Salmau 33:18-19
Salmau 33:18-19 SC1875
Wele, mae llygaid ein Duw fry Ar y rhai hyny a’i hofnant; Dan aden ei drugaredd glyd Hwynthwy i gyd obeithiant. Fe geidw’u henaid yn ddigryn Rhag angeu yn ddiangol; Fe’u cynnal hwy yn fyw bob un Yn amser newyn deifiol.