Logo de YouVersion
Icono de búsqueda

Rhufeiniaid 7

7
1Ai heb wybod yr ydych, frodyr, (canys wrth rai yn gwybod y Gyfraith yr wyf yn dywedyd,) fod y Gyfraith yn arglwyddiaethu ar ddyn am gymmaint o amser ag y mae efe yn fyw? 2Canys y wraig ag iddi ŵr, i’r gŵr, tra yn fyw, y rhwymwyd hi gan y Gyfraith; ond os bydd marw y gŵr, rhyddhawyd hi oddiwrth gyfraith y gŵr. 3Gan hyny, ynte, tra byw yw’r gŵr, godineb-wraig y gelwir hi os aiff yn eiddo gŵr arall; ond os marw fydd y gŵr, rhydd yw oddiwrth y gyfraith fel na bo yn odineb-wraig wedi myned yn eiddo gŵr arall. 4Gan hyny, fy mrodyr, chwithau hefyd a’ch gwnaethpwyd yn feirw i’r Gyfraith trwy gorph Crist, fel yr eloch yn eiddo un arall, yr Hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygom ffrwyth i Dduw. 5Canys pan oeddym yn y cnawd, y gwyniau pechadurus, y rhai sydd trwy’r Gyfraith, a weithient yn ein haelodau i ddwyn ffrwyth i farwolaeth; 6ond yn awr y’n rhyddhawyd oddiwrth y Gyfraith, wedi ein meirw i’r peth y’n hattelid ynddo, fel mai gwasanaethu yr ydym yn newydd-deb buchedd, ac nid yn hendra y llythyren.
7Pa beth, gan hyny, a ddywedwn? Ai, Y Gyfraith sydd bechod? Na atto Duw; eithr pechod nid adnabum, oddi eithr trwy’r Gyfraith; canys trachwant nid adnabuaswn 8oddieithr i’r Gyfraith ddywedyd, “Ni thrachwanti;” ond wedi cymmeryd achlysur, pechod a weithiodd ynof, trwy’r Gyfraith, 9bob trachwant; canys yn wahan oddiwrth y Gyfraith, y mae pechod yn farw. Ac myfi a fu’m fyw unwaith yn wahan oddiwrth y Gyfraith; ond wedi dyfod y gorchymyn, pechod a adfywiodd, ac myfi a fu’m farw; 10a chafwyd y gorchymyn genyf, yr hwn oedd i fywyd, i farwolaeth; 11canys pechod, wedi cymmeryd achlysur trwy’r gorchymyn, a’m twyllodd; a thrwyddo ef y’m lladdodd. 12Felly y Gyfraith, sanctaidd yw; a’r gorchymyn yn sanctaidd ac yn gyfiawn ac yn dda. 13Ai’r hyn sydd dda, gan hyny, a aeth yn farwolaeth i mi? Na atto Duw: eithr pechod, fel yr ymddangosai yn bechod, gan weithio, trwy’r hyn sydd dda, farwolaeth i mi —, fel yr elai pechod yn bechadurus dros fesur trwy’r gorchymyn. 14Canys gwyddom fod y Gyfraith yn ysprydol; ond myfi, cnawdol wyf, wedi fy ngwerthu dan bechod; 15canys yr hyn yr wyf yn ei weithredu, nis gwn ef, canys nid yr hyn yr wyf yn ei ewyllysio, yr wyf yn ei wneud; eithr yr hyn sydd gas genyf, hwnw yr wyf yn ei wneuthur. 16Ac os yr hyn nad wyf yn ei ewyllysio yr wyf yn ei wneuthur, cydsynio â’r Gyfraith yr wyf mai da yw. 17Ac yn awr, nid myfi sydd mwyach yn ei weithredu ef, eithr y pechod y sy’n trigo ynof; 18canys gwn nad oes yn trigo ynof, hyny yw yn fy nghnawd, ddim da; canys yr ewyllysio sydd bresennol gyda mi, ond gweithredu y da nid yw; 19canys nid yr hyn yr wyf yn ei ewyllysio, y da, yr wyf yn ei wneuthur, eithr yr hyn nad wyf yn ei ewyllysio, y drwg, hwnw yr wyf yn ei wneud; 20ac os yr hyn nad wyf yn ei ewyllysio, hwnw yr wyf yn ei wneuthur, nid myfi mwyach sydd yn ei weithredu ef, eithr y pechod y sy’n trigo ynof. 21Cenfyddaf, gan hyny, y gyfraith i mi sy’n ewyllysio gwneuthur yr hyn sy dda, mai i mi yr hyn sy ddrwg sydd bresennol; 22canys ymhyfrydu yr wyf ynghyfraith Dduw yn ol y dyn oddimewn, 23ond gwelaf gyfraith arall yn fy aelodau, yn rhyfela yn erbyn cyfraith fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i gyfraith pechod, yr hon sydd yn fy aelodau. 24Y truan o ddyn myfi! O na’m rhyddheid o’r corph marwol hwn! 25Diolch yr wyf i Dduw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Gan hyny, ynte, myfi fy hun â’m meddwl wyf yn gwasanaethu cyfraith Dduw; ond â’m cnawd, gyfraith pechod.

Actualmente seleccionado:

Rhufeiniaid 7: CTB

Destacar

Compartir

Copiar

None

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión