Rhufeiniaid 11
11
1Dywedaf, gan hyny, A fwriodd Duw ymaith Ei bobl? Na atto Duw: canys myfi hefyd, Israeliad wyf, o had Abraham, o lwyth Beniamin. 2Ni fwriodd Duw ymaith Ei bobl, yr hon a rag-adnabu Efe. Oni wyddoch pa beth ym matter Elias, a ddywaid yr Ysgrythyr, y modd yr erfyn efe ar Dduw yn erbyn Israel, 3sef “Arglwydd, Dy brophwydi a laddasant hwy; Dy allorau a gloddiasant hwy i lawr; ac myfi a adawyd yn unig; a cheisio fy einioes i y maent.” 4Eithr pa beth a ddywaid atteb Duw wrtho? “Gadewais i Mi Fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasgant lin i Baal.” 5Felly, gan hyny, yn yr amser presennol hefyd, gweddill, 6yn ol etholedigaeth gras, y sydd; ac os trwy ras, nid yw mwyach o weithredoedd, canys pe amgen, gras nid yw mwyach yn ras. 7Pa beth, gan hyny? Yr hyn y mae Israel yn ei geisio, hyny ni chafodd efe; ond yr etholedigaeth a’i cafodd, 8a’r lleill a galedwyd, fel yr ysgrifenwyd,
“Rhoddes Duw iddynt yspryd trymgwsg,
Llygaid fel na welent,
A chlustiau fel na chlywent,”
9hyd y dydd heddyw. A Dafydd a ddywaid,
“Bydded eu bwrdd yn fagl ac yn hoenyn,
Ac yn dramgwydd, ac yn daledigaeth iddynt;
10Tywyller eu llygaid fel na welont;
Ac eu cefn, cydgrymma ef bob amser.”
11Dywedaf, gan hyny, A dripiasant hwy fel y syrthient? Na atto Duw; eithr trwy eu cwymp, iachawdwriaeth sydd i’r cenhedloedd, 12er mwyn gyrru eiddigedd arnynt; ac os yw eu cwymp yn olud y byd, ac eu colled yn olud y cenhedloedd, pa faint mwy y bydd eu cyflawnder?
13Ac wrthych chwi y cenhedloedd y dywedaf, Yn gymmaint ag fy mod i yn apostol y cenhedloedd, fy ngweinidogaeth a ogoneddaf, 14os rhyw fodd y gyrrwyf eiddigedd ar y rhai ydynt fy nghnawd, 15ac achub o honof rai o honynt: canys os eu bwrw hwynt ymaith yw cymmod y byd, pa beth fydd eu derbyniad ond bywyd o feirw? 16Ac os yw’r blaen-ffrwyth yn sanctaidd, y clamp toes hefyd sydd felly; ac os yw’r gwreiddyn yn sanctaidd, y canghennau hefyd ydynt felly. 17Ac os rhai o’r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi, yn olew-wydden wyllt, a impiwyd i mewn yn eu plith, ac yn gydgyfrannog â hwynt o wreiddyn brasder yr olew-wydden y’th wnaethpwyd, 18nac ymffrostia yn erbyn y canghennau; ac os ymffrosti yn eu herbyn, nid tydi sydd yn dwyn y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi. 19Dywedi, gan hyny, Torrwyd ymaith ganghennau, fel y byddai i mi fy impio i mewn. 20Da. Trwy eu hanghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith; a thydi, trwy dy ffydd yr wyt yn sefyll. 21Na fydd uchel-fryd, eithr ofna; canys os y canghennau naturiol na fu i Dduw eu harbed, tithau nid arbeda Efe er dim. 22Gwel, gan hyny, ddaioni a thoster Duw; tua’r rhai a gwympasant, doster; ond tuag attat ti, ddaioni Duw, os parhai yn Ei ddaioni; onite, tithau hefyd a dorrir ymaith; 23a hwythau hefyd, os na pharhant yn eu hanghrediniaeth, a impir i mewn, canys abl yw Duw i’w himpio hwynt i mewn drachefn. 24Canys os tydi a dorrwyd allan o’r olew-wydden wyllt wrth naturiaeth, ac yn erbyn naturiaeth y’th impiwyd i mewn i olew-wydden dda, pa faint mwy y bydd i’r rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holew-wydden eu hun?
25Canys nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod, frodyr, y dirgelwch hwn, rhag i chwi fod yn ddoethion yn eich meddwl eich hun, fod calediad o ran wedi digwydd i Israel nes i gyflawnder y cenhedloedd ddyfod i mewn; 26ac felly holl Israel fydd gadwedig, fel yr ysgrifenwyd,
“Daw allan o Tsion y Gwaredwr,
Try ymaith annuwioldeb oddiwrth Iacob;
27A hwn yw iddynt y cyfammod oddiwrthyf Fi;
Pan gymmerwyf ymaith eu pechodau.”
28O ran yr efengyl, gelynion ydynt er eich mwyn chwi; ond o ran yr etholedigaeth, yn anwyl er mwyn y tadau; 29canys heb edifeirwch am danynt y mae doniau a galwedigaeth Duw. 30Canys fel y buoch chwi gynt yn anufudd i Dduw, ond yn awr y trugarhawyd wrthych trwy anufudd-dod y rhai hyn; 31felly y rhai hyn yn awr a anufuddhasant, fel trwy y drugaredd i chwi y trugarheid wrth y rhai hyn hefyd yn awr; 32canys cyd-gauodd Duw bawb i anufudd-dod, fel wrth bawb y trugarhai.
33O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw!
Mor anchwiliadwy yw Ei farnau, ac anolrheiniadwy Ei ffyrdd!
34Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd; neu pwy fu gynghorwr Iddo?
35Neu pwy a rag-roddodd Iddo, ac y telir yn ol iddo?
36Canys o Hono Ef, a thrwyddo Ef, ac Iddo Ef y mae pob peth!
Iddo Ef y bo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
Actualmente seleccionado:
Rhufeiniaid 11: CTB
Destacar
Compartir
Copiar

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.