Logo de YouVersion
Icono de búsqueda

Rhufeiniaid 9

9
1Y gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid celwyddu yr wyf, fy nghydwybod yn cyd-dystiolaethu â mi yn yr Yspryd Glân, 2mai tristyd mawr sydd genyf, a gofid dibaid yn fy nghalon, 3canys dymunwn fod fy hun yn anathema oddiwrth Grist tros fy mrodyr, fy nghyd-genedl yn ol y cnawd, y rhai ydynt Israeliaid; 4eiddo y rhai yw’r mabwysiad a’r gogoniant, a’r cyfammodau a rhoddiad y Gyfraith, 5a’r gwasanaeth a’r addewidion; eiddo y rhai yw’r tadau, ac o’r rhai y mae Crist yn ol y cnawd, yr Hwn sydd uwchlaw pob peth, Duw bendigedig yn oes oesoedd. Amen. 6Ond nid oes bosibl y syrth gair Duw, 7canys nid pawb y sydd o Israel ydynt Israel, ac nid ydynt, oblegid eu bod yn had Abraham, oll yn blant, eithr “Yn Itsaac y gelwir i ti had,” 8hyny yw, nid plant y cnawd, y rhai hyny sy blant i Dduw, eithr plant yr addewid a gyfrifir yn had. 9Canys gair o addewid yw’r gair hwn, 10“Ar yr amser hwn y deuaf, a bydd i Sara fab.” Ac nid hyny yn unig, eithr Rebeca hefyd wedi iddi feichiogi o un, sef Itsaac ein tad; 11(canys a hwy heb etto eu geni, nac wedi gwneuthur dim da neu ddrwg, fel y byddai i arfaeth Duw yn ol etholedigaeth sefyll, nid o weithredoedd eithr o’r Hwn sy’n galw,) 12dywedwyd wrthi, “Yr hynaf a wasanaetha’r ieuengaf:” 13fel yr ysgrifenwyd, “Iacob a gerais, ond Esau a gaseais.”
14Pa beth, gan hyny, a ddywedwn? Ai, A oes anghyfiawnder gyda Duw? 15Na atto Duw; canys wrth Mosheh y dywaid Efe, “Trugarhaf wrth yr hwn y trugarhaf, a thosturiaf wrth yr hwn y tosturiaf.” 16Gan hyny, ynte, nid yw o’r hwn sy’n ewyllysio, nac o’r hwn sy’n rhedeg, eithr o’r Hwn sy’n trugarhau, sef Duw. 17Canys dywaid yr Ysgrythyr wrth Pharaoh, “Er hyn ei hun y cedwais di i fynu, fel y dangoswn Fy ngallu ynot, ac fel y datgenid Fy enw yn yr holl ddaear.” 18Gan hyny, ynte, wrth yr hwn yr ewyllysia y trugarha Efe, ac yr hwn yr ewyllysia y mae Efe yn ei galedu.
19Dywedi wrthyf, gan hyny, Paham y mae Efe etto yn beio? 20Canys yn erbyn ei Ewyllys Ef pwy sy’n sefyll? O ddyn, ynte, tydi, pwy wyt, yr hwn wyt yn atteb yn erbyn Duw? A ddywaid y peth a ffurfiwyd wrth yr hwn a’i ffurfiodd, Paham y’m gwnaethost fi fel hyn? 21Onid oes awdurdod gan y crochenydd ar y priddgist, o’r un telpyn pridd i wneuthur un llestr i barch, ac arall i ammharch? 22Ac os Duw, yn ewyllysio dangos Ei ddigofaint, a pheri adnabod Ei allu, a oddefodd, â llawer o hir-ymaros, lestri digofaint wedi eu cymhwyso i ddistrywiad, 23ac fel y parai adnabod golud Ei ogoniant ar lestri trugaredd y rhai a rag-barottodd Efe i ogoniant, 24sef nyni, y rhai a alwodd Efe hefyd nid yn unig o’r Iwddewon, eithr o’r cenhedloedd hefyd, 25fel yn Hoshea hefyd y dywaid,
“Galwaf yr hon nad yw Fy mhobl yn bobl i Mi;
A’r hon nad yw anwyl, yn anwyl;
26A bydd yn y lle y dywedwyd wrthynt, Nid Fy mhobl ydych chwi,
Yna y gelwir hwy Meibion y Duw byw.”
27Eshaiah hefyd sy’n llefain am Israel,
“Cyd byddai nifer meibion Israel fel tywod y môr,
Y gweddill a achubir;
28Canys Ei air, gan ei orphen a’i gwttogi ef,
A wnaiff Iehofah ar y ddaear.”
29Ac fel y dywedodd Eshaiah yn y blaen.
“Oni buasai i Iehofah Tsabaoth adael i ni had,
Fel Sodom y buasem, ac i Gommorah y buasem gyffelyb.”
30Pa beth, gan hyny, a ddywedwn? Y cenhedloedd, y rhai ni ddilynent gyfiawnder, a ddaethant hyd i gyfiawnder, ond y cyfiawnder y sydd o ffydd: 31ond Israel, yn dilyn cyfraith cyfiawnder, at y gyfraith honno ni chyrhaeddodd. 32Paham? O herwydd nad o ffydd, eithr fel o weithredoedd y dilynent; tarawsant wrth y maen-tarawo, fel yr ysgrifenwyd,
“Wele, gosod yr wyf yn Tsion faen-tarawo a charreg tramgwydd;
A’r hwn sy’n credu Ynddo Ef, ni chywilyddir.”

Actualmente seleccionado:

Rhufeiniaid 9: CTB

Destacar

Compartir

Copiar

None

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión