Genesis 4
4
PEN. IIII.
1 Ganedigaeth Cain ac Abel. 3 Ai hoffrwm. 8 Lladdiad Abel. 11 Cospedigaeth Cain. 13 Ai annobaith. 17 Hiliogaeth Cain. 23 Cyssur Lamech. 25 Ganedigaeth Seth, ac adnewyddiad gwir grefydd.
1Wedi hyn, Adda a adnabu Efa ei wraig, a hi a feichiogodd, ac a escorodd ar Gain; ac a ddywedodd: cefais ŵr gan yr Arglwydd.
2A hi a escorodd eil-waith ar ei frawd ef Abel, ac Abel oedd fugail defaid, ond Cain oedd yn llafurio y ddaiar.
3A bu wedi talm o ddyddiau, i Gain ddwyn o ffrwyth y ddaiar offrwm i’r Arglwydd.
4Ac Abel yntef a ddûg o flaen-ffrwyth ei ddefaid ef, ac oi braster hwynt: a’r Arglwydd a edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm.
5Ond nid edrychodd efe ar Gain, nac ar ei offrwm ef, am hynny y dicllonodd Cain yn ddirfawr, fel y syrthiodd ei wyneb-pryd ef.
6A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain, pa ham y llidiaist? a pha ham y syrthiodd dy wyneb-pryd?
7Os yn ddâ y gwnei, oni chei oruchafieth? ac oni wnei yn ddâ, pechod a orwedd wrth y drws: attat ti hefyd [y mae] ei ddymuniad ef, a thi a feistroli arno ef.
8Yna Cain a ddywedodd wrth Abel ei frawd, ac fel yr oeddynt hwy yn y maes, #Doeth.10.3. Mat.23.35.|MAT 23:35. 1.Ioan.3.12.Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd, ac ai lladdodd ef.
9Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrth Gain, mae Abel dy frawd ti? yntef a ddywedodd ni’s gwnn; ai ceidwad fy mrawd [ydwyf] fi?
10Yna y dywedodd [Duw,] beth a wnaethost, llef gwaed dy frawd sydd yn gweiddi arnaf fi o’r ddaiar.
11Ac yr awrhon melltigedic wyt ti o’r ddaiar, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd oth law.
12Pan lafuriech y ddaiar ni chwanega hi roddi ei ffrwyth it, gwibiad, a chyrwydrad fyddi ar y ddaiar.
13Yna y dywedodd Cain wrth yr Arglwydd mwy [yw] fy anwiredd nac y maddeuir ef.
14Wele gyrraist fi heddyw oddi ar wyneb y ddaiar, ac oth ŵydd di i’m cuddir: gwibiad hefyd a chyrwydrad fyddaf ar y ddaiar [a] phwy bynnac a’m caffo a’m lladd.
15Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho, am hynny y dielir yn saith ddyblyg [ar] bwy bynnac a laddo Gain a’r Arglwydd a ossododd nôd ar Gain, rhac i neb ai caffe ei ladd.
16Yna Cain aeth allan o ŵydd yr Arglwydd, ac a drigodd yn nhîr Nod, o’r tu dwyrain i Eden.
17Cain hefyd a adnabu ei wraig, a hi a feichiogodd, ac a escorodd ar Henoch, yna’r ydoedd efe yn adeiladu dinas, ac efe a alwodd henw y ddinas yn ol henw ei fâb, Henoch.
18Ac i Henoch y ganwyd Irad, ac Irad a genhedlodd Mehuiael, ac Mehuiael a genhedlodd Methusael, a Methusael a genhedlodd Lamech.
19A Lamech a gymmerodd iddo ddwy wragedd: henw y gyntaf [oedd] Ada, ac henw’r ail Sila.
20Ac Ada a escorodd ar Iabel, hwn ydoedd dâd [pob] presswylydd pabell, a [pherchen] anifail.
21A henw ei frawd ef oedd Iubal, ac efe oedd dâd pob teimlydd telyn ac organ.
22Sila hithe a escorodd ar Thubalcain, gweithydd pob celfydd-waith prês a haiarn: a chwaer Thubalcain [ydoedd] Noema.
23A Lamech a ddywedodd wrth ei wragedd, Ada a Sila, gwragedd Lamech clywch fy llais, gwrandewch fy lleferydd, canys mi a leddais ŵr i’m harcholl, a llangc i’m clais.
24Os Cain a ddielir seith-waith yna Lamech saith ddeng-waith, a seith-waith.
25Ac Adda a adnabu ei wraig trachefn, a hi a escorodd ar fab, ac hi a alwodd ei enw ef Seth: o herwydd Duw [eb hi] a ossododd i mi hâd arall, yn lle Abel, am ladd o Gain ef.
26I’r Seth hwn hefyd y ganwyd mâb, ac efe a alwodd ei enw ef Enos: yna y dechreuwyd galw ar enw’r Arglwydd.
Currently Selected:
Genesis 4: BWMG1588
Tõsta esile
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.