Ac wedi eu rhybuddio oddi uchod mewn breuddwyd i beidio â dychwelyd at Herod, diangasant i’w gwlad ar hyd ffordd arall.
Ac wedi iddynt ddianc, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Ioseff gan ddywedyd, ’“Cyfod, cymer y plentyn a’i fam, a ffo i’r Aifft, ac aros yno nes i mi ddywedyd wrthyt; canys y mae Herod ar fedr ceisio’r plentyn i’w ddistrywio.”