1
Salmau 37:4
Salmau Cân - Tŵr Dafydd 1875 (Gwilym Hiraethog)
’Mddigrifa hefyd yn yr Iôr, Dy galon agor ger ei fron, A lleinw ef o’i ras didrai Holl ddymuniadau helaeth hon.
Comparar
Explorar Salmau 37:4
2
Salmau 37:5
Treigla dy ffordd ar Dduw trwy ffydd, A’th lwybrau cudd, fe’u dwg i ben
Explorar Salmau 37:5
3
Salmau 37:7
Distawa’n Nuw, a disgwyl di Am ei oleuni ef a’i ras, Ac nac ymddigia wrth wŷr gau Fo’n llwyddo ar lwybrau pechod câs.
Explorar Salmau 37:7
4
Salmau 37:3
Yn Nuw o hyd gobeithia di, A gwna ddaioni heb lwfrhau; Ac felly trigi yn y tir, A thi a borthir yn ddiau
Explorar Salmau 37:3
5
Salmau 37:23-24
Duw yn wastad gyfarwydda Holl gerddediad y gŵr da, Da yw ganddo ffordd yr uniawn, Ei fendithio beunydd wna; Er i’r cyfiawn weithiau gwympo Ar lithrigfa yma a thraw, Ef i lawr yn llwyr ni fwrir — Duw a’i cynnal ef â’i law.
Explorar Salmau 37:23-24
6
Salmau 37:6
Dwg allan dy gyfiawnder — bydd Dy farn fel canol dydd di‐len
Explorar Salmau 37:6
7
Salmau 37:8
Paid â digofaint — ymaith gâd Gynddaredd anfad, a phob gŵg; Ymgadw rhag byrbwylldra llym, Na ’mddigia er dim i wneuthur drwg
Explorar Salmau 37:8
8
Salmau 37:25
Myfi a fu’m yn ieuangc, ’Rwy’n awr yn hen o oed; Y cyfiawn wedi ei adu Ni welais etto erioed; Ei had ef yn cardota Eu bara o dŷ i dŷ Ni welais chwaith, can’s bendith Duw yn eu dilyn sy’.
Explorar Salmau 37:25
9
Salmau 37:1
Byth nac ymddigia er maint eu rhus Wrth wŷr drygionus ffol eu naws; Na chenfigena mewn poeth sêl Wrth rai a wnel anwiredd traws
Explorar Salmau 37:1
Inicio
Biblia
Planes
Videos