S. Luc 5
5
1A bu, pan yr oedd y dyrfa yn pwyso Arno ac yn clywed Gair Duw, yr oedd Efe yn sefyll yn ymyl llyn Gennesaret: 2a gwelodd ddau gwch yn sefyll wrth y llyn, a’r pysgodwyr, wedi myned allan o honynt, a olchent eu rhwydau. 3Ac wedi myned i mewn i un o’r cychod, yr hwn oedd eiddo Shimon, gofynodd iddo wthio ychydig oddiwrth y tir; ac wedi eistedd, dysgodd y torfeydd, allan o’r cwch. 4A phan beidiodd â llefaru, dywedodd wrth Shimon, Gwthia i’r dwfn, a gollyngwch i wared eich rhwydau am helfa. 5A chan atteb, Shimon a ddywedodd, O Feistr, yr holl nos y poenasom, ac ni ddaliasom ddim; ond ar Dy air Di gollyngaf i wared y rhwydau. 6A phan hyn a wnelsent, cyd-gauasant liaws mawr o bysgod, ac ar dorri yr oedd eu rhwydau; 7ac amneidiasant at eu cyd-gyfranogion oedd yn y cwch arall i ddyfod i’w cynnorthwyo hwynt; a dyfod a wnaethant, a llanwasant y ddau gwch fel yr oeddynt ar soddi. 8A chan weled o Shimon Petr hyn, syrthiodd wrth liniau’r Iesu, gan ddywedyd, Dos allan oddiwrthyf, canys dyn pechadurus wyf, O Arglwydd; 9canys syndod a gymmerth afael arno ef a’r holl rai oedd gydag ef, wrth yr helfa bysgod a ddaliasent, 10a’r un ffunud hefyd ar Iago ac Ioan, meibion Zebedëus, y rhai oeddynt gyfranogion â Shimon. Ac wrth Shimon y dywedodd yr Iesu, Nac ofna; o hyn allan, dynion a ddeli. 11Ac wedi dwyn y cychod i’r tir, gan adael pob peth, canlynasant Ef.
12A bu, pan yr oedd Efe yn un o’r dinasoedd, ac wele, gŵr llawn o wahan-glwyf; ac wedi gweled yr Iesu, wedi syrthio ar ei wyneb, ymbiliodd ag Ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os ewyllysi, abl wyt i’m glanhau i. 13Ac wedi estyn allan Ei law, cyffyrddodd Efe ag ef, gan ddywedyd, Ewyllysiaf: glanhaer di; ac yn uniawn y gwahan-glwyf a aeth ymaith oddiwrtho. 14Ac Efe a orchymynodd iddo na ddywedai wrth neb; eithr, wedi myned ymaith, dangos dy hun i’r offeiriad, a thyred â’r offrwm am dy lanhad, fel yr ordeiniodd Mosheh, yn dystiolaeth iddynt. 15Ac yn fwy ar led yr aeth y gair am Dano; a daeth ynghyd dorfeydd mawrion i glywed ac i’w hiachau o’u clefydau: 16ond Efe oedd yn cilio yn yr anial-leoedd ac yn gweddïo.
17A bu, ar un o’r dyddiau hyny, ac Efe oedd yn dysgu, ac yr oedd yn eu heistedd Pharisheaid ac Athrawon y Gyfraith, y rhai a ddaethent o bob pentref yn Galilea, ac Iwdea ac Ierwshalem; 18a gallu’r Arglwydd oedd i iachau o Hono; ac wele, dynion yn dwyn ar wely ddyn a oedd glaf o’r parlys, a cheisient ddyfod ag ef i mewn, a’i ddodi ger Ei fron Ef. 19A phan na chawsant pa fodd y deuent ag ef i mewn, o achos y dyrfa, wedi esgyn ar y tŷ, trwy’r pridd-lechau y gollyngasant ef i wared ynghyda’r gwely bach, i’r canol ger bron yr Iesu. 20Ac wedi gweled eu ffydd, dywedodd Efe, O ddyn, maddeuwyd i ti dy bechodau. 21A dechreu ymresymmu a wnaeth yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid, gan ddywedyd, Pwy yw hwn y sy’n llefaru cableddau? Pwy sy’n abl i faddeu pechodau oddieithr Duw yn unig? 22A chan ganfod o’r Iesu eu hymresymmiadau, gan atteb y dywedodd wrthynt, Paham yr ymresymmwch yn eich calonnau? 23Pa un sydd hawsaf, ai dywedyd “Maddeuwyd i ti dy bechodau,” neu ddywedyd “Cyfod a rhodia?” 24Ond fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i “faddeu pechodau” (dywedodd wrth y claf o’r parlys), Wrthyt y dywedaf Cyfod, a chan godi dy wely bach, dos i’th dŷ. 25A chan gyfodi yn uniawn yn eu gwydd hwynt, ac wedi codi yr hyn y gorweddai arno, yr aeth ymaith i’w dŷ, dan ogoneddu Duw. 26A syndod a gymmerth arnynt i gyd, a gogoneddasant Dduw, a llanwyd hwy o ofn, gan ddywedyd Gwelsom bethau anhygoel heddyw.
27Ac ar ol y pethau hyn, aeth Efe allan, a gwelodd dreth-gymmerwr a’i enw Lefi, yn ei eistedd wrth y dollfa, 28a dywedodd wrtho, Canlyn Fi: a chan adael pob peth, wedi sefyll i fynu y canlynodd Ef. 29A gwledd fawr a wnaeth Lefi Iddo yn ei dŷ; ac yr oedd tyrfa fawr o dreth-gymmerwyr ac eraill, y rhai oeddynt ynghyda hwynt, yn lled-orwedd wrth y ford. 30A murmurodd y Pharisheaid a’u hysgrifenyddion wrth Ei ddisgyblion gan ddywedyd, Paham mai gyda’r treth-gymmerwyr a phechaduriaid y bwyttewch ac yr yfwch? 31A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid oes rhaid i’r rhai iach wrth feddyg, 32eithr i’r rhai drwg eu hwyl; ni ddaethum i alw cyfiawnion, eithr pechaduriaid, i edifeirwch. 33A hwy a ddywedasant Wrtho, Disgyblion Ioan a ymprydiant yn fynych, a gweddïau a wnant; ac yn y cyffelyb fodd yr eiddo y Pharisheaid, ond yr eiddot Ti a fwyttant ac a yfant. 34A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, A ellwch chwi wneuthur i feibion yr ystafell briodas ymprydio, tra y mae’r priodas-fab gyda hwynt? 35Ond daw’r dyddiau; a phan ddyger y priodas-fab oddi arnynt, yna yr ymprydiant yn y dyddiau hyny. 36A llefarodd hefyd ddammeg wrthynt, Nid yw neb, ar ol rhwygo llain oddiwrth ddilledyn newydd, yn ei roddi ar ddilledyn hen: onite y newydd a rwyga efe, ac â’r hen ni chyttuna y llain y sydd oddiwrth y newydd. 37Ac ni fwrw neb win newydd i gostrelau hen: onite, dryllia’r gwin newydd y costrelau, ac a efe a dywelltir allan, ac am y costrelau y derfydd; 38eithr gwin newydd, i gostrelau newyddion y mae efe i’w fwrw. 39Ac nid oes neb, pan yn yfed yr hen, yn chwennych gwin newydd; canys ebr efe, Yr hen sydd dda.
Currently Selected:
S. Luc 5: CTB
Tõsta esile
Share
Kopeeri

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.