgu gan Dduw:” pob un o’r a glywodd gan y Tad, 46ac a ddysgodd, sy’n dyfod Attaf; nid am fod y Tad wedi Ei weled gan neb, namyn gan yr Hwn sydd o Dduw, Efe a welodd y Tad. 47Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Yr hwn sydd yn credu sydd a chanddo fywyd tragywyddol; Myfi yw bara’r bywyd. 48Eich tadau a fwyttasant y manna yn yr anialwch, 49ac a fuant feirw. 50Hwn yw’r bara sydd yn dyfod i wared o’r nef, fel y bo i ddyn fwytta o hono ac na byddo marw. 51Myfi yw’r bara byw, yr hwn a ddaeth i wared o’r nef. Os bwytty neb o’r bara hwn, bydd efe fyw yn dragywydd: ac y bara, yr hwn a roddaf Fi, Fy nghnawd yw, tros fywyd y byd.
52Gan hyny, yr ymrafaelodd yr Iwddewon â’u gilydd, gan ddywedyd, Pa fodd y gall Hwn roddi i ni Ei gnawd i’w fwytta? 53Gan hyny, y dywedodd yr Iesu wrthynt, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Oni fwyttewch gnawd Mab y Dyn ac yfed Ei waed Ef, nid oes genych fywyd ynoch. 54Yr hwn sydd yn bwytta Fy nghnawd I, ac yn yfed Fy ngwaed I, sydd a chanddo fywyd tragywyddol, ac Myfi a’i hadgyfodaf ef yn y dydd diweddaf: 55canys Fy nghnawd gwir fwyd yw, ac Fy ngwaed gwir ddiod yw. 56Yr hwn sy’n bwytta Fy nghnawd I ac yn yfed Fy ngwaed I, Ynof yr erys, a Minnau ynddo ef. 57Fel y danfonodd y Tad byw Fi, Minnau hefyd wyf yn byw trwy’r Tad; ac yr hwn sydd yn Fy mwytta, efe hefyd fydd byw Trwof Fi. 58Hwn yw’r bara a ddaeth i wared o’r nef: nid fel y bwyttaodd eich tadau ac y buont feirw: yr hwn sy’n bwytta’r bara hwn fydd byw yn dragywydd. 59Y pethau hyn a ddywedodd Efe yn y sunagog, pan yn dysgu yn Caphernahwm.
60Llawer, gan hyny, o’i ddisgyblion, wedi clywed hyn, a ddywedasant, Caled yw’r ymadrodd hwn: pwy a all wrando Arno? 61A’r Iesu yn gwybod Ynddo Ei hun mai grwgnach am hyn yr oedd Ei ddisgyblion, a ddywedodd wrthynt, Ai hyn sydd i chwi yn dramgwydd? 62Pa beth, gan hyny, os gwelwch Fab y Dyn yn myned i fynu i’r lle yr oedd Efe o’r blaen? 63Yr yspryd yw’r hyn sy’n bywhau; y cnawd ni lesa ddim: y geiriau a leferais I wrthych, yspryd ydynt, a bywyd ydynt. 64Ond y mae o honoch chwi rai nad ynt yn credu; canys gwybod o’r dechreuad yr oedd yr Iesu pwy oedd y rhai nad oeddynt yn credu, a phwy oedd yr hwn ar fedr ei draddodi Ef. 65A dywedodd, O achos hyn y dywedais wrthych, Ni all neb ddyfod Attaf, oni bydd wedi ei roddi iddo gan Fy Nhad.
66Ar ol hyn yr aeth llawer o’i ddisgyblion ymaith yn eu hol, ac ynghydag Ef ni rodiasant mwyach. 67Gan hyny y dywedodd yr Iesu wrth y deuddeg, A ydych chwithau hefyd yn ewyllysio cilio? 68Iddo yr attebodd Shimon Petr, Arglwydd, at bwy yr awn ymaith? Ymadroddion bywyd tragywyddol sydd Genyt; 69ac nyni a gredasom, ac a wyddom, mai Tydi yw Sanct Duw. 70Iddynt yr attebodd yr Iesu, Onid Myfi a’ch dewisais chwi, y deuddeg; ac o honoch chwi un sydd ddiafol? 71A dywedai am Iwdas, mab Shimon Ishcariot, canys hwn oedd ar fedr Ei draddodi Ef, un o’r deuddeg.

Tällä hetkellä valittuna:

S. Ioan 6: CTB

Korostus

Jaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään