Logo de YouVersion
Icono de búsqueda

Luc 15

15
Dameg y Ddafad Golledig
Mth. 18:12–14
1Yr oedd yr holl gasglwyr trethi a'r pechaduriaid yn nesáu ato i wrando arno. 2Ond yr oedd y Phariseaid a'r ysgrifenyddion yn grwgnach ymhlith ei gilydd, gan ddweud, “Y mae hwn yn croesawu pechaduriaid ac yn cydfwyta gyda hwy.” 3A dywedodd ef y ddameg hon wrthynt: 4“Bwriwch fod gan un ohonoch chwi gant o ddefaid, a digwydd iddo golli un ohonynt; onid yw'n gadael y naw deg a naw yn yr anialdir ac yn mynd ar ôl y ddafad golledig nes dod o hyd iddi? 5Wedi dod o hyd iddi y mae'n ei gosod ar ei ysgwyddau yn llawen, 6yn mynd adref, ac yn gwahodd ei gyfeillion a'i gymdogion ynghyd, gan ddweud wrthynt, ‘Llawenhewch gyda mi, oherwydd yr wyf wedi cael hyd i'm dafad golledig.’ 7Rwy'n dweud wrthych, yr un modd bydd mwy o lawenydd yn y nef am un pechadur sy'n edifarhau nag am naw deg a naw o rai cyfiawn nad oes arnynt angen edifeirwch.
Dameg y Darn Arian Colledig
8“Neu bwriwch fod gan wraig ddeg darn arian, a digwydd iddi golli un darn; onid yw hi'n cynnau cannwyll ac yn ysgubo'r tŷ ac yn chwilio'n ddyfal nes dod o hyd iddo? 9Ac wedi dod o hyd iddo, y mae'n gwahodd ei chyfeillesau a'i chymdogion ynghyd, gan ddweud, ‘Llawenhewch gyda mi, oherwydd yr wyf wedi cael hyd i'r darn arian a gollais.’ 10Yr un modd, rwy'n dweud wrthych, y mae llawenydd ymhlith angylion Duw am un pechadur sy'n edifarhau.”
Dameg y Mab Colledig
11Ac meddai, “Yr oedd dyn a chanddo ddau fab. 12Dywedodd yr ieuengaf ohonynt wrth ei dad, ‘Fy nhad, dyro imi'r gyfran o'th ystad sydd i ddod imi.’ A rhannodd yntau ei eiddo rhyngddynt. 13Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, wedi newid y cwbl am arian, ymfudodd y mab ieuengaf i wlad bell, ac yno gwastraffodd ei eiddo ar fyw'n afradlon. 14Pan oedd wedi gwario'r cyfan, daeth newyn enbyd ar y wlad honno, a dechreuodd yntau fod mewn eisiau. 15Aeth ac ymlynu wrth un o ddinasyddion y wlad, ac anfonodd hwnnw ef i'w gaeau i ofalu am y moch. 16Buasai'n falch o wneud pryd o'r plisg yr oedd y moch yn eu bwyta; ond nid oedd neb yn cynnig dim iddo. 17Yna daeth ato'i hun a dweud, ‘Faint o weision cyflog sydd gan fy nhad, a phob un ohonynt yn cael mwy na digon o fara, a minnau yma yn marw o newyn? 18Fe godaf, ac fe af at fy nhad a dweud wrtho, “Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di. 19Nid wyf mwyach yn haeddu fy ngalw'n fab iti; cymer fi fel un o'th weision cyflog.” ’ 20Yna cododd a mynd at ei dad. A phan oedd eto ymhell i ffwrdd, gwelodd ei dad ef. Tosturiodd wrtho, rhedodd ato, a rhoes ei freichiau am ei wddf a'i gusanu. 21Ac meddai ei fab wrtho, ‘Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di. Nid wyf mwyach yn haeddu fy ngalw'n fab iti.’ 22Ond meddai ei dad wrth ei weision, ‘Brysiwch! Dewch â gwisg allan, yr orau, a'i gosod amdano. Rhowch fodrwy ar ei fys a sandalau am ei draed. 23Dewch â'r llo sydd wedi ei besgi, a lladdwch ef. Gadewch inni wledda a llawenhau, 24oherwydd yr oedd hwn, fy mab, wedi marw, a daeth yn fyw eto; yr oedd ar goll, a chafwyd hyd iddo.’ Yna dechreusant wledda yn llawen.
25“Yr oedd ei fab hynaf yn y caeau. Pan nesaodd at y tŷ ar ei ffordd adref, clywodd sŵn cerddoriaeth a dawnsio. 26Galwodd un o'r gweision ato a gofyn beth oedd ystyr hyn. 27‘Dy frawd sydd wedi dychwelyd,’ meddai ef wrtho, ‘ac am iddo ei gael yn ôl yn holliach, y mae dy dad wedi lladd y llo oedd wedi ei besgi.’ 28Digiodd ef, a gwrthod mynd i mewn. Daeth ei dad allan a'i gymell yn daer i'r tŷ, 29ond atebodd ef, ‘Yr holl flynyddoedd hyn bûm yn was bach iti, heb anufuddhau erioed i'th orchymyn. Ni roddaist erioed i mi gymaint â myn gafr, imi gael gwledda gyda'm cyfeillion. 30Ond pan ddychwelodd hwn, dy fab sydd wedi difa dy eiddo gyda phuteiniaid, lleddaist iddo ef y llo oedd wedi ei besgi.’ 31‘Fy mhlentyn,’ meddai'r tad wrtho, ‘yr wyt ti bob amser gyda mi, ac y mae'r cwbl sydd gennyf yn eiddo i ti. 32Yr oedd yn rhaid gwledda a llawenhau, oherwydd yr oedd hwn, dy frawd, wedi marw, a daeth yn fyw; yr oedd ar goll, a chafwyd hyd iddo.’ ”

Actualmente seleccionado:

Luc 15: BCND

Destacar

Compartir

Copiar

None

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión