Logo de YouVersion
Ícono Búsqueda

Matthew Lefi 7:15-20

Matthew Lefi 7:15-20 CJW

Ymogelwch rhag geuathrawon, y rhai sydd yn dyfod atoch yn ngwisg defaid, tra y maent oddifewn yn fleiddiaid gwancus. Wrth eu ffrwythau y darganfyddwch hwynt. A gesglir gwinrawn oddar ddrain; neu ffigys oddar ysgall? Pob pren da á ddwg ffrwyth da; a phob pren drwg ffrwyth drwg. Ni ddichon pren da ddwyn ffrwyth drwg, na phren drwg ffrwyth da. Pob pren nad yw yn dwyn ffrwyth da, á dòrir i lawr, ac á droir yn danwydd. Am hyny, wrth eu ffrwythau y darganfyddwch hwynt.