YouVersion Logo
Search Icon

Luc 23

23
A.D. 33. —
1 Cyhuddo yr Iesu gerbron Peilat, a’i anfon at Herod; 8 a Herod yn ei watwar ef. 12 Herod a Pheilat yn cymodi â’u gilydd. 13 Y bobl yn deisyf cael Barabbas; a Pheilat yn ei ollwng ef iddynt, ac yn rhoddi yr Iesu i’w groeshoelio. 27 Yntau yn mynegi i’r gwragedd, a alarent o’i blegid ef, ddinistr Jerwsalem: 34 yn gweddïo dros ei elynion. 39 Crogi dau ddrwgweithredwr gydag ef. 46 Ei farwolaeth. 50 a’i gladdedigaeth ef.
1A’r #Mat 27:2; Marc 15:1; Ioan 18:28holl liaws ohonynt a gyfodasant, ac a’i dygasant ef at Peilat: 2Ac a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn #Act 17:7yn gŵyrdroi’r bobl, ac #Edrych Mat 17:27; 22:21yn gwahardd rhoi teyrnged i Gesar, gan ddywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenin. 3A #Mat 27:11Pheilat a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Ac efe a atebodd iddo, ac a ddywedodd, Yr wyt ti yn dywedyd. 4A dywedodd Peilat wrth yr archoffeiriaid a’r bobl, Nid wyf fi yn cael dim #23:4 achos yn.bai ar y dyn hwn. 5A hwy a fuant daerach, gan ddywedyd, Y mae efe yn cyffroi’r bobl, gan ddysgu trwy holl Jwdea, wedi dechrau o Galilea hyd yma. 6A phan glybu Peilat sôn am Galilea, efe a ofynnodd ai Galilead oedd y dyn. 7A phan wybu efe ei fod ef o lywodraeth #Pen 3:1Herod, efe a’i hanfonodd ef at Herod, yr hwn oedd yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny.
8A Herod, pan welodd yr Iesu, a lawenychodd yn fawr: canys #Pen 9:9yr oedd efe yn chwennych er ys talm ei weled ef, oblegid #Mat 14:1; Marc 6:14iddo glywed llawer amdano ef; ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef. 9Ac efe a’i holodd ef mewn llawer o eiriau; eithr efe nid atebodd ddim iddo. 10A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a safasant, gan ei gyhuddo ef yn haerllug. 11A Herod a’i filwyr, wedi iddo ei ddiystyru ef, a’i watwar, a’i wisgo â gwisg glaerwen, a’i danfonodd ef drachefn at Peilat.
12A’r dwthwn hwnnw yr #23:12 aeth cymod rhwng Peilat a Herod.aeth #Act 4:27Peilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o’r blaen mewn gelyniaeth â’i gilydd.
13 # Mat 27:23; Marc 15:14; Ioan 18:38; 19:4 A Pheilat, wedi galw ynghyd yr archoffeiriaid, a’r llywiawdwyr, a’r bobl, 14A ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dyn hwn ataf fi, fel un a fyddai’n gŵyrdroi’r bobl: ac wele, myfi a’i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim #23:14 achos.bai, o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef amdanynt: 15Na Herod chwaith: canys anfonais chwi ato ef; ac wele, dim yn haeddu marwolaeth nis gwnaed iddo. 16#Mat 27:26; Ioan 19:1Am hynny mi a’i ceryddaf ef, ac a’i gollyngaf ymaith. 17#Mat 27:15; Marc 15:6; Ioan 18:39Canys yr ydoedd yn rhaid iddo ollwng un yn rhydd iddynt ar yr ŵyl. 18#Act 3:14A’r holl liaws a lefasant ar unwaith, gan ddywedyd, Bwrw hwn ymaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd: 19(Yr hwn, am ryw derfysg a wnaethid yn y ddinas, a llofruddiaeth, oedd wedi ei daflu i garchar.) 20Am hynny Peilat a ddywedodd wrthynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhydd. 21Eithr hwy a lefasant arno, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef. 22Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo; am hynny mi a’i ceryddaf ef, ac a’i gollyngaf yn rhydd. 23#23:23 A hwy a bwysasant arno.Hwythau a fuont daerion â llefau uchel, gan ddeisyfu ei groeshoelio ef. A’u llefau hwynt a’r archoffeiriaid a orfuant. 24#Mat 27:26; Marc 15:15; Ioan 19:16A Pheilat a #23:24 gytunodd.farnodd wneuthur eu deisyfiad hwynt. 25Ac efe a ollyngodd yn rhydd iddynt yr hwn am derfysg a llofruddiaeth a fwriasid yng ngharchar, yr hwn a ofynasant: eithr yr Iesu a draddododd efe i’w hewyllys hwynt. 26#Mat 27:32; Marc 15:21Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a ddaliasant un Simon o Cyrene, yn dyfod o’r wlad, ac a ddodasant y groes arno ef, i’w dwyn ar ôl yr Iesu.
27Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o bobl, ac o wragedd, y rhai hefyd oedd yn cwynfan ac yn galaru o’i blegid ef. 28A’r Iesu, wedi troi atynt, a ddywedodd, Merched Jerwsalem, nac wylwch o’m plegid i: eithr wylwch o’ch plegid eich hunain, ac oblegid eich plant. 29Canys wele, y mae’r dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn eu byd y rhai amhlantadwy, a’r crothau nid epiliasant, a’r bronnau ni roesant sugn. 30#Esa 2:19; Hos 10:8; Dat 6:16; 9:6Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom; ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni. 31#Jer 25:29; 1 Pedr 4:17Canys os gwnânt hyn yn y pren ir, pa beth a wneir yn y crin? 32#Esa 53:12; Mat 27:38Ac arweiniwyd gydag ef hefyd ddau eraill, drwgweithredwyr, i’w rhoi i’w marwolaeth. 33A #Mat 27:33; Marc 15:22; Ioan 19:17, 18phan ddaethant i’r lle a elwir #23:33 Lle y benglog.Calfaria, yno y croeshoeliasant ef, a’r drwgweithredwyr; un ar y llaw ddeau, a’r llall ar yr aswy.
34A’r Iesu a ddywedodd, O Dad, #Act 7:60; 1 Cor 4:12maddau iddynt: canys #Act 3:17ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A #Mat 27:35; Marc 15:24; Ioan 19:23hwy a ranasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren. 35A’r #Salm 22:17; Sech 12:10bobl a safodd yn edrych. #Mat 27:39A’r penaethiaid hefyd gyda hwynt a watwarasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe; gwareded ef ei hun, os hwn yw Crist, etholedig Duw. 36A’r milwyr hefyd a’i gwatwarasant ef, gan ddyfod ato, a chynnig iddo finegr, 37A dywedyd, Os tydi yw Brenin yr Iddewon, gwared dy hun. 38#Mat 27:37; Marc 15:26; Ioan 19:19Ac yr ydoedd hefyd #23:38 deitl.arysgrifen wedi ei hysgrifennu uwch ei ben ef, â llythrennau Groeg, a Lladin, a Hebraeg, HWN YW BRENIN YR IDDEWON.
39Ac un o’r drwgweithredwyr a grogasid a’i cablodd ef, gan ddywedyd, Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau. 40Eithr y llall a atebodd, ac a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr un #23:40 farnedigaeth.ddamnedigaeth? 41A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddai’r pethau a wnaethom: eithr hwn ni wnaeth ddim allan o’i le. 42Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, cofia fi pan ddelych i’th deyrnas. 43A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddiw y byddi gyda mi ym mharadwys. 44#Mat 27:45; Marc 15:33Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl #23:44 dir.ddaear hyd y nawfed awr. 45A’r haul a dywyllwyd, a #Mat 27:51; Marc 15:38llen y deml a rwygwyd yn ei chanol.
46A’r Iesu, gan lefain â llef uchel, a ddywedodd, #Salm 31:5O Dad, i’th ddwylo di y gorchmynnaf fy ysbryd. #Mat 27:50; Marc 15:37; Ioan 19:30Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd. 47#Mat 27:54; Marc 15:39A’r canwriad, pan welodd y peth a wnaethpwyd, a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wir yr oedd hwn yn ŵr cyfiawn. 48A’r holl bobloedd y rhai a ddaethent ynghyd i edrych hyn, wrth weled y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelsant, gan guro eu dwyfronnau. 49A’i holl gydnabod ef a safasant o hirbell, a’r gwragedd y rhai a’i canlynasent ef o Galilea, yn edrych ar y pethau hyn.
50 # Mat 27:57; Marc 15:42; Ioan 19:38 Ac wele, gŵr a’i enw Joseff, yr hwn oedd gynghorwr, gŵr da a chyfiawn: 51(Hwn ni chytunasai â’u cyngor ac â’u gweithred hwynt;) o Arimathea, dinas yr Iddewon, #Marc 15:43; Pen 2:25, 38yr hwn oedd yntau yn disgwyl hefyd am deyrnas Dduw; 52Hwn a ddaeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. 53Ac efe a’i tynnodd i lawr, ac a’i hamdôdd mewn lliain main, ac a’i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, yn yr hwn ni roddasid #23:53 neb.dyn erioed. 54A’r dydd hwnnw oedd #Mat 27:62ddarpar‐ŵyl, a’r Saboth oedd yn nesáu. 55A’r gwragedd hefyd, #Pen 8:2y rhai a ddaethent gydag ef o Galilea, a ganlynasant, ac a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorff ef. 56A hwy a ddychwelsant, ac a baratoesant beraroglau ac ennaint; ac a orffwysasant ar y Saboth, #Exod 20:10yn ôl y gorchymyn.

Currently Selected:

Luc 23: BWM1955C

Tõsta esile

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in