1
Mathew 10:16
Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos)
Dyma fi’n eich anfon chwi fel defaid i blith bleiddiaid; byddwch gall, ynteu, fel y seirff, a diniwed fel y colomennod.
مقایسه
Mathew 10:16 را جستجو کنید
2
Mathew 10:39
A gaffo’i fywyd a’i cyll, ac a gollo’i fywyd er fy mwyn i a’i caiff.
Mathew 10:39 را جستجو کنید
3
Mathew 10:28
Ac nac ofnwch rhag y rhai a ladd y corff, ond ni allant ladd yr enaid; ofnwch yn hytrach yr hwn a all ddinistrio enaid a chorff yng Ngehenna.
Mathew 10:28 را جستجو کنید
4
Mathew 10:38
a’r hwn ni chymero ei groes, a dilyn ar fy ôl i, nid yw deilwng ohonof i.
Mathew 10:38 را جستجو کنید
5
Mathew 10:32-33
Pob un, ynteu, â’m harddelo i yng ngŵydd dynion, arddelaf innau ef yng ngŵydd fy Nhad sydd yn y nefoedd. Ond y neb â’m gwado i yng ngŵydd dynion, gwadaf innau ef yng ngŵydd fy Nhad sydd yn y nefoedd.
Mathew 10:32-33 را جستجو کنید
6
Mathew 10:8
Iachewch gleifion, cyfodwch feirw, glanhewch wahangleifion, bwriwch allan gythreuliaid; derbyniasoch yn rhad, rhowch yn rhad.
Mathew 10:8 را جستجو کنید
7
Mathew 10:31
Gan hynny peidiwch ag ofni; amgenach na llawer o adar to ydych chwi.
Mathew 10:31 را جستجو کنید
8
Mathew 10:34
Na thybiwch fy nyfod i ddwyn tangnefedd ar y ddaear; ni ddeuthum i ddwyn tangnefedd, ond cleddyf.
Mathew 10:34 را جستجو کنید
خانه
كتابمقدس
برنامههای مطالعه
ویدیوها